Crynodeb

  • Diwrnod llawn o gystadlu yn y Pafiliwn tan yn hwyr heno

  • Prif seremonïau'r dydd yw seremoni wobrwyo'r Priflenor Rhyddiaith am 16:30 a Thlws y Cerddor am 18:40

  • Mae cystadleuaeth Unawd o Sioe Gerdd dros 19 oed a Gwobr Richard Burton hefyd yn rhan o'r sesiwn gystadlu hwyr

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Newid i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    O hyn tan ddiwedd y dydd, bydd ein llif byw yn newid rhyw fymryn - fe fydd y prif newyddion yn dal i ymddangos ar Hafan Cymru Fyw, ond arhoswch ar ein llif byw os ydych chi am wylio'r holl gystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod yn Y Fenni a seremoni Tlws y Cerddor. 

  2. Trigolion lleol yn chwifio'u fflagiauwedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae rhai o'r tai cyfagos yn awyddus i ddangos eu bod yn cefnogi'r ŵyl - ac mae Arglwyddes Llanofer i weld yn cymeradwyo hynny...

    Fflagiau
  3. Eurig yn diolchwedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Wrth i bobl ei longyfarch o wrth adael y Pafiliwn, ag yntau'n brif lenor yr Eisteddfod eleni, ymatebodd Eurig Salisbury gyda slogan answyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru... "diolch!" 

    Dywedodd hefyd mai darllen nofel The Lord Of The Rings gan JRR Tolkien a'i ysbrydolodd i fod eisiau bod yn awdur.

    "Ar ôl darllen y gyfrol honno, ro'n i'n ben set ar fod yn sgwennwr fy hun. Nes i fynd ati i ddechrau sgwennu straeon," meddai. 

    "Nes ymlaen ddaeth y barddoniaeth a theimlo fy mod i'n gallu torri cwys i fi fy hun fel bardd, ond y cariad cynta o'r dechrau oedd rhyddiaith a straeon."

    Eurig Salisbury
  4. Robin a chyfeillion o Lydawwedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ceidwad y cledd, Robin McBryde, gyda chynrychiolaeth o Lydaw - Ludovic Loubouten ac Emilie Vegourou - gefn llwyfan ar ôl y seremoni.

    Cyfeillion o Lydaw
  5. Llorente ar y ffordd?wedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae cyfarwyddwr pel-droed Sevilla wedi dweud ei fod yn disgwyl cyhoeddi newyddion am Fernando Llorente "yn y dyddiau nesaf".

    Y disgwyl yw y bydd Abertawe yn arwyddo'r ymosodwr 31 oed, sydd wedi ennill 24 cap dros Sbaen.

    Fernando LlorenteFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Pabell lawnwedi ei gyhoeddi 17:42 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Roedd pabell Prifysgol Aberystwyth yn orlawn prynhawn 'ma ar gyfer aduniad fawreddog Aber, lle gwahoddwyd pawb oedd erioed wedi bod yn fyfyriwr yna.

    Efallai fod y bwyd a'r diod am ddim wedi bod o gymorth i ddenu pobl hefyd...

    adunioad
  7. Y llenor a'r Archdderwyddwedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Eurig Salisbury, enillydd y Fedal Ryddiaith, yn cael ei gyfarch gan yr Archdderwydd Geraint Llifon yn y seremoni'n gynharach.

    Eurig Salisbury
  8. Ymddiheuriadauwedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Yn anffodus rydyn ni wedi bod yn cael trafferthion technegol gyda'r llif byw y prynhawn yma. Ymddiheuriadau am hynny, ond fe ddylai fod popeth yn gweithio'n iawn bellach.    

  9. Eurig Salisbury yn cipio'r Fedal Ryddiaithwedi ei gyhoeddi 16:57 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Eurig Salisbury sydd wedi cipio'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016.

    Cafwyd 14 o ymgeiswyr i gyd, ond fe ddyfarnwyd gwaith y gŵr o Sir Gâr yn fuddugol gan y beirniaid Angharad Dafis, Jane Aaron a Dafydd Morgan Lewis.

