Crynodeb

  • Canlyniad: Cymru 22- 9 Iwerddon

  • Cymru: cais: North (2), ciciau Halfpenny (2)

  • Iwerddon: ciciau Sexton (2), Jackson

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 22:16 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Buddugoliaeth i Gymru!

    Bydd Rob Howley ac aelodau'r tîm hyfforddi yn cysgu'n dawel heno gan edrych ymlaen at y gêm olaf yn erbyn Ffrainc ym Mharis wythnos i fory.

    Diolch am ddilyn y gêm ar Cymru Fyw - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Rhys Webb a'r tîm yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
    George North yn sgorio caisFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Sylwebu'n troi'n farddoniwedi ei gyhoeddi 22:15 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Sylwebaeth gan Gareth Charles ar Camp Lawn ar S4C yn plesio'r bardd Aneirin Karadog.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Cymru'n dathluwedi ei gyhoeddi 22:06 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Bethan Clement
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    "Wel, joies i honna! Wy ddim yn siŵr y bydde'r nifer fwyaf o bobl 'di darogan buddugoliaeth - o'r sgôr yna hefyd - i'r crysau Cochion. 

    "Wy'n falch on i'n anghywir 'fyd! Hwb aruthrol i'r garfan sy'n cadw'u lle yn 8 ucha' detholion y byd. A fe fydd y momentwm 'da nhw hefyd i ddod â'u hymgyrch i ben 'da buddugoliaeth arall (gobeithio!) mas ym Mharis y Sadwrn nesaf.

    " Ond ma'r canlyniad hefyd yn golygu bo' Lloegr yn ishte'n hapus ar frig tabl y 6 Gwlad.

    " Ond am heno - rhyddhad. A dathlu! Gwych Cymru!! 

  4. Buddugoliaeth: Cymru 22-9 Iwerddonwedi ei gyhoeddi 80+2 mun

    Amddiffyn arwrol a Chymru yn sicrhau buddugoliaeth yng Nghaerdydd. 

  5. Cymru am bwynt bonws!wedi ei gyhoeddi 80+ 2 mun

    George North ar rediad cryf arall yn yr eiliadau olaf.

  6. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 21:56 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Bethan Clement
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    "Arwrol gan Gymru!! Cymru yn wych yn cadw'u disgyblaeth! A'r hen ben Jamie Roberts yn taflu'i hunan dros y llinell!! Joio hon! "

  7. Cymru 22-9 Iwerddonwedi ei gyhoeddi 79 mun

    Cic Halfpenny yn rhoi Cymru ymhellach ar y blaen. 

  8. Cais i Gymru. Cymru 22-Iwerddon 9wedi ei gyhoeddi 78 mun

    Cais i Jamie Roberts. Ar ôl yr holl bwysau, Cymru'n torri'n rhydd. 

    Jamie Roberts yn dathlu ei gaisFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Dal i amddiffynwedi ei gyhoeddi 73 mun

    Sgrym 5 i Iwerddon, Cymru yn parhau i amddiffyn ond am ba hyd?

  10. 'Nerfau'n rhacs'wedi ei gyhoeddi 21:42 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Bethan Clement
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    "Mowredd!! Ma' nerfau i'n rhacs a ma' dros 10 munud i fynd! 

    "Ma'n rhaid i Gymru geisio cadw'u nerfau nhw fan hyn - gobeitho y caiff yr eilyddion argraff gadarnhaol ar y gêm.

    "Falch gweld Faletau 'mla'n. Welwn ni Sam Davies tybed?"

  11. Pwysau ac eilyddiowedi ei gyhoeddi 66 mun

    Gwaith amddiffynnol cryf gan Halfpenny yn atal y Gwyddelod eto. Ond Cymru yn methu â chlirio a'r pwysau yn parhau.  Jamie Roberts yn cymryd lle Scott Williams yn y canol. Taulupe Faletau hefyd ar y cae. 

    HalfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Eilyddiowedi ei gyhoeddi 62 mun

    Luke Charteris yn cymryd lle Jake Ball yn yr ail reng.

  13. Parhau'n agoswedi ei gyhoeddi 62 mun

    I mewn i'r chwarter olaf, ac un sgôr sydd ynddi. Tacl bwysig gan Moriarty yn atal Sexton. Pwyso gan Iwerddon ond Cymru yn adennill y bêl ac yn cicio i fyny'r cae. Amser am seibiant.

  14. Cymru 15-9 Iwerddonwedi ei gyhoeddi 56 mun

    Cic gosb i Iwerddon, a'r Gwyddelod yn ôl o fewn chwe phwynt. 

  15. Sexton yn ôlwedi ei gyhoeddi 53 mun

    Jonathan Sexton ôl ar y cae ar ôl ei gerdyn melyn. Iwerddon yn dechrau ymosod eto.

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. 'Dechrau perffaith'wedi ei gyhoeddi 21:19 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Bethan Clement
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    "Y dechre perffaith i'r ail hanner! Amynedd, pwyso, manteisio ar Iwerddon lawr i 14 dyn - a George North yn ymateb i'w feirniadaeth yn y modd gorau posib!

    "Ma' Cymru ar dân - a ma' nghwpan i'n hanner llawn tro 'ma! Gwych! 

  17. Cymru 15-6 Iwerddonwedi ei gyhoeddi 46 mun

    Leigh Halfpenny yn rhoi Cymru naw pwynt ar y blaen.

    Leigh Halfpenny yn trosiFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Ail gais i North: Cymru 13-6 Iwerddonwedi ei gyhoeddi 44 mun

    Ail gais i North ac i Gymru. Cymru yn torri'n rhydd ar ôl bod yn amddiffyn. Cwrsio da gan Halfpenny yn sicrhau safle a llinell fanteisiol i Gymru.

    George North a Rhys Webb yn dathlu ail gaisFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    George North a Rhys Webb yn dathlu ail gais

  19. Cymru 8-5 Iwerddon.wedi ei gyhoeddi 21:08 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Y gêm yna i'r ddau dîm ei hennill. Iwerddon yn dechrau’r ail hanner. 

  20. 'Digon o ymdrech'wedi ei gyhoeddi 20:59 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Bethan Clement
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    "Diwedd cyffrous i'r hanner cyntaf, a Chymru a'u trwynau ar y bla'n. 

    "Ry' ni 'di gweld digon o ymdrech gan Gymru yn ymosodol ac amddiffynnol yn y 40 munud agoriadol, mewn gêm gystadleuol a chyffrous. 

    "Edrych 'mlaen at yr ail hanner!"