Lluniau: Syrffwyr ymhlith tonnau ffyrnig Pen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Wrth i arfordir Pen Llŷn dawelu ym misoedd y gaeaf mae syrffwyr a'u byrddau yn troedio o'r cysgodion.
Gyda'r gaeaf yn dod â gwyntoedd cryfion yn ei sgil, dyma eu cyfle euraidd i wneud y mwyaf o'u maes chwarae a mentro i'r tonnau ffyrnig ar hyd yr arfordir trawiadol.
Wrth ddisgwyl yn amyneddgar am newyddion da o donnau mawr gan y swyddfa dywydd maen nhw'n paratoi am eu reid nesaf ar frig y don.
Mi fyddai Phill Boyd yn un o rheiny. Ond yn hytrach na mwynhau bod yn y dŵr yn unig mae'r ffotograffydd hefyd wrth ei fodd yn dogfennu'r sin yma sy'n effro ym myd natur pan mae pawb arall yn ddwfn yn nhrwmgwsg y gaeaf.
Wrth i'r tymor ddod i ben mae Cymru Fyw wedi cael cipolwg ar ddarluniau anhygoel Phill Boyd o'r syrffio ym Mhorth Neigwl a Phorth Ceiriad.
Nes i ddechrau tynnu lluniau tua 15 mlynedd yn ôl.
Roeddwn yn gogydd ym Mhen Llŷn ac roedd y gaeafau yn ddistaw oherwydd roedd y twristiaid wedi mynd adref.
Nes i benderfynu cael camera i ddal ychydig o'r golygfeydd prydferth lleol.
Un o fy mhrif ddiddordebau yn ystod y gaeaf oedd syrffio. Dwi'n mwynhau mynd allan ymhlith y tonnau yn arw.
Fy hoff adeg i dynnu lluniau o syrffwyr ydi yn oriau mân y bore.
Mae'r llun yma (uchod) yn enghraifft wych o'r effaith mae golau gwawrio'r haul yn cael ar y don. Mae o mor brydferth. Y syrffiwr ydi Phil Wood ym Mhorth Ceiriad.
Mae bod yng nghanol byd natur i ffwrdd o ymyrraeth bywyd bob dydd yn grêt, ac mae syrffio yn caniatáu hyn.
Dros amser nes i ddod â'r ddau beth - ffotograffiaeth a syrffio - at ei gilydd a phan nad oeddwn yn syrffio mi fyddwn ar y lan yn tynnu lluniau o fy ffrindiau.
Dyma un o fy hoff luniau - wedi ei dynnu ym Mhorth Neigwl wrth iddi fachlud. Dw'i wrth fy modd gyda'r golau ar hyd y traeth wrth i'r motobeics agosáu.
Dwi'n caru silhouette hefyd, yn enwedig o fwrdd syrffio!
Mae bod yn syrffiwr dy hun yn lot o help gan dy fod yn gwybod pryd i fynd lawr i'r traeth a be' 'di'r pethau i'w hystyried wrth dynnu llun da.
Dros blynyddoedd diwethaf dw'i wedi cael cês waterproof i'r camera sy'n caniatau i fi fynd mewn i'r dŵr a chael onglau i'r rhai sydd i'w cael o'r lan - sy'n gallu bod yn gyfyngedig ar adegau.
Yn 2019 nes i ennill cystadleuaeth llun gorau yng nghylchgrawn Carve - rhywbeth wnaeth rhoi sbardun i fi ddechrau fy ngyrfa ffotograffiaeth.
Mae'n cynnwys y ddau frawd Eilir ac Urien Davies-Hughes o Rhiw yn fuan un bore yn 2018.
Dw'i wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda Carve ers hynny a dwi bellach yn gyfrannydd cyson.
Ar ddechrau 2022 nes i wneud y naid a rhoi'r gorau i fy swydd i fynd yn ffotograffydd llawrydd llawn amser.
Mae'r rhan fwyaf o fy ngwaith ar gyfer marchnata ond mewn tynnu lluniau o syrffio mae fy nghalon.
Hefyd o ddiddordeb: