Oriel: Ras fynydd 'anoddaf yn y byd'
- Cyhoeddwyd

Enillydd y ras Simon Roberts - y Cymro cyntaf i fod yn fuddugol - yn canolbwyntio wrth groesi Crib Goch ar y diwrnod cyntaf
Rhedeg o Gonwy i Gaerdydd ar hyd mynyddoedd uchaf Cymru mewn chwe diwrnod gan ddringo dwywaith maint Everest - does ryfedd ei bod yn cael ei adnabod fel un o'r rasys mynydd caletaf yn y byd.
Eleni fe wnaeth 367 rhedwr ddechrau Ras Cefn y Ddraig a dim ond 91 oedd yn dal i gystadlu ar y diwrnod olaf, ar ddydd Sadwrn 11 Medi.
A does 'na ddim syndod chwaith gyda thirwedd a thywydd mor ddidrugaredd, fel mae'r oriel luniau yma yn dangos.

Castell Conwy oedd man cychwyn y ras wrth i 367 o redwyr o 24 gwlad wahanol ddechrau ar eu taith

Ar ôl gadael Conwy, roedd y rhedwyr yn teithio ar draws y Carneddau a'r Glyderau cyn mynd am Yr Wyddfa a'i chriw...

Ond cyn yr Wyddfa roedd yn rhaid croesi Crib Goch

Katie Mills, enillydd ras y merched, ar Crib Goch

Roedd rhedeg yn y gwres yn anodd i'r cystadleuwyr

O Nant Gwynant i Ddolgellau oedd diwrnod dau: 59 cilomedr, a 3400m o ddringo, yn cynnwys Y Cnicht a'r Rhinogydd, gan gofio cael stamp i brofi bod y copaon wedi eu cyrraedd

Allan o'r 367 gychwynnodd dim ond 125 oedd dal yn y ras erbyn diwedd yr ail ddiwrnod. Un ohonyn nhw oedd Elaine Bison oedd ar y blaen yn ras y merched ar y pryd

Diwrnod tri, a chyfarwyddiadau yn cael eu rhoi cyn i'r rhedwyr gychwyn ben bore

Y sialens gyntaf ar ôl gadael Dolgellau oedd taclo Cadair Idris

Cyfle hanner ffordd i gael bwyd a diod ym Machynlleth

Diwrnod pedwar, a'r rhedwyr yn gadael y gwersyll lle roedden nhw'n aros dros nos

Roedd 69 cilomedr o redeg drwy Ddyffryn Elan a chanolbarth Cymru ar ddiwrnod pedwar, a phawb yn falch o gymylau a glaw am y tro cyntaf ers gadael Conwy

Ond doedd y glaw dim yn ddigon i rai...

Mae'n rhaid i'r rhedwyr, fel Lewis Burrowes, o'r Unol Daleithiau, ddefnyddio map a chwmpawd i fynd o un lleoliad i'r llall

Roedd angen sgiliau map gwych ar y pumed diwrnod

Ar ôl chwe diwrnod o redeg, cyrraedd Castell Caerdydd o'r diwedd. Y Cymro Simon Roberts yn ennill y ras a Russell Bentley, o Flaenau Ffestiniog, yn ail

Y ddraig ar gefn enillydd Cefn y Ddraig

Simon Roberts yn dathlu gydag enillydd ras y merched Katie Mills, sy'n byw yng Nghanada
Hefyd o ddiddordeb: