Crynodeb

  • Canlyniad: Cymru 22- 9 Iwerddon

  • Cymru: cais: North (2), ciciau Halfpenny (2)

  • Iwerddon: ciciau Sexton (2), Jackson

  1. Dan straenwedi ei gyhoeddi 20:55 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Mae rhai yn teimlo'r pwysau yn barod ...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Cymru 8-6 Iwerddonwedi ei gyhoeddi 38 mun

    Leigh Halfpenny yn rhoi Cymru yn ôl ar y blaen ychydig cyn yr egwyl. 

  3. Cic gosb i Gymru.wedi ei gyhoeddi 36 mun

    Y gêm yn ôl yn hanner Iwerddon. Cymru yn pwyso ac yn llwyddo i gael cic gosb. Mae yna hefyd gerdyn melyn i Sexton am ladd y bêl.

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Balch dros Northwedi ei gyhoeddi 20:44 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Cefnogaeth i George North gan gyn chwaraewr rhyngwladol Lloegr, Will Carling, ar ôl wythnos anodd i'r Cymro. 

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Cic gosb: Cymru 5-6 Iwerddonwedi ei gyhoeddi 27 mun

    Y sgorfwrdd yn brysur. Cymru yn troseddu, ac Iwerddon yn ôl ar y blaen ar ôl cic gosb arall. Paddy Jackson yn anelu'n gywir gan fod Sexton wedi ei anafu. 

  6. 'Rhagor plîs!'wedi ei gyhoeddi 20:33 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Bethan Clement
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    "Dadlwytho gwych gan Scott Williams, 'da Webb a Halfpenny yn chware'u rhan yn berffaith!

    "A North mor benderfynol yn croesi am gais cynta'r gêm! Sgiliau gwych gan Gymru - braf iawn gweld! Rhagor plîs!"

  7. Cais i Gymru: Cymru 5-3 Iwerddonwedi ei gyhoeddi 20 mun

    Y bêl yn mynd drwy'r dwylo'n gyflym. George North yn ei derbyn ac yn croesi am gais. 

    George North yn croesi'r llinellFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Tro Cymru i bwysowedi ei gyhoeddi 11 mun

    Rhediadau cryf yn gyntaf gan Liam Williams ac yna gan George North yn rhoi hyder i Gymru. 

    cymru
  9. Cymru 0-3 Iwerddonwedi ei gyhoeddi 6 mun

    Cymru dan bwysau yn y munudau cyntaf. Ond cic gosb i Iwerddon ar ôl i Gymru droseddu a Sexton yn eu rhoi ar y blaen.  

  10. Cymru 0-0 Iwerddonwedi ei gyhoeddi 2 munud

    Y dyfarnwr Wayne Barnes o Loegr yn chwythu'r chwiban ar gyfer dechrau'r gêm.

    Cic gan Dan Biggar a'r chwarae yn dechrau.

  11. Barod i fyndwedi ei gyhoeddi 20:04 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Barod i fynd... Mae'r timau ar y cae, a'r anthem gyntaf - Ireland's Call - wedi atseinio.   A chyda Hen Wlad Fy Nhadau wedi ei chanu, dyma ni'n barod i fynd

  12. 'C'mon Cymru!'wedi ei gyhoeddi 20:01 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Bethan Clement
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    "Ma' 'na lawer o bwyse ar y chwaraewyr heno - pwyse falle nad yw'r garfan hon yn gyfarwydd ag e. 

    "Ond gyment wyf am weld y tîm yn chwarae'n dda heno, ennill sy' bwysica' wy'n meddwl, gyda Chwpan y Byd rownd y gornel. C'mon Cymru!"  

  13. Tafarndai'n brysurwedi ei gyhoeddi 19:59 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Gyda'r gêm yn dechrau'n hwyrach heno a phob tocyn i'r stadiwm wedi ei werthu mae tafarndai'r brifddinas wedi bod yn brysur iawn cyn y gêm.

    Torf tu allan i'r City ArmsFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Gwrandewch ar sylwebaeth Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 19:56 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    BBC Camp Lawn

    Mae hi'n bosib gwrando ar sylwebaeth fyw Radio Cymru o'r gêm ar ein llif byw trwy glicio ar eicon y rhaglen uchod.

    Y tîm sylwebu heddiw yw Cennydd Davies a chyn-chwaraewyr Cymru, Emyr Lewis a Jamie Robinson.