    Mae Eurig Salisbury yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, ble bu hefyd yn fyfyriwr, ac fe enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn 2006.

  10. Medal Ryddiaith: Y beirniad yn canmolwedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Angharad Dafis

  11. Medal Ryddiaithwedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r Fedal Ryddiaith yn cael ei roi am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Galw'.

  12. Seremoni'r Fedal Ryddiaithwedi ei gyhoeddi 16:43 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae seremoni'r Fedal Ryddiaith newydd ddechrau yn y Pafiliwn ar faes yr Eisteddfod.

    Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Angharad Dafis, Jane Aaron a Dafydd Morgan Lewis.

  13. Noson Lawen Llanoferwedi ei gyhoeddi 16:38 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn y Tŷ Gwerin ar y Maes roedd noson lawen Llanofer yn cael ei pherfformio prynhawn 'ma gydag Eiry Palfrey yn chwarae rhan Gwenynen Gwent oedd yn cyflwyno'i hanes drwy ddull perfformiadau canu a dawnsio. 

    Mae'n amlwg na chafodd y delynores yma'r neges am yr hetiau!

    hetFfynhonnell y llun, bbc
  14. Ydych chi'n mwynhau cwmni Dewi?wedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Lisa'n creu 'tagine'wedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ym mhabell ctyngor sir Y Fenni, roedd cyfle i chi ddarganfod sut oedd creu tagine blasus gyda'r gogyddes Lisa Fearn.

    Mae'r babell yn cynnal arddangosfeydd coginio rheolaidd yn ddyddiol...

    lisaFfynhonnell y llun, bbc
  16. Angen 'achub' Amina, medd barnwrwedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi dweud bod cyfrifoldeb ar dad o Saudi Arabia i ddod â'i ferch 21 oed yn ôl i Brydain.

    Yn ôl Amina Al-Jeffery, gafodd ei magu yn Abertawe ac sydd â dinasyddiaeth Brydeinig a Saudi, mae ei thad Mohammed Al-Jeffery yn ei chadw hi yn erbyn ei hewyllys yn ninas Jeddah.

    Dywedodd y barnwr fod Amina "mewn perygl" ar hyn o bryd ac angen cael ei "hachub".

    Amina Al-JefferyFfynhonnell y llun, PA
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Amina Al-Jeffery wedi bod yn Saudi Arabia ers 2012

  17. Meithrinfa yn Aberystwyth i ailagorwedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Mudiad Meithrin wedi cadarnhau y bydd meithrinfa Camau Bach yn Aberystwyth yn ailagor fory.

    Cafodd y feithrinfa ei chau am gyfnod wedi i blentyn gael eu gadael ar fws am ddwy awr, a hynny ar ddiwrnod pan gyrhaeddodd y tymheredd dros 30C.

  18. '13% o bobl yn siarad Cymraeg bob dydd'wedi ei gyhoeddi 15:39

    BBC Cymru Fyw

    Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi cyhoeddi ei hadroddiad pum mlynedd cyntaf ar yr iaith Gymraeg ar faes yr Eisteddfod heddiw.

    Ymhlith y canfyddiadau mae'r ffaith bod canran y plant 5-15 oed sy'n medru siarad Cymraeg wedi dyblu ers 1981, ac mae 13% o bobl bellach yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd.

    Ond does dim cynnydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer y plant sy'n derbyn addysg a gofal blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r niferoedd sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg bellach ac uwch yn parhau i fod yn isel.

  19. Disgwyl ei drowedi ei gyhoeddi 15:34

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Steffan Rhys Hughes (dde) yn disgwyl yn eiddgar yng nghefn llwyfan y Pafiliwn yng nghystadleuaeth unawd tenor 19 ac o dan 25 oed.

    Ar y llwyfan yn gynta', ac i'w weld yma ar y teledu, mae Huw Ynyr Evans.

    Gallwch ddilyn holl ddigwyddiadau'r Pafiliwn yn fyw yma ar Cymru Fyw.

    Steffan a Huw