'Rhaid trafod salwch meddwl yn ogystal ag iechyd meddwl'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ceri Ashe yn perfformio
Disgrifiad o’r llun,

Mae drama Ceri Ashe wedi'i seilio ar ei phrofiad hi o'r anhwylder deubegynol

"Mae angen trafod salwch meddwl yn ogystal ag iechyd meddwl." Dyna yw neges actores o Faenclochog yn Sir Benfro sy'n cyflwyno drama yn Theatr y Maes am ei phrofiad hi o fyw â'r anhwylder deubegynol.

Fe gafodd Ceri Ashe ddiagnosis pan oedd hi'n 29 oed, ac mae hi'n teimlo fod maes y Brifwyl yn le pwysig i drafod hyn.

"Rwy'n meddwl bod e'n bwysig bo' ni yn siarad am hyn yn Gymraeg. Mae e'n sioe sy'n meddwl lot i fi gan fod e'n based ar bywyd fi.

"Mae 'di bod yng nghefn fy meddwl i fi i 'neud e 'nôl yng Nghymru, felly mae'n gyffrous iawn i ddod i'r Eisteddfod."

Er fod pethau yn gwella, mae'n dal i deimlo bod "lot o stigma a mystery o hyd am bipolar… ac mae y perfformiad wedi selio ar fy mywyd i bum mlynedd yn ôl pan 'nes i ffindo mas bod bipolar gyda fi".

'Naill ai'n caru bywyd neu'n isel iawn'

Mae'n disgrifio sut y buodd hi am amser hir cyn cael diagnosis, a bod hynny yn anodd.

"Ar gyfartaledd mae'n hala 10 mlynedd i gael diagnosis i rywun sy' â bipolar, ti ffaelu 'neud blood test na chael sgan, na sgan ar yr ymennydd - mae i gyd yn behaviour-based."

"Mae'n rili galed i gael diagnosis iddo fe. Ti'n mynd i'r doctor a dweud ti'n depressed,a maen nhw'n rhoi ti ar antidepressants. Ond dwyt ti ti ddim yn mynd i'r doctor pan ti'n teimlo'n hapus. So mae'n rili galed i ddiagnoso."

"Roedd teulu fi'n poeni achos bo' fi naill ai'n caru bywyd fi, neu o'n i'n rili, rili isel.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth diagnosis helpu Ceri i ddelio â'r cyflwr

"Roedd fy ffrindie i'n meddwl, 'o Ceri yw'r life and soul of the party,' ond eto doedden nhw ddim yn gweld fi pan o'n i yn rili isel... ti ddim yn dangos i'r byd pan ti'n rili depressed."

Ar ôl cael diagnosis, mae Ceri'n teimlo bod delio â'r anhwylder yn haws iddi hi.

"Tan bo' fi wedi dechrau darllen ar y we am bipolar, ac mae'r ddrama yn cyffwrdd â hyn… wedyn roedd bywyd fi i gyd yn 'neud synnwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ceri yn awyddus i ddod â'r ddrama i Gymru

"Be sy'n galed yw bod y mania o dy ran di yn grêt, ond ddim mor grêt i bobl sy'n caru ti, achos ti off the rails tamed bach."

"Ac er bo' fi yn teimlo'n well achos ro'n i yn deall bywyd fi… roedd e hefyd yn galed achos mae e'n incurable…roedd e'n galed i dderbyn bod hwn mynd i fod gyda fi weddill fy mywyd i. Chi ffaelu cymryd tabled i wella fe, dim ond cymryd tabledi i helpu."

"Ond roedd e'n neis cael y diagnosis i fi yn bersonol. Dyw pawb ddim yn teimlo fel 'na dwi'n gwybod, mae rhai ddim yn licio cael term i ddisgrifio nhw, ond i fi mae'n helpu."

'Pwysig dod â'r sgwrs i gefn gwlad'

Dywed fod siarad a chael cyfle i ddod â'r cyflwyniad yma i ardal wledig yn bwysig.

"Ma' angen trafod salwch meddwl yn ogystal â iechyd meddwl - mae yna wahaniaeth, ac mae yn bwysig i drafod hyn nawr yn y 'steddfod gyntaf ar ôl y pandemig pan bod iechyd meddwl pobl fwy na thebyg yn waeth na mae e 'di bod erioed."

"Rwy'n meddwl hefyd bod e'n bwysig bod pobl cefn gwlad yn siarad am bipolar a iechyd meddwl a gallu rhoi llaw fyny a dweud bod gyda nhw iselder neu bipolar neu mental illness neu beth bynnag."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n debygol fod iechyd meddwl llawer ohonom yn waeth wedi'r pandemig, medd Ceri

"Yn Llundain mae'n haws i fi 'neud achos fi'n fwy anonymous yn fan 'na - i ddod 'nôl i Gymru, gwlad fach, pawb yn nabod ei gilydd, mae'n fwy anodd ac yn fwy scary."

Ers iddi ddechrau trafod yr anhwylder a sôn am ei phrofiad hi ei hun, mae'n deud iddi sylweddoli pa mor gyffredin yw'r anhwylder.

"Ers i fi ddod allan a dweud bod fi â bipolar, mae lot o bobl yn siarad 'da fi am hyn, yn dweud eu stori nhw eu hunan, neu ma' nhw 'nabod rhywun sy' â bipolar. Mae e'n fwy cyffredin nag y mae pobl yn feddwl."

'Teimlo mai chi yw'r broblem'

Mae'r fyfyrwraig Ffion Connick hefyd yn dweud ei bod hi'n bwysig iawn siarad am ein teimladau.

Fe fydd Ffion yn rhan o sesiwn Senedd Ieuenctid Cymru ar iechyd, meddwl a lles ar faes yr Eisteddfod ddydd Llun.

Mi brofodd Ffion ei hun gyfnod heriol ar ddechrau ei chyfnod yn y brifysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn atal pobl rhag rhannu baich, medd Ffion Connick

"Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ffactor mawr," meddai.

"Mae'r portreadu bywyd perffaith yma ar-lein mewn gwirionedd yn stopio pobl rhag trafod sut maen nhw wir yn teimlo.

"Wrth edrych ar y we chi'n cael yr argraff fod pobl yn byw bywydau perffaith ac mai chi yw'r broblem."

Ac mae'n teimlo fod angen i gymdeithas ymestyn allan ac annog unigolion i rannu eu teimladau.

"Mae 'na ddiffyg adnoddau allan yna," ychwanegodd.

"Dim digon o siarad rhwng pobl am eu teimladau, yn bendant dim digon o gefnogaeth wyneb yn wyneb arbenigol a dim digon yn cael ei wneud i wella'r sefyllfa."

Mae Ffion yn teimlo fod platfform yr Eisteddfod Genedlaethol yn hollbwysig er mwyn tynnu sylw at faterion fel hyn, ac fe fyddai'n hoffi i iechyd meddwl gael rhagor o sylw yn ein hysgolion.

"Dydw i ddim yn dweud dyle hwn gymryd drosodd y cwricwlwm ond mae 'na le iddo. Mae modd dechrau trafod yn ifanc ac yna symud i drafod mewn manylder wrth i blentyn aeddfedu."

"Dwi'n teimlo bod angen i gymdeithas yn gyffredinol fod yn fwy ymwybodol o beth yw iechyd meddwl - ni angen codi ymwybyddiaeth o sut all iechyd meddwl effeithio ar bobl."