Taith luniau Tregaron
- Cyhoeddwyd

Rhiannon yn creu gemwaith
Er mai lle bach yw lleoliad yr Eisteddfod eleni, mae gan dref farchnad hynafol Tregaron yng nghefn gwlad Ceredigion gymeriad mawr iddi, yn enwedig oherwydd y gymuned a'i phobl.
Fe symudodd y ffotograffydd Sam Stevens, 24, gyda'i deulu i bentref bach Llangeitho ger Tregaron yn 13 oed yn 2011.
Ers hynny mae Sam, sydd wedi astudio delweddau ffasiwn ym Mhrifysgol Salford a ffotograffiaeth ym Mhrifysgol de Cymru wedi bod â diddordeb mawr yn yr ardal a'i phobl.
Fel Sam ei hun dros ddegawd yn ôl, bydd llawer yn cael blas ar yr ardal am y tro cyntaf yr wythnos hon, a diolch i'r Eisteddfod eleni mae'r ffotograffydd wedi cael cyfle i ddogfennu'r ardal a'i phobl ar gyfer Cymru Fyw.
Dyma gipolwg ar daith Sam o gwmpas Tregaron drwy lens ei gamera ffilm.

Idwal ar y 588

Evie tu allan i'r siop nwyddau naturiol

Pam yn ei Nissan Figaro

KJ tu allan i KJ's Shop

Yr hen ysgol gynradd

Christopher Thomas

Jenny a Ben

Cysgod Tywyll

Gweithwyr Caron Stores

Rhiannon yn creu gemwaith

Ochr y Talbot

Drws garej

Alisee a Kristian tu allan i Coffi a Bara

Ffyrdd unffordd sydd yn y dre am y tro

Michael McCann

Tu allan i'r Mart

Tŷ yn y dref

Golygfa dros dai Tregaron

Criw Taith Celf Ceredigion

Gorsaf dân

Stâd ddiwydiannol

