Haf bach Mihangel

Englyn gan Hywel Griffiths: Haf bach MihangelFfynhonnell y llun, Hywel Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Englyn gan Hywel Griffiths: Haf bach Mihangel

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl mis Awst gwlyb, mae Cymru wedi wedi profi haf bach Mihangel dros y dyddiau diwethaf.

Cyrhaeddodd yr Eglwys Wen, Sir Benfro, dymheredd o 30.2°C ddydd Mawrth ac mae'r rhagolygon am dywydd braf yn parhau tan y penwythnos.

Daw'r enw haf bach Mihangel o ŵyl San Mihangel; gŵyl sy'n dathlu tywydd braf ar ôl i'r haf orffen ac ar gychwyn yr hydref.

Er mai 29 Medi yw dyddiad gŵyl San Mihangel, mae wedi dod yn arferiad llafar i alw tywydd poeth trwy gydol mis Medi yn haf bach Mihangel.

I ddathlu ein haf bach Mihangel, mae Cymru Fyw wedi gofyn i Hywel Griffiths, bardd y mis Radio Cymru am englyn.

Lluniau: Haf bach Mihangel yng Nghymru

Felly Llŷn ar derfyn dydd, lle i enaid gael llonyddFfynhonnell y llun, Nel Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bae Aberdaron o Rhiw: "Felly Llŷn ar derfyn dydd, lle i enaid gael llonydd"

Ynys y Barri
Disgrifiad o’r llun,

Torheulo ar draeth Ynys y Barri

Bae Ceredigion o Aberdyfi
Disgrifiad o’r llun,

Bae Ceredigion o Aberdyfi

Gorwelion glas o gopa Gyrn Ddu
Disgrifiad o’r llun,

Gorwelion glas o gopa Gyrn Ddu

Y Fenai o wal yr Angylsi
Disgrifiad o’r llun,

Y Fenai o wal yr Angylsi

Machlud Medi o draeth AberystwythFfynhonnell y llun, Hywel Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Machlud Medi o draeth Aberystwyth

Pynciau cysylltiedig