Crynodeb

  • Teyrngedau i gyn Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan

  • Cynllun miliwn o siaradwyr Cymraeg: 'Diffyg eglurder'

  • Gwrthod talu trwydded deledu dros bwerau darlledu

  1. Marwolaeth Rhodri Morgan: Pleidiau'n atal ymgyrchuwedi ei gyhoeddi 08:05 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r blaid Lafur, y Ceidwadwyr, UKIP, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn atal ymgyrchu tuag at yr Etholiad Cyffredinol yng Nghymru heddiw yn dilyn y newyddion am farwolaeth Rhodri Morgan.

  2. Rhodri Morgan wedi marw yn 77 oedwedi ei gyhoeddi 08:02 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi marw yn 77 oed.

    Bu'n Brif Weinidog am bron i 10 mlynedd, cyn ildio'r awennau ym mis Tachwedd 2010.

    Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Heno, mae Cymru, nid yn unig wedi colli gwleidydd mawr, ond ffigwr tadol."

    "Fe wnaeth gymaint i frwydro dros ddatganoli ac yna sicrhau fod y sefydliad yn ennill ei le yng nghalonnau pobl ein gwlad."

    "Fe fydd degawd gyntaf datganoli, a'r broses o wneud penderfyniadau a dewisiadau penodol i Gymru yn cael eu cysylltu am byth gyda'i arweinyddiaeth ef," meddai Mr Jones.

    Rhodri Morgan
  3. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:00 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mai 2017

    BBC Cymru Fyw

    Bore da a chroeso i'r llif byw ar 18 Mai.

    Fe gewch chi'r holl ddigwyddiadau a straeon o Gymru yn fyw tan 18:00.