Crynodeb

  • Diwrnod llawn o gystadlu yn y Pafiliwn tan yn hwyr heno

  • Prif seremonïau'r dydd yw seremoni wobrwyo'r Priflenor Rhyddiaith am 16:30 a Thlws y Cerddor am 18:40

  • Mae cystadleuaeth Unawd o Sioe Gerdd dros 19 oed a Gwobr Richard Burton hefyd yn rhan o'r sesiwn gystadlu hwyr

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Pa mor lân yw allweddell eich cyfrifiadur chi?wedi ei gyhoeddi 15:23

    Wales Online

    Os ydych chi'n rywun sy'n bwyta'ch cinio wrth eich desg yn y gwaith, neu'n gweithio ar gyfrifiaduron gwahanol bob dydd, efallai y dylech chi olchi'ch dwylo'n reit handi!

    Mae WalesOnline, dolen allanol wedi bod yn edrych ar ba mor lân yw allweddellau cyfrifiaduron yn y gweithle, ac wedi canfod ambell ffaith ddiddorol...

  2. Llawn yn y Babell Lênwedi ei gyhoeddi 15:11

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r Babell Lên yn llawn prynhawn 'ma ar gyfer Ymryson y Beirdd. Ac mae camerâu yno i ddilyn y cyfan hefyd.

    Y Babell Lên
  3. Gwahodd y Gymdeithas Bêl-droed i'r llwyfanwedi ei gyhoeddi 14:53

    BBC Cymru Fyw

    Bydd dau o aelodau blaenllaw Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod y prynhawn yma yn dilyn gwahoddiad annisgwyl.

    Roedd is-reolwr tîm Cymru Osian Roberts a'r pennaeth materion cyhoeddus Ian Gwyn Hughes yn cymryd rhan mewn sgwrs ym mhabell Maes D ar y maes pan gawson nhw'r gwahoddiad gan gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Eifion Lloyd Jones.

    IG ac Osi
    Disgrifiad o’r llun,

    Ian Gwyn Hughes ac Osian Roberts ar y maes yn gynharach

  4. Ymddiheuriadauwedi ei gyhoeddi 14:52

    BBC Cymru Fyw

    Oherwydd nam technegol mae'n debyg nad yw'r llif byw wedi bod yn diweddaru fel y dylai. Ymddiheuriadau am hynny, ond fe ddylai fod popeth yn gweithio'n iawn bellach.

  5. Arwr y Maeswedi ei gyhoeddi 14:50

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Sam Tân yw arwr y ddau frawd bach yma ar faes y Steddfod heddiw.

    Sam Tân
  6. 'Balch i dderbyn yr anrhydedd' - Osian Robertswedi ei gyhoeddi 14:39

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Wrth ymateb i'r gwahoddiad gan yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw, fe gadarnhaodd Osian Roberts, is-hyfforddwr Cymru, y byddai ef ac Ian Gwyn Hughes yn camu i lwyfan y pafiliwn y prynhawn yma i dderbyn anrhydedd ar ran y chwaraewyr a'r gymdeithas.

    Meddai: "'Da ni'n mynd i'r Steddfod yn flynyddol fel cymdeithas rhyw ffordd neu gilydd ac felly mae'n beth hollol naturiol i ni fod yma eto eleni.

    "Dyda ni ddim yn teimlo ein bod ni'n gofyn am unrhyw gydnabyddiaeth gan ein bod ni'n teimlo ein bod ni wedi cael hynny gan y genedl yn barod.

    "Rhan fechan iawn ma' Ian [Gwyn Hughes] a finna'n chwara'. Ond wrth gwrs, gan ein bod ni yma'n barod, 'da ni'n fwy na pharod a balch i dderbyn yr anrhydedd yma."

    Ychwanegodd ei fod yn pitïo nad oedd dathliadau wedi cael eu cynnal yn y gogledd i groesawu'r garfan yn ôl i Gymru ac y byddai hynny "wedi bod yn braf", ond roedd hi "anodd iawn o ran amser i'r chwaraewyr".  

    Osian Roberts
    Disgrifiad o’r llun,

    Osian Roberts

  7. Beirniadu ymateb Llywodraeth Cymru i Brexitwedi ei gyhoeddi 14:36

    BBC Cymru Fyw

    Mae academydd blaenllaw wedi disgrifio ymateb Llywodraeth Cymru i Brexit fel un "cysglyd" sydd heb gydnabod "realiti" y sefyllfa.

    Ychwanegodd yr Athro Richard Wyn Jones bod rhaglenni fel Cymunedau'n Gyntaf wedi bod yn fethiant, wrth siarad mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod.

  8. Ffrae dros ddyfodol Nathan Gillwedi ei gyhoeddi 14:16

    BBC Wales Politics

    Mae grŵp o gadeiryddion canghennau UKIP wedi ysgrifennu at eu pwyllgor rheoli yn gofyn iddyn nhw roi'r gorau i fygwth diarddel arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill.

    Ddydd Llun fe ddywedodd y pwyllgor y byddai'n rhaid i Mr Gill adael UKIP os nad oedd yn rhoi gorau i un o'i ddau swydd, fel Aelod Seneddol Ewropeaidd neu fel Aelod Cynulliad.

