Diweddariadwedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich+1 6 Gorffennaf 2015
Hwylio yn araf
I ddathlu 150 o flynyddoedd ers i'r Mimosa adael Lerpwl am Batagonia, BBC Cymru Fyw sy'n ail-greu'r daith hanesyddol
Dilynwch brofiad Joseph Seth Jones, argraffydd 20 mlwydd oed, ar fwrdd y llong
Hwylio yn araf
Gweld aderyn mawr yr Abatross neu rywbeth. Gwynt cryf.
Hwylio yn gyflym. Nosweithiau clir iawn.
Stormus iawn. Bwrw yn drwm.
Glawio
Ar y môr beth bynnag
Hwylio yn gyflym.
Gwynt cryf.
Claddu'r plentyn. Gweld Llong. Cwch hyn myned ati.
**ychwanegwyd yn hwyrach... (t.30) Fe nethon ni groesi'r gyhydedd. Dywedai llawer na nethon ni tan y Sabath canlynol. Ond fodd bynnag dywedir ei bod yn hen arferiad ym mhlith morwyr pan yn croesi y gyhydedd i gael tipyn o sbort yn y dull canlynol:
Dau forwr wisgo barfau gwneud llaesion o ryw fan reffynau (Carth hir); taflu tan gwyllt i fyny; y morwyr yn taflu bwceidiau o dwr am benau eu gilydd. Cymerodd yr arferodd yma le heno.
Tywalltwyd dŵr am ben yr holl ymfudwyr braidd, ond am y merched a'r plant.
Ces i oddeutu tri becedaid am fy mhen heblaw tipyn ar draws ac ar hyd.
Wedyn bu amryw o'r rhai mwyaf 'respectable' gyda'r cadben yn y cabin yn yfed.
Mae yna dipyn o ddrwg deimlad weithiau yn ein plith. Rydym yn colli amryw bethau - rhai trwy ddamwain, ac eraill trwy fwriad.
Mae yma dipyn o amheuaeth yn enwedig ym meddyliau y rhai mwyaf anwybodus a rheibus. Yn enwedig i berthynas iddynt gael cyfiawnder yma, ac yn amau fel y rhai oedd yn mynd gyda Cholumbus gynt.
Hwylio yn gyflym. Gweld 2 long. Plentyn i Robert Davies a'i briod o Landrillo, yn marw (John Davies, 11 mis oed)
Gwynt cryf.
Daeth corwynt cryf yn y prynhawn.
Awel gref. Gweld llong.
Diwrnod poeth anghyffredin. Hwylio dim.
Bore poeth. Hwylio dim braidd.
Nifer o'r bechgyn yn mynd i'r môr i ymdrochi, drwy rwymo rhaff wrth y 'bowspirit' oedd yn mynd i lawr bron at y dŵr, ac yna fe eisteddon nhw ar y gwaelod, ac wrth i ben ôl a blaen y llong godi i fyny ac i lawr bob yn ail roeddynt yn cael trochfa dros eu penau.
Gweld amryw o bysg mawr - sef 'Sharks'
Hwylio 12 milltir yr awr. Dal 'Flying Fish.' Fe chwythodd y gwynt cryf yr hyn oeddwn wedi ei ysgrifennu yn bendramwnwgl i'r môr!
Gwynt cryf.
Ni ddarllennodd y Cadben y Gwasanaeth heddiw, oherwydd yr helynt. Pregeth am ddeg. Ysgol am 2.
Gwynt cryf, a hwylio tuag un milltir yr awr.
Gwynt cryf. Hwylio yn gyflym.