'Cryfhau cyfansoddiad Cymru'wedi ei gyhoeddi 13:47 GMT+1 11 Mai 2016
Mae'r cyn-lywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC Plaid ar gyfer Dwyfor Meirionnydd, yn dweud " Cryfhau cyfansoddiad Cymru sydd wedi bod yn brif amcan i mi a phleser fy mywyd."

Enwebu Prif Weinidog - Pleidlais gyfartal o 29 o bleidleisiau'r un i Carwyn Jones a Leanne Wood.
Elin Jones yn cael ei hethol yn Llywydd newydd.
Ann Jones yn cael ei hethol yn Ddirprwy Lywydd.
Alun Jones and Nia Harri
Mae'r cyn-lywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC Plaid ar gyfer Dwyfor Meirionnydd, yn dweud " Cryfhau cyfansoddiad Cymru sydd wedi bod yn brif amcan i mi a phleser fy mywyd."
Fe gafodd Dafydd Elis-Thomas ei enwebu gan Adam Price a'i eilio gan Neil Hamilton.
Fe gafodd Elin Jones ei henwebu gan Dai Lloyd a'i heilio gan Jane Hutt.
Mae Elin Jones AC Ceredigion yn dweud wrth y Senedd "Fe fyddwn i'n hyrwyddo a diogelu enw da'r Cynulliad hwn."
Elin Jones
Elin Jones a Dafydd Elis-Thomas o Blaid Cymru yw'r ddau AC sydd wedi eu henwebu ar gyfer swydd y Llywydd.
Dyw'r Cynulliad ddim yn gallu ethol llywydd a dirprwy lywydd o'r un blaid wleidyddol, ac mae rhaid i un ohonyn nhw fod yn aelod o'r blaid sy'n llywodraethu.
Rhai o brif gyfrifoldebau'r Llywydd yw cadeirio'r cyfarfodydd llawn, cynrychioli'r Cynulliad fel sefydliad wrth drafod gyda chyrff eraill, a dylanwadu ar y ffordd y mae'n gweithredu o ddydd i ddydd.
Y llywydd yw'r person sy'n cael ei dalu fwyaf yn y Cynulliad ar ôl y Prif Weinidog.
Mae e neu hi yn ennill £105,000 - sy'n fwy na gweinidogion, sy'n ennill £100,000, a mwy hefyd nag arweinwyr y gwrthbleidiau sy'n gallu ennill hyd at £100,000.
Mae'r dirprwy lywydd yn ennill £85,000 a'r prif weinidog £140,000.
Croeso i Senedd Fyw ar ddechrau'r Pumed Cynulliad.
Yr eitem gyntaf ar gyfer y Cynulliad newydd yw ethol Llywydd newydd a Dirprwy Lywydd newydd.
Daw'r bleidais wedi i'r cyn Lywydd y Fonesig Rosemary Butler roi'r gorau i fod yn AC.
Mae nifer o enwau o blith y pleidiau wedi cael eu hawgrymu, er nad yw hi'n glir os oes unrhywun ohonyn nhw wedi sicrhau y gefnogaeth i ennill y bleidlais.
Mewn pleidlais ddirgel fe fydd aelodau'r Cynulliad hefyd yn ethol Dirprwy Lywydd. Yr aelod Ceidwadol David Melding oedd y Dirprwy Lywydd. Mae e wedi dweud na fydd e'n ceisio bod yn Llywydd.
Mae'r Fonesig Rosemary Butler yn dychwelyd am y tro olaf y prynhawn yma tan y bydd yna olynydd iddi.