  9. Anthem answyddogol y cefnogwyrwedi ei gyhoeddi 14:07

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Daeth y sgwrs gyda'r panel pêl-droed ar y Maes i ben gyda'r cyflwynydd Dylan Ebenezer yn arwain clap arbennig yn null cefnogwyr Gwlad yr Iâ - arferiad a ddaeth i sylw'r byd yn dilyn eu campau yn Euro 2016.

    Roedd y gynulleidfa - ac roedd digon yno - i weld yn mwynhau!

    clapio
  10. Braf, ond gwyntogwedi ei gyhoeddi 13:44

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r haul yn gwenu ar y Maes ond mae hi'n wyntog iawn - mae'r baneri sy'n chwifio yn brawf o hynny!

    Haul
  11. Anrhydedd i'r Gymdeithas Bêl-droedwedi ei gyhoeddi 13:26

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae disgwyl i is-hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts, a phennaeth materion cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, fod ar lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn nes ymlaen y prynhawn ‘ma wedi iddyn nhw gael gwahoddiad gan yr Eisteddfod Genedlaethol i’w hanrhydeddu nhw a'r tîm cenedlaethol ar eu llwyddiant ym mhencapwriaeth Euro 2016.

    Roedd y ddau yn bresennol mewn sesiwn holi ac ateb orlawn ym mhabell Maes D pan gawson nhw'r gwahoddiad annisgwyl gan gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, Eifion Lloyd Jones.

    Fe ddaw hyn yn dilyn cryn ddadlau ac anfodlonrwydd wedi sylwadau'r archdderwydd Geraint Llifon, na fyddai modd urddo llawer o aelodau'r tîm i'r Orsedd am nad ydyn nhw'n siarad Gymraeg.

    Eifion Lloyd Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Eifion Lloyd Jones

  12. A483 ar gauwedi ei gyhoeddi 13:25

    Heddlu Gogledd Cymru

    Fe ddywed yr heddlu bod yr A483 ar gau i'r ddau gyfeiriad wedi damwain ddifrifol rhwng yr A470 (Dolgellau) ac Arthog ger pentref Llynpenmaen.

  13. Sgwrs gyda'r Gymdeithas Bêl-droedwedi ei gyhoeddi 13:20

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Roedd 'na dipyn o dynnu coes ym mhabell Maes D amser cinio wrth i Lowri Roberts holi panel oedd yn cynnwys Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Materion Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ac Osian Roberts, is-hyfforddwr y tîm cenedlaethol.

    Y cyn-chwaraewr rhyngwladol Gwennan Harries a'r cyflwynydd Dylan Ebenezer oedd y ddau arall ar y panel.

    IGH ac Osian Roberts
  14. Ffrae iaith: 'Lled hiliol'wedi ei gyhoeddi 13:00

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrth raglen Taro'r Post nad yw hi'n credu bod trydar o'r fath - yn ddiniwed neu beidio - yn dderbyniol yn y byd cyfoes. Disgrifiodd y cwestiwn gan yr ymchwilydd o orsaf 5Live fel negyddol a lled hiliol. Mae Meri Huws wedi cysylltu gyda Chyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies.

    meri huws
    Disgrifiad o’r llun,

    Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws

  15. Ffrae 'marwolaeth yr iaith Gymraeg': Ymatebwedi ei gyhoeddi 12:51

    BBC Cymru Fyw

    Wrth ymateb i feirniadaeth wedi i ymchwilydd i BBC Radio 5Live drydar yn chwilio am rhywun i drafod pam eu bod "am weld yr iaith Gymraeg yn marw" dywedodd llefarydd o'r orsaf: 

    "Fe wnaethon ni ddarlledu trafodaeth eang am ieithoedd heblaw Saesneg. Yn amlwg roeddem am adlewyrchu ystod eang o farn. Wrth geisio gwneud hyn, fe gafodd trydariad amhriodol ei anfon o gyfrif personol.

    "Rydym yn flin am unrhyw dramgwydd a achoswyd."

  16. Coleman: Stori'n rhygnu 'mlaenwedi ei gyhoeddi 12:36

    Roedd pawb yn meddwl bod y sibrydion am Chris Coleman yn gadael swydd rheolwr Cymru drosodd gyda datganiad y Gymdeithas Bêl-droed y dydd o'r blaen, ond.......

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Dyer yn aros gyda'r Elyrchwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Nathan Dyer yw'r ail chwaraewr i arwyddo cytundeb hir dymor gyda'r clwb yr wythnos hon, a hynny'n dilyn Gylfi Sigurdsson.

    Fe dreuliodd yr asgellwr 28 oed gyfnod ar fenthyg gyda Chaerlŷr y tymor diwethaf, gan ennill Uwch Gynghrair Lloegr.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Cylchgrawn newyddwedi ei gyhoeddi 12:26 Amser Safonol Greenwich+1 3 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn stondin Prifysgol Bangor mae lansiad swyddogol y cylchgrawn llenyddol newydd, O'r Pedwar Gwynt.

    Yr Athro Gerwyn Williams sy'n cyflwyno, ac fe dalodd deyrnged i'r diweddar Gwyn Thomas am ei ddylanwad wrth roi'r cylchgrawn newydd ar ben ffordd.

    Bydd y cylchgrawn newydd yn cymryd lle Taliesin.

    O'r Pedwar Gwynt
    OPG