Lluniau Dydd Gwener: Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Dydd Gwener, diwrnod y Cadeirio, seremoni urddo a llawer mwy. Dyma flas o'r hyn ddigwyddodd ar y Maes.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Y Prif Weinidog Mark Drakeford - neu 'Mark Pengwern' yn ôl ei enw barddol - yn cael ei dderbyn i'r Orsedd, a hynny i gymeradwyaeth hiraf y seremoni

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y darlledwr Huw Edwards ei dderbyn o dan yr enw 'Huw Elli' - gan gydnabod ei fagwraeth yn ardal tre'r sosban yn Llangennech

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ddwy yma yn amlwg yn mwynhau bod yn rhan o Blant y Ddawns - ddwy flynedd yn hwyrach na'r disgwyl oherwydd y pandemig

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid mynd yn bell i ddod o hyd i sedd gwag i wylio'r seremoni

Disgrifiad o’r llun,

Enillydd y Gadair Llŷr Gwyn Lewis yn cael ei dywys o'r Pafiliwn gan yr Orsedd yn ddiweddarach yn y dydd

Disgrifiad o’r llun,

Roedd digonedd o ddigwyddiadau eraill o gwmpas y Maes oedd ddim yn gysylltiedig â'r Orsedd wrth gwrs fel Dewi Pws a Bois y Gilfach yn diddanu'r dorf yn y Tŷ Gwerin

Disgrifiad o’r llun,

Y wisg wen fyddai'n gweddu Bella, yma gyda'i pherchennog Ryan o Gorsgoch, Llambed

Disgrifiad o’r llun,

Dysgu sgil newydd er gwaethaf anaf - gweithdy iwcaleili ym Maes D

Disgrifiad o’r llun,

Bach o bach o Steddfod i Morgan Elwy

Disgrifiad o’r llun,

Perfformiad theatr stryd lliwgar

Disgrifiad o’r llun,

Band Pres Llareggub yn diddanu'r dorf tu allan i un o'r stondinau ar y Maes

Disgrifiad o’r llun,

Eädyth ac Izzy Rabey yn perfformio tu allan i stondin Y Llyfrgell Genedlaethol