  15. Cymru v Iwerddon: Dadansoddi'r dewiswedi ei gyhoeddi 19:50 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Ar ôl i Rob Howley gyhoeddi tîm Cymru i wynebu Iwerddon, Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru Cennydd Davies fu'n dadansoddi'r dewis.

    Disgrifiad,

    Cennydd Davies yn dadansoddi dewis Rob Howley

  16. Tîm Iwerddonwedi ei gyhoeddi 19:48 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Mae hyfforddwr Iwerddon, Joe Schmidt hefyd wedi penderfynu yn erbyn gwneud unrhyw newidiadau i'r tîm i herio Cymru heddiw.

    Yr unig newid i'r garfan wnaeth drechu Ffrainc bythefnos yn ôl yw'r asgellwr Tommy Bowe yn cymryd lle Andrew Trimble ar y fainc.

    IwerddonFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dyma'r 15 fydd yn herio Cymru heddiw:

    Rob Kearney; Keith Earls, Garry Ringrose, Robbie Henshaw, Simon Zebo; Jonathan Sexton, Conor Murray; Jack McGrath, Rory Best (c), Tadhg Furlong, Donnacha Ryan, Devin Toner, CJ Stander, Sean O'Brien. Jamie Heaslip.

    Eilyddion:  Niall Scannell, Cian Healy, John Ryan, Iain Henderson, Peter O'Mahony, Kieran Marmion, Paddy Jackson, Tommy Bowe.

  17. Bethan yn barod amdaniwedi ei gyhoeddi 19:38 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Bethan Clement
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    Ein sylwebydd ni heddiw yw Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Bethan Clement:

    "......Hmm. 'Na shwt wy'n teimlo ar hyn o bryd cyn y gêm heno! Digon fflat â bod yn onest. Ma'r holl adroddiadau a sylwadau negyddol ar wefannau cymdeithasol yn ddigon i neud dyn droi bant! 

    "Byddai'n dal i deimlo cyffro cyn gwylio Cymru'n chware - dyw'r teimlad 'na ddim yn mynd i ddiflannu - ond dy' ni ddim mewn undod ar hyn o bryd nagyn ni! 

    "Wy yn becso am heno - bydd y chwaraewyr, yr union rai gollodd yn erbyn yr Alban, yn sicr moyn 'neud yn iawn am y canlyniad yna. 

    "Ond allai'm gweud bo' fi 'di clywed na gweld dim ers y gêm yn Murrayfield sy'n neud i feddwl y bydd Cymru'n fuddugoliaethus heno! Dyw 'nghwpan i ddim yn hanner llawn heno mae arna'i ofn!"

  18. Tîm Cymruwedi ei gyhoeddi 19:35 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Dyw hyfforddwr Cymru Rob Howley ddim wedi gwneud unrhyw newidiadau i'r garfan o 23 i herio Iwerddon heno.

    Mae Howley wedi penderfynu yn erbyn cyflwyno wynebau newydd, er i union yr un tîm gael eu trechu gan Yr Alban yn Murrayfield bythefnos yn ôl.

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dyma'r tîm yn llawn:  

    Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (c), Sam Warburton, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

    Eilyddion:  Scott Baldwin, Nicky Smith, Samson Lee, Luke Charteris, Taulupe Faletau, Gareth Davies, Sam Davies, Jamie Roberts.

  19. Yr angen am fuddugoliaethwedi ei gyhoeddi 19:34 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Mae gwir angen buddugoliaeth ar Gymru heno. 

    Pe bai nhw'n colli hwn fyddai'r tro cyntaf i Gymru golli tair yn olynol ers pencampwriaeth 2010.  

    cymruFfynhonnell y llun, EPA
  20. Croeso i'r llif byw!wedi ei gyhoeddi 19:33 Amser Safonol Greenwich 10 Mawrth 2017

    Efallai bod gobeithion o ennill y bencampwriaeth ar ben, ond mae'r ddwy gêm sy'n weddill yn bwysig iawn os yw Cymru am osgoi llithro allan o'r wyth uchaf yn netholion y byd.

    Bydd y chwaraewyr yn awyddus i greu argraff hefyd yn dilyn y feirniadaeth yn dilyn y canlyniad siomedig yn erbyn Yr Alban.

    Iwerddon sy'n cael eu croesawu i Stadiwm Principality heddiw, gyda gobeithion y Gwyddelod o ennill y bencampwriaeth yn dal yn fyw.

    Ai dyna fydd yr achos ymhen dwy awr? Arhoswch gyda ni i weld!

    HowleyFfynhonnell y llun, Getty Images