Cynnwys syrffio yn y Gemau Olympaidd yn hwb i'r gamp
- Cyhoeddwyd
Gyda syrffio'n rhan o'r Gemau Olympaidd eleni mae un o glybiau syrffio Cymru'n dweud eu bod nhw'n gobeithio y bydd hynny'n arwain at ragor yn mentro i'r dŵr.
Dros gyfnod o 10 mlynedd mae Clwb Syrffio Pen Llŷn yn dweud ei fod wedi gweld twf aruthrol yn nifer y bobl leol sydd am fanteisio ar draethau a thonnau Cymru.
Yno mae dros 50 o blant a phobl ifanc yn dod ynghyd bob wythnos i ddysgu sut i syrffio'n ddiogel ar draeth Porth Neigwl.
Yn ôl cadeirydd y clwb mae'n bwysig i blant ifanc ddysgu sut i fwynhau yn y môr a gwneud hynny'n ddiogel.
Yn 2018 fe gyhoeddodd y Gymdeithas Ryngwladol Syrffio y byddai'r gamp yn cael ei chynnwys yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 a hynny ar draeth Shidasita sydd rhyw 40 o filltiroedd o Tokyo.
Daw hyn wedi blynyddoedd o alwadau gan y gymdeithas i sicrhau fod y gamp yn cael ei chynnwys.
Er na fydd yna Gymry, na chwaith unrhyw un o Brydain, yn cystadlu eleni mae 'na obaith y bydd darlledu'r cystadlaethau'n ysbrydoli cenhedlaeth newydd o syrffwyr yng Nghymru.
Eisoes mae clybiau fel Clwb Syrffio Pen Llŷn yn dweud eu bod nhw wedi gweld twf aruthrol yn y nifer sydd am brofi'r her.
"Pan wnes i ddechrau syrffio rhyw 30 o flynyddoedd yn ôl mi oedd yn rhaid jest mynd mewn efo'r hogiau hŷn a heb hyfforddiant," medd cadeirydd y clwb, Lee Oliver.
"Ers hynny mae 'na fwy a mwy o blant a theuluoedd yn mynd i'r dŵr.
"Mae'r clwb wedi bod yn rhedeg ers rhyw 10 mlynedd gan ddechrau gyda chriw o bobl leol ddaeth at ei gilydd i roi siawns i'r plant lleol gael go ar syrffio a hyfforddiant da i wneud hynny."
Yn ôl Mr Oliver mae'r twf yng Nghlwb Pen Llŷn yn efelychu'r darlun yn genedlaethol ac mi fydd y Gemau Olympaidd yn siŵr o helpu hynny.
"Dwi 'di syrffio drwy Brydain a dwi'n teimlo dros y blynyddoedd fod mwy a mwy yn mynd i'r dŵr a mwy yn dod yma i Borth Neigwl a Phen Llŷn," meddai.
'Waeth i mi ddechrau ddim!'
Er mwyn cynnal sesiynau hyfforddi mae'n rhaid i'r amodau fod yn gywir. Mae hynny'n cynnwys gwynt nad yw'n rhy gryf a thywydd na sy'n arw - mae hynny'n gallu bod yn heriol yng Nghymru.
Un fydd yn hyfforddi disgyblion eraill dros gyfnod yr haf ydy Ben Scott, sy'n 17 oed.
"Nes i ddechrau rhyw naw mlynedd yn ôl," meddai.
"'Dwi dal 'di dod ers hynny a 'dwi'n helpu i hyfforddi rŵan, a 'dwi 'di gwneud cwrs achub bywyd a ga'i ddod yma bob nos Fawrth yma i helpu rŵan.
"Dydi o ddim yn cael ei ddangos gymaint â hynny ar y teledu ond os ydy yn cael ei ddangos fwy efallai fydd 'na fwy o blant yn edrych arno ac yn meddwl 'waeth i mi ddechrau ddim, de!'"
Gemau Paralympaidd nesaf?
Yn ôl y corff twristiaeth Croeso Cymru mae nifer o lefydd ar hyd yr arfordir sy'n addas ar gyfer syrffio, fel Porth Neigwl, Porthcawl a Llanilltud Fawr.
Un sy'n falch o weld twf yn y diddordeb, ac yn gobeithio y bydd darlledu'r gamp ar y teledu yn creu mwy o ddiddordeb yw Llywelyn Williams.
Mae'r gŵr 26 oed wedi bod yn bencampwr syrffio Lloegr bedair gwaith ac mi fydd hefyd yn cystadlu yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddarach eleni.
Fe gryfhaodd ei gariad at y gamp wedi damwain car flynyddoedd yn ôl, pan gollodd ei goes.
"O'n i wedi clywed bod 'na lot o blant yn dod a 'dwi'n meddwl ei fod yn wych," meddai.
"Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai 'na gymaint o blant lleol yn gwneud.
"'Dwi'n gobeithio gan fod o rŵan yn y Gemau Olympaidd y bydd o'n mynd mewn i'r Gemau Paralympaidd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2019