Syrffio yn gwella anaf i'r ymennydd, yn ôl astudiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae traeth Bae Caswell ar Benrhyn Gwyr yn denu syrffwyr o bell ac agos, ac yn eu plith ar ddiwrnod braf o haf mae grŵp o bobl sy'n gallu tystio i werth mentro i'r tonnau ar eu hiechyd a'u lles.
Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe yn dangos bod syrffio wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl sydd wedi cael anafiadau i'w hymennydd.
Un o'r bobl hynny yw Iwan Jones o Dymbl Uchaf yng Nghwm Gwendraeth. Fe ymunodd e â'r grŵp therapi syrffio ar ôl dioddef o effeithiau encephalitis - cyflwr sy'n arwain at yr ymennydd yn chwyddo.
"Mae fel bach o buzz. Mae'n wych," meddai.
"Mae'n cynyddu'r hyder - dyna beth fi wedi sylwi, gyda'r cwmni mor gefnogol, a ti 'di neud rhywbeth, ddim jyst aros yn y tŷ trwy'r dydd - ti wedi cyflawni rhywbeth."
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio gyda staff byrddau Iechyd Bae Abertawe a Hywel Dda ar y cynllun, ac wedi cael cefnogaeth cwmni Surfability UK, sy'n cynnig profiadau syrffio ym Mae Caswell.
Dros y tair blynedd ddiwetha', mae hyd at 50 o bobl sydd wedi goroesi strôc neu wedi cael anafiadau eraill i'r ymennydd wedi cymryd rhan mewn sesiynau syrffio dwy awr o hyd am gyfnod o hyd at bum wythnos.
Yn ôl Dr Nia Wyn Davies, sy'n seicolegydd clinigol, mae'r therapi wedi gwneud gwahaniaeth.
"Ni'n trio symud i ffwrdd o fodelau traddodiadol o driniaeth, a ni'n gwybod bod ymchwil yn dangos bod yr effaith mae natur yn ei gael ar les pobl yn rili bwysig," meddai.
"Ni wedi gweld pa mor arbennig mae wedi bod i les ein cleifion ni."
'Dod mwy am y cwmni'
Cafodd Iwan Jones ei gyfeirio at y cynllun fel rhan o'i therapi, ac mae'n dweud ei fod wedi gwneud byd o les iddo, er mawr syndod iddo fe a'i ffrindiau.
"Pan wedes i wrth gwpl o bobl, o'n nhw wedi chwerthin pan o'n nhw'n meddwl amdana i ar fwrdd syrffio, ac o'dd e'n brofiad hollol newydd.
"O'n i wedi dod mwy am y cwmni na'r syrffio ei hun oherwydd do'n i ddim yn disgwyl bo fi'n gallu gwneud llawer ohono fe.
"Ond wythnos wrth wythnos fi wedi datblygu a dwi'n dechrau sefyll lan ar y bwrdd syrffio nawr."
Dywedodd hefyd bod cael mentro i'r môr yng nghwmni pobl oedd hefyd wedi cael anafiadau i'r ymennydd o gymorth.
Ychwanegodd: "So ti'n sylwi tan bo ti yn yr amgylchedd yna faint o wahaniaeth mae'n neud, fel bod o gwmpas pobl sydd wedi cael profiad weddol debyg i chi, a bod mewn amgylchedd mor gefnogol."
Mae cyfnod Iwan o sesiynau syrffio bellach wedi dod i ben, ond mae'n gobeithio bydd yn gallu parhau i fentro i'r tonnau oherwydd ei fod e wedi mwynhau gymaint.
Mae'r Dr Davies yn syrffio ei hun, ac felly roedd hi'n gwybod byddai'r sesiynau o help i'w chleifion.
"Fi'n gwybod beth mae fe'n neud i fi, a'r effaith mae'n cael ar fy mood, felly o'n i'n ystyried oedd e'n mynd i weithio'n dda," meddai.
"Mae'n lyfli i weld fy nghleifion, ble ni wedi dechrau o'r dechrau yn yr ysbyty, a nawr i weld y rehab..... mae wedi bod yn brofiad arbennig - i weld eu hwynebau nhw yn y dŵr... chi ffaelu maeddu hwnna!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2022