Diweddariadwedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich+1 16 Mehefin 2015
Bore poeth iawn. Bu helynt enbyd heddiw ynghylch torri gwallt y merched ifanc.
[Un diwrnod clywodd y capten fod yr ymfudwyr yn fudr - yn enwedig y merched ifanc. Gorchmynnodd i un o'r morwyr ddod i gneifio pennau'r genethod hyd eu croen, a'u golchi'n lân â dŵr a sebon,
Anelodd at Jane Huws ac atseiniodd ei bloedd frawychus dros y llong i gyd, gan achosi cynnwrf eithriadol. Safodd y morwyr yn stond, heb wybod sut i ymateb.
Rhuthrodd nifer o rieni'r plant i'r bwrdd uchaf at y capten i ofyn am eglurhad, a chamodd yntau o'i gaban gan weiddi ar bawb i droi'n ôl. Nid oedd neb i ddringo ato byth eto, beth bynnag yr amgylchiadau, ac os teimlai yntau mai da o berth oedd torri gwallt pob merch ar y Mimosa, torri'u gwallt a wneid.
Ond gwrthodai'r rhieni symud nes iddo ddiddymu'r gorchymyn. Unodd holl ferched ifainc y fintai yn un côr i gyd-lefain yn 'gynhyrfus eithafol', a cheisiodd Cadfan, arweinydd y fintai ddynesu i ymresmu.
Mewn braw am ei fywyd, anelodd hwnnw ei lawddryll at fynwes Cadfan ond, ar yr eiliad olaf, dargyfeiriodd ei ergyd i'r môr.
Bodlonodd Pepperrell i beidio â thorri gwallt y merched pe cytunai'r teithwyr iddo ef Thomas Greene archwilio pob pen - nid pennau'r merched yn unig - a chtunwyd. Afriad dweud na chanfuwyd un pen bydr.
A dyna ddiwedd y mutiny ar y Mimosa - Elvey Macdonald]