Barn yr ymgeiswyrwedi ei gyhoeddi 00:35 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mai 2017
Sion Jones
Ymgeisydd Llafur
"Pobl yn troi allan i bleidleisio. Mae'n edrych fel trend ar draws Cymru, a gallaf adrodd heno bod nifer o wardiau yng Ngwynedd wedi cyrraedd dros 70% o bobl yn pleidleisio. Bethel a Bontnewydd o gwmpas 72% - y tywydd wedi helpu yn fawr iawn i gael pobl allan i bleidleisio.
"Bydd hi'n ddiddorol gweld sut fydd arolygon cenedlaethol yn effeithio pleidlais Llafur dros nos a bore fory gyda'r niferoedd uchel yn pleidleisio.
"Mae Plaid Cymru wedi cael 17 o gynghorwyr wedi eu hethol heb wrthwynebiad yng Ngwynedd, Bydd rhaid i ni a'r annibynwyr obeithio fory bydd Plaid Cymru'n colli seddi ar draws Gwynedd er mwyn cael rhyw fath o gytundeb i redeg Cyngor Gwynedd."