Newid i un o draddodiadau'r brifwyl eleni
- Cyhoeddwyd
Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron bellach wedi dechrau, mae'r Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd wedi addo y bydd ambell i newid i o leiaf un o draddodiadau'r brifwyl.
Mewn cyfweliad i Cymru Fyw cyfaddefodd ei fod yn teimlo fymryn yn nerfus wedi i Covid orfodi'r trefnwyr i ohirio yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith.
Dywedodd hefyd y bydd yn parhau yn y swydd tan ar ôl Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn 2023.
"Dan y drefn arferol mi fyddwn i wedi hen orffen ond mae'r Eisteddfod, neu'r Orsedd, wedi penderfynu y bydd fy nhymor i nid dros dair blynedd ond dros dair eisteddfod, yn yr ystyr bod yr eisteddfodau yn fyw, wyneb yn wyneb fel petai," meddai.
"Felly Dyffryn Conwy ac yna Tregaron ac yna'r flwyddyn nesaf Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd."
Dawns Flodau newydd
Roedd arloesi a bod yn greadigol yn y swydd yn un nod pan ddechreuodd ei dymor fel Archdderwydd. Oedd o wedi llwyddo yn hynny o beth?
"Mae 'na newidiadau wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd," meddai, cyn manylu ar un elfen o'r prif ddefodau sydd heb newid ers degawdau, ond a fydd yn dra gwahanol eleni.
Roedd dawnswyr y Ddawns Flodau yn blant ysgolion cynradd yn ystod seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, yn Aberteifi ym Mehefin 2019, ond ar ôl gohirio'r brifwyl ddwy waith, rhoddwyd dewis iddyn nhw.
"Oeddan nhw isio parhau gyda'r defodau eleni neu oeddan nhw'n teimlo eu bod nhw'n mynd yn hen? Roeddan nhw i gyd isio aros, isio parhau, isio bod yn rhan," meddai Myrddin ap Dafydd.
"Mi aeth Eirlys Britton a threfnwyr y dawnsfeydd ati, ac maen nhw wedi canfod hen ddawns draddodiadol arall - ail ddawns flodau," meddai.
Roedd wedi cael cyfle i weld y ddawns "newydd" yn ystod ymarferion y prif ddefodau yr wythnos cyn yr eisteddfod.
"Mae'n rhaid dweud ei bod hi'n ddawns osgeiddig ac addas i lancesi erbyn hyn, a dwi'n meddwl y bydd yn rhoi rhyw wefr arbennig i'r defodau eleni - gwisgoedd gwahanol, lliw gwahanol - ddyweda i ddim mwy, ond mi fydd hi'n werth ei gweld."
Siaradodd gyda balchder am rai o'r bobl fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd eleni.
"Un o'r pethau yr oeddwn i wedi ei osod fel nod o'r dechrau oedd bod yr Orsedd yn cynnwys cymaint o bobl o gefndir amrywiol o wledydd tramor sydd wedi dysgu Cymraeg a gwneud cyfraniad i'r bywyd Cymraeg, ac eleni mae 'na tua saith neu wyth yn cael eu derbyn i'r Orsedd, o'r Almaen, o'r Eidal ac o gefndiroedd ethnig ac mae hynny'n wych o beth."
Sut oedd o'n teimlo o weld yr wythnos wedi cyrraedd o'r diwedd?
"Mae'n rhaid i mi ddweud, dwi ychydig bach yn nerfus! Mae rhywun wedi bod allan ohoni hi, mae rhywun wedi colli cam neu ddau.
"Ro'n i'n pasio maes yr eisteddfod yn Llanrwst ar y ffordd i'r wasg i lenwi'r lori ar gyfer dod i lawr yma, ac wrth basio dyma rhyw lyffantod yn neidio yn fy stumog i, ac ro'n i'n meddwl bod hwnna'n arwydd da efallai, yn rhoi rhyw gic bach i mi i fod yn barod."
Un o'r digwyddiadau codi arian cyntaf a gynhaliwyd ar gyfer y brifwyl hon oedd ocsiwn addewidion yng Ngwesty'r Talbot, Tregaron.
"Dyna i chi le! Mi godon nhw £3,500 ar glec bawd fwy neu lai," meddai.
Roedd Myrddin wedi addo llunio englyn ar gyfer unrhyw achlysur fel un o'r rhoddion yn yr ocsiwn, ac roedd sawl un yn cynnig pan ddechreuodd y bidio.
"Mi aeth hi'n £200, £300, a dau ar ôl yn dal i fynd. £750 godwyd yn y diwedd, am englyn. Gweithiwch chi hwnna allan yn ôl y sill - mae'n lot fawr o arian!
"Dai John Edwards o Dregaron oedd yr enillydd a testun yr englyn [yr oedd yn dymuno ei chael] oedd Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, ac roedd y balchder i'w deimlo ynddo fo.
"Mi ddywedais wrtho bod angen dipyn bach o amser arna'i - wnes i ddim meddwl y buaswn angen cymaint â hyn o amser!"
Englyn i Dregaron 2022:
Do bu'n hir - hir pob aros
Ond awr gwawr Tregaron sy'n agos,
A thrwy hen drefn, pythefnos
Wthiwn i ŵyl ei wyth nos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd7 Awst 2020
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd10 Awst 2019
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2021