In Pictures: Thursday at the National Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n ddiwrnod o fwynhau yn yr heulwen, ac ambell i brotest, ar y Maes Ddydd Iau - dyma flas o'r hyn ddigwyddodd yn yr Eisteddfod.

There was plenty of sunshine, and a few protests, on the Maes on Thursday. Here's a taste of the day at the National Eisteddfod.

Yn ystod y cyfnod clo bu Jenny M Thomas (Bush Gothic) ac Angharad Jenkins (Calan) yn cydweithio - y naill yn Awstralia a'r llall yng Nghymru. Daeth y ddwy at ei gilydd yn y Tŷ Gwerin i berfformio am y tro cyntaf // During the lockdown Jenny M Thomas (Bush Gothic) and Angharad Jenkins (Calan) worked together on a musical project - one was in Australia, the other in Wales. They came together for the first time to perform at Tŷ Gwerin

Peidiwch â gwneud hyn gartref... arbrawf ffrwydrol gyda TSE yn y pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg // Don't try this at home... pyrotechnics with TSE at the Science and Technology village

Gweithdy cerdd... Paul yn gwneud telyn ar stondin Telynau Derwent // Paul of Telynau Derwen gives a new meaning to musical workshop

Un o'r nifer o berfformiadau theatr stryd ar y Maes // One of several street theatre performances on the Maes

Mackenzie o Gasgwent ac Erin o Gasnewydd // Mackenzie from Chepstow and Erin from Newport

Roedd dros 200 o bobl ym mhrotest Cymdeithas yr Iaith am y sefyllfa ail dai // More than 200 people came to the Cymdeithas yr Iaith protest against second homes

Nage, nid ymweliad gan arweinwyr byd-enwog â'r Brifwyl ond protestwyr newid hinsawdd grŵp Extinction Rebellion yn dynwared gwleidyddion ar y Maes // Not world leaders at the Eisteddfod, but environment group Extinction Rebellion protestors dressed as policitians

Cadw golwg ar y diweddara yn y sin roc Gymraeg gyda cylchgrawn Y Selar // Keeping an eye on the latest news from the Welsh pop scene with Y Selar magazine

Mared o Benygroes, Lleucu o Bwllheli a Megan o Hen Golwyn // Mared from Penygroes, Lleucu from Pwllheli and Megan from Old Colwyn

Dod â hanes yn fyw i'r genhedlaeth nesaf yn stondin Cadw // Cadw staff bring history to life for the younger generation

Un o'r Eisteddfotwyr ifanc yn mwynhau yn yr haul // A young Eisteddfod-goer enjoying the sun

Elis Derby yn diddanu yng Nghaffi Maes B // Elis Derby performing in Caffi Maes B

Jac yn mwynhau yn yr adran chwaraeon // Jac in the sports area

Roedd het fwced yn fuddiol yn yr haul ddydd Iau... // Bucket hats came in handy during the sunny weather...

... a hufen iâ hefyd fel oedd Gwilym a Deio o Ben Llŷn yn gwybod yn iawn // ... as did ice cream, as Gwilym and Deio from Pen Llŷn were keen to find out

