Hwylwedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2016
A dyna ddiwedd Senedd Fyw am y tro wedi diwrnod cyntaf rhyfeddol i'r Pumed Cynulliad.
Fe fyddwn ni'n ôl pryd bynnag y bydd y Cynulliad yn ail-ymgynnull.
Enwebu Prif Weinidog - Pleidlais gyfartal o 29 o bleidleisiau'r un i Carwyn Jones a Leanne Wood.
Elin Jones yn cael ei hethol yn Llywydd newydd.
Ann Jones yn cael ei hethol yn Ddirprwy Lywydd.
Alun Jones and Nia Harri
A dyna ddiwedd Senedd Fyw am y tro wedi diwrnod cyntaf rhyfeddol i'r Pumed Cynulliad.
Fe fyddwn ni'n ôl pryd bynnag y bydd y Cynulliad yn ail-ymgynnull.
Mae Andrew RT Davies yn dweud bod llai na 16% o'r pleidleiswyr wedi cefnogi'r statws quo yr wythnos ddiwethaf a chefnogi pum mlynedd arall o Lafur.
"O fod wedi gweld eu canran o'r bleidlais yn gostwng 8%, fe wnaeth nifer o bleidleiswyr ar draws Cymru symud oddi wrth Lafur, ac ni wnaeth y blaid ennill mwyafrif yn etholiad 2016.
O'r herwydd meddai, doedd gan Lafur ddim hawl ddwyfol i gymryd swydd y Prif Weinidog.
"Mae angen i aelodau newydd y Cynulliad i edrych ar y ffordd ymlaen orau i'r genedl Gymreig a thrafod hynny, sydd am yn rhy hir wedi syrthio y tu ôl i weddill Prydain.
"Rydw i bendant yn synhwyro bod yna awch am fath newydd o wleidyddiaeth gydweithrediadol Gymreig, ac fe fyddwn i'n croesawu trafodaethau pellach i adeiladu ar yr hyn arweiniodd at y bleidlais heddiw."
Simon Thomas o Blaid Cymru yn trydar
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wel, croeso i'r pumed Cynulliad - Dadansoddiad Tomos Livingstone
Tomos Livingstone
Uned Wleidyddol BBC Cymru
Ymgais oedd hon gan y gwrthbleidiau i atgoffa'r blaid Lafur o un ffaith syml - does dim mwyafrif gennynt ym Mae Caerdydd.
Os y bwriad oedd codi ofn ar Lafur, mae Plaid Cymru wedi llwyddo; wnaeth neb ragweld y byddai UKIP a'r Ceidwadwyr yn fodlon cefnogi enwebiad Leanne Wood fel Prif Weinidog.
Yn wir, pe bai Kirsty Williams heb bleidleisio i Carwyn Jones, Ms Wood fyddai'n Brif Weinidog heno.
Y cwestiwn nesaf yw a all Lafur gynnig unrhywbeth i un o'r gwrthbleidiau er mwyn clirio'r ffordd i Carwyn Jones unwaith eto. Os na ddigwydd hynny erbyn Mehefin 2ail - credwch neu beidio - mae'r pwer gan yr Ysgrifennydd Gwladol i alw etholiadau newydd.
Mae gan aelodau'r Cynulliad 28 diwrnod i benderfynu ar Brif Weinidog - hynny'n 28 diwrnod ers yr etholiad. Bydd yn rhaid iddyn nhw wneud penderfyniad erbyn Mehefin 2.
Os na fydd cytundeb erbyn hynny fe allai Ysgrifennydd Cymru alw etholiad arall.
Mae'r Llywydd Elin Jones newydd gyhoeddi ei bod yn dod â'r cyfarfod i ben yn swyddogol. Dywedodd mai yr un fyddai'r canlyniad petai hi'n ail-agor enwebiadau ar gyfer swydd y Prif Weinidog nawr. Fe fydd hi'n rhoi gwybod i'r aelodau pryd fydd y cyfarfod nesa.
