Crynodeb

  • Heddiw yw diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016

  • Ymhlith y cystadlaethau mae'r bandiau pres, dawnsio disgo, hip hop neu stryd a chystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd fe allant gynnwys iaith gref a/neu themâu sydd ddim yn addas i blant

  1. Drama newydd yn cael ei pherfformiowedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn ystod y gynhadledd i'r wasg bore 'ma hefyd roedd sôn am y ddrama, Rhith Gân, fydd yn cael ei pherfformio ar y maes wythnos nesaf.

    Wyn Mason yw awdur y ddrama ac mae wedi ei seilio ar albwm Gareth Bonello, 'Y Bardd Anfarwol'.

    Wrth drafod y ddrama dywedodd Gareth: "Mae e (Wyn Mason) wedi plethu'r caneuon mewn i'r ddrama i ddweud stori newydd."

    Pentref Drama
  2. Y Babell Lên: Teyrnged i Gwyn Thomaswedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae teyrnged i'r bardd Gwyn Thomas yn y Babell Lên ar hyn o bryd gyda'r cadeirydd Dylan Iorwerth yn olrhain hanes y bardd oedd yn caru'r Gogynfeirdd ac Elvis Presley.

    Hefyd yn cymryd rhan yn y deyrnged fydd Gerwyn Williams, Karen Owen, Jason Walford Davies a Gruffydd Aled Williams.

    Babell len
  3. Huw Edwards yn annerch torf ar y Maeswedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Dathlu Dahl ar faes y brifwylwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    I nodi canmlynedd ers geni yr awdur Roald Dahl eleni, mae 'na eirinen fawr oren ar faes y Steddfod. Pwy sy'n cofio 'James a'r Eirinen Wlanog Enfawr' (James and the Giant Peach)?

    James a'r Eirinen Wlanog Enfawr
  5. Dysgu Cymraeg ar y trênwedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Mae rhai aelodau o Gôr Caerdydd - oedd ar eu ffordd i’r Fenni ar y trên bore ‘ma yn barod i gystadlu - wedi bod yn dysgu ‘chydig o Gymraeg i'r dyn casglu tocynnau, oedd yn dod o Crewe.

    Mae o bellach yn gallu dweud ‘Bore da’, ‘Diolch’ ac ‘Eisteddfod’...!

    Aelodau o Gôr Caerdydd ar y trên i'r FenniFfynhonnell y llun, Ceri Mears
    Disgrifiad o’r llun,

    Aelodau o Gôr Caerdydd ar y trên i'r Fenni

  6. 'Cyfleoedd economaidd' i Fynwywedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn y gynhadledd i’r wasg bore 'ma dywedodd arweinydd Cyngor Mynwy, Peter Fox, bod yr Eisteddfod yn dod â chyfleoedd economaidd’ i’r ardal. 

    Mae'r sir wedi aros yn hir i'r Brifwyl ddod i'r ardal eto, meddai, gan ychwanegu: “Dw i’n gobeithio byddwn ni ddim yn gorfod aros am 100 mlynedd arall cyn i’r Eisteddfod ddod yma eto.” 

    Dywedodd Garry Nicholas, Llywydd Llys yr Eisteddfod, ei fod wedi cyfarfod â rhai o’r sir neithiwr: “Mae’n braf eu bod nhw’n ymfalchïo bod yr Eisteddfod wedi dod i’w sir nhw.” 

  7. 'Croeso mawr i bawb'wedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, wedi dweud bod "croeso mawr i bawb" yn Nolydd y Castell.

    "Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod hapus a chynhyrchiol iawn i ni fel Eisteddfod wrth weithio gyda gwirfoddolwyr lleol a Chyngor Sir Fynwy," meddai.

    "Mae'r gefnogaeth wedi bod yn ardderchog ac wrth i'r Maes agor ei giatiau'r bore 'ma, mae'n bleser diolch o waelod calon a thalu teyrnged i bawb a fu ynghlwm efo'r gwaith. 

    "Eisteddfod pobl Sir Fynwy a'r Cyffiniau yw hon, ac mae'r trigolion wedi disgwyl yn ddigon hir i ni ymweld â'r ardal - dros gan mlynedd! Mae'r giatiau ar agor a'r croeso yn gynnes, felly dewch draw i'n gweld yn Nolydd y Castell."

    elfedFfynhonnell y llun, bbc
  8. Codi'r barwedi ei gyhoeddi 11:23 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'n dechrau edrych fel bod angen cymwysterau arbennig arnoch chi dim ond i gerdded o gwmpas y Maes y dyddiau 'ma!

    Maes
  9. Neges o Awstralia bellwedi ei gyhoeddi 11:13 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Rwy'n gwylio'r cystadlu yn fyw o Sydney, Awstralia, ac wrth fy modd o fedru cael y Steddfod yma pan ar fy ngwyliau.

    Diolch yn fawr.

    Julia Rogers (o Gaernarfon yn enedigol)

  10. Eisteddfod ddwyieithogwedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Braf gweld fod yr Eisteddfod eleni'n gweithredu polisi dwyieithog lawn, gyda chyfartaledd rhwng y de a'r gogledd.

    llaeth
  11. Bandiau preswedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'n ddiwrnod y bandiau pres a'r corau yn y Steddfod yn Y Fenni. Cofiwch y gallwch wylio'r holl gystadlu yn fyw, bob dydd, ar Cymru Fyw, gyda'r opsiwn i wrando ar sylwebaeth Saesneg.

    Band Pres
  12. Digon o gerddoriaeth gwerin ar y Maes heddiwwedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Coleman yn ffefryn am swydd Hullwedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    BBC Sport Wales

    Yn ôl adran chwaraeon BBC Cymru, mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, yn un o'r ffefrynnau ar gyfer swydd prif hyfforddwr Hull City.

    Mae'n debyg fod trafodaethau wedi digwydd rhwng y clwb a Coleman, a wnaeth arwyddo cytundeb newydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Mai.

    Fe wnaeth Coleman arwain ei wlad i rownd gyn-derfynol Euro 2016, a dywedodd yn ddiweddar y byddai'n parhau yn y swydd hyd at ddiwedd ymgyrch Cwpan y Byd 2018.

    Chris Coleman ar ei ffordd i Hull City?Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Yw Chris Coleman ar ei ffordd i Hull City?

  14. Iawn...gawn ni ddechrau nawr?wedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Does neb yn meddwl am y bobl sy'n gorfod cario'r holl gwpanau a thariannau i gefn y llwyfan yn y Pafiliwn, felly dyma deyrnged Cymru Fyw i'r bobl weithgar hynny sydd ddim yn cael sylw fel arfer.

    Cwpanau
  15. Ble mae'r Pafiliwn?wedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Chi'n cofio hen gystadleuthau 'Spot the Ball' yn y papurau newydd?

    Wel eleni mae Cymru Fyw yn rhedeg cystadleuaeth debyg, sef 'Spot the Pafiliwn'.

    Rhowch groes lle chi'n credu mae e...

    Pafiliwn
  16. Croeso i'r Steddfod!wedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Croeso i Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn Y Fenni. Arhoswch gyda ni ar Cymru Fyw drwy'r wythnos i gael y canlyniadau, uchafbwyntiau, y straeon newyddion, lluniau ac i wylio'r holl gystadlu yn fyw o'r Pafiliwn.

    Eisteddfod