Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2017
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan am heno.
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 bore fory.
Teyrngedau i gyn Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan
Cynllun miliwn o siaradwyr Cymraeg: 'Diffyg eglurder'
Gwrthod talu trwydded deledu dros bwerau darlledu
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan am heno.
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 bore fory.
Tywydd, BBC Cymru
"Mi fydd hi'n noson glir heno felly'n ddigon rhynllyd dros nos," meddai Rhian Haf.
"Ond mae disgwyl diwrnod sych arall i raddau fory, rhai cawodydd yn ystod y p'nawn ac ambell gawod drom yn nwyrain y wlad.
"Mae disgwyl rhai cawodydd eto dydd Sadwrn, ond fe fydd hi'n sych ar y cyfan ddydd Sul ac yn gynhesach - mi gawn ni ddigon o gyfnodau heulog drwy'r penwythnos."
Heddlu Dyfed Powys
Mae Dyfed-Powys wedi arestio tri dyn yn Llanelli ar amheuaeth o fod a gwn yn eu meddiant gyda'r bwriad o achosi niwed neu greu ofn.
Roedd Heol Murray yng nghanol y dref wedi cau am gyfnod yn dilyn y digwyddiad.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon wedi methu a dod i benderfyniad yn achos dyn 67 oed o Fae Colwyn sydd wedi ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ferch yn ei harddegau.
Dywedodd y barnwr Niclas Parry y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gorfod penderfynu a fydd angen achos newydd yn erbyn Colin Leonard Cureton.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Golwg 360
Yn ôl Golwg 360 mae'r Cynulliad wedi ffurfio côr i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, dolen allanol, gydag Aelodau Cynulliad a staff y sefydliad yn rhan ohono.
Mae’n debyg mai syniad Y Llywydd, Elin Jones, oedd dechrau’r côr ac mae disgwyl i ymarferion ddechrau’r wythnos nesaf meddai Golwg.
Hwn o dudalen Facebook, Nia a Peredur Williams o Fangor, ac ymwelydd annisgwyl ar achlysur eu priodas.
"Dyma'r sgwrs ar ôl mynd nôl i'r ysgol gyda dosbarth Cymraeg ail iaith.
"Llun da o ti yn papur, Miss.
"Diolch yn fawr.
"Who was that man with the massive afro? Is he your dad?
"Rhodri Morgan, PRIF WEINIDOG Cymru!
"Oh, didn't even know we had one....!"
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Blog
Mae Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain ymysg y sefydliadau sy'n rhoi teyrnged i gyn brifweinidog Cymru, Rhodri Morgan, fu farw neithiwr.
Roedd yn gefnogwr brwd i'r mudiad meddai'r gymdeithas ar eu gwefan, dolen allanol ac yn un o'u noddwyr.
Cyngor Ynys Môn
Bydd y gwaith adeiladu ar y rhan ddiweddaraf o ffordd gyswllt newydd Llangefni yn dechrau ddydd Llun 22 Mai.
Bydd yn cynnwys cylchfan newydd ar yr A5114 ar gyrion y dref gyda rhan o'r ffordd i'w chysylltu â Stad Ddiwydiannol Llangefni.
Dywed Cyngor Ynys Môn y bydd y ffordd gyswllt yn helpu i sicrhau budd economaidd sylweddol ar gyfer Llangefni ac Ynys Môn, gan gysylltu campws Pencraig Grŵp Llandrillo Menai â’r A5114.
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mewn cyfres newydd ar Radio Cymru mae Rhys Meirion yn crwydro ardaloedd o Gymru i ddod i adnabod pobl y fro.
Ond pa mor dda ydych chi'n adnabod ardaloedd Cymru? Triwch gwis ein hadran Gylchgrawn i weld.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae dyn 92 oed o Abertyleri wedi ei gael yn euog o ddefnyddio ystafelloedd sgwrsio ar y we i geisio denu merched ifanc i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw.
Roedd Ivor Gifford wedi anfon negeseuon o natur rywiol i broffil ffug gan rywun oedd yn smalio eu bod yn ferched ifanc 11 a 12 oed.
Yn ogystal ag ensyniadau rhywiol, roedd wedi anfon lluniau o'i hun yn noeth, a hefyd wedi trefnu i gwrdd â'r 'merched' yng Nghaerdydd.
Bydd Gifford yn cael ei ddedfrydu ar 2 Mehefin.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyngor Gwynedd
Mae’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn wedi ei ethol yn arweinydd newydd ar Gyngor Gwynedd. Fe’i etholwyd yng nghyfarfod cyntaf y cyngor llawn yn dilyn yr etholiadau lleol diweddar.
Yn Gynghorydd Gwynedd dros ward Gogledd Dolgellau, mae’r Cynghorydd Siencyn wedi bod yn ddirprwy arweinydd y Cyngor ers 2014.
Yn ystod cyfarfod y Cyngor llawn, dywedodd y Cynghorydd Siencyn y bydd yn penodi’r Cynghorydd Mair Rowlands yn ddirprwy arweinydd.
Golwg 360
Dau grefftwr lleol sydd wedi eu creu, ac mae'r ddau wedi dwyn ysbrydoliaeth o ardal Pen-y-bont ar Ogwr Taf Elai.
Osian Roberts o Roshirwaun ger Aberdaron yn wreiddiol sy'n gyfrifol am y gadair, a'r artist Iolo Edger sy’n gyfrifol am greu'r goron.
Cyngor Sir Penfro
Mae'n ymddangos mai'r Cynghorydd David Simpson fydd arweinydd newydd Cyngor Sir Penfro, wedi i'r cyn arweinydd Jamie Adams dynnu allan o'r ras yn gynharach heddiw.
Roedd disgwyl i'r arweinydd gael ei ddewis yng nghyfarfod llawn y cyngor ddydd Iau nesaf, ond gyda dim ond un ymgeisydd yn weddill, mae'n debygol mai Mr Simpson fydd yn cael ei ddewis bellach.
Nid yw'n aelod o grŵp unrhyw blaid yn y cyngor, ond roedd wedi derbyn cefnogaeth yr aelodau Llafur, Ceidwadol a Democratiaid Rhyddfrydol yn ei ymgais i gael ei ddewis yn arweinydd.
BBC Cymru Fyw
Mae'r heddlu yn ymchwilio yn sgil nifer o farwolaethau babanod mewn ysbyty yng Nghaer.
Mae nifer o wragedd sy'n byw ar ochr Cymru o'r ffin yn rhoi genedigaeth yn Ysbyty Duges Caer.
Dywed yr heddlu eu bod yn ymchwilio i'r cyfnod rhwng Mehefin 2015 a 2016.