Mae aelodau'r Cynulliad yn ail-ymgynnull yn y Siambr.
Ar Fai 5ed dewisodd Cymru i beidio ag ethol un blaid i lywodraethu Cymru gyda mwyafrif. Fel yr arfer, cafodd y blaid fwyaf y cyfle i gyrraedd cytundeb ar ffurfio llywodraeth a all arwain Cymru gyda chefnogaeth y mwyafrif o aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Gwnaethant y penderfyniad i beidio ffafrio'r opsiwn hwnnw, ac nid oeddent yn barod i roi mwy o amser i'r broses negodi.
O ganlyniad, dilynodd grŵp Plaid Cymru y drefn Seneddol arferol gan enwebu Leanne Wood yn Brif Weinidog. Cafodd Carwyn Jones ei hysbysu o'r penderfyniad ddoe. Ers hynny, a hyd y gwyddai Plaid Cymru, nid oes unrhyw drafodaethau, cytundebau na bargeinion ffurfiol wedi eu holrhain rhwng unrhyw bleidiau.
Prynhawn heddiw, methodd y Cynulliad a chytuno ar bwy ddylai fod yn Brif Weinidog a ffurfio'r llywodraeth nesaf. Cyfrifoldeb y pleidiau nawr yw i drafod y mater hwn ymhellach er mwyn ceisio sicrhau'r canlyniad gorau posib i Gymru.
Fe gafodd Carwyn Jones a Leanne Wood 29 o bleidleisiau yr un ac felly mae'r cyfarfod llawn wedi cael ei ohirio. Mae Carwyn Jones felly wedi methu â chael ei ethol yn Brif Weinidog, ond fe fydd yn parhau yn y swydd tra ei fod yn chwilio am gynghreiriaid.
Fe wnaeth y Ceidwadwyr ac aelodau UKIP gefnogi cynnig gan Blaid Cymru i wneud eu harweinydd nhw Leanne Wood yn Brif Weinidog yn ei le.
Fe wnaeth Kirsty Williams, yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol, bleidleisio o blaid Carwyn Jones.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhoi datganiad ar ran Kirsty Williams sy'n dweud na chafodd hi ei hail-ethol i'r Cynulliad i gefnogi clymblaid garpiog o aelodau Cynulliad UKIP sydd ar hyn o bryd ddim hyd yn oed yn gallu cytuno gyda'i gilydd.
Carwyn Jones (Llafur) a Leanne Wood (Plaid Cymru).
Yr eitem nesa yw enwebu Prif Weinidog Cymru.
Ann Jones sydd wedi ei hethol yn Ddirprwy Lywydd newydd.
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
Mae Vaughan Roderick yn trydar ei fod yn clywed y gallai'r bleidlais ar gyfer y Prif Weinidog fod yn gyfartal. Gallai'r unig aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol brofi'n annisgwyl o bwysig!
Y ddau ymgeisydd ar gyfer y swydd yw Ann Jones a John Griffiths o'r Blaid Lafur. Mae'r aelodau wedi mynd allan i bleidleisio.
Yr eitem nesa ar yr agenda yw ethol y dirprwy lywydd.
Elin Jones o Blaid Cymru sydd wedi ei hethol yn Llywydd newydd y Cynulliad. Fe gurodd hi Dafydd Elis-Thomas o 35 o bleidleisiau i 24. Fe wnaeth un AC ymatal.
Ei geiriau cyntaf oedd "Rydych chi gyd yn edrych yn wahanol iawn o fan hyn!"
Mae Glyn Davies yn trydar ei fod yn falch nad yw'n aelod Cynulliad yn gorfod dewis rhwng y ddau, oherwydd y byddai'r ddau meddai yn gwneud y swydd yn dda.
Mae aelodau'r Cynulliad wedi gadael y siambr er mwyn pleidleisio mewn pleidlais ddirgel i ddewis pa un o'r ddau ddylai fod y llywydd nesa.