Y Coroni: Y Feirniadaethwedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2017
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
M Wynn Thomas yn dweud bod 34 o bryddestau wedi dod i law y beirniaid.
Gwion Hallam o'r Felinheli yn ennill Coron yr Eisteddfod
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
M Wynn Thomas yn dweud bod 34 o bryddestau wedi dod i law y beirniaid.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r beirniaid ar y llwyfan. M Wynn Thomas sy'n traddodi'r feirniadaeth.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Geraint Llifon yn diolch i'r dorf am ddod i'r seremoni, ac yn diolch i noddwyr y Goron a'r cyfraniad ariannol.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Ar ganiad utgyrn Dewi Corn a Paul Corn Cynan, mae'r gynulleidfa yn codi ar ei thraed ar gyfer Gweddi'r Orsedd.
Gwyn ap Emlyn sy'n ei hoffrymu.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Bardd mawr Cernyw sy'n cyfarch y gynulleidfa i gydnabod croeso'r Eisteddfod i'r cynrychiolwyr Celtaidd a Gorsedd y Wladfa.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Felly beth oedd y dasg i'r beirdd eleni?
"Trwy Ddrych" oedd testun y gystadleuaeth. Roedd disgwyl i'r beirdd gyfansoddi pryddest ddigynghanedd heb fod yn fwy na 250 o linellau.
Y beirniaid yw M Wynn Thomas, Glenys Mair Roberts a Gwynne Williams.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Archdderwydd Geraint Llifon yn croesawu cynrychiolwyr o'r gwledydd Celtaidd a Gorsedd y Wladfa i'r llwyfan. Y dirprwywyr eleni yw:
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r seremoni ar gychwyn, gyda'r Archdderwydd a'r Orsedd bellach ar lwyfan y Pafiliwn.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Wrth i ni ddisgwyl i'r seremoni ddechrau, dyma ychydig o gefndir y Goron fydd y bardd buddugol yn ei derbyn... os bydd teilyngdod, hynny yw.
Mae Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn wedi ei noddi gan fudiad Merched y Wawr sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 50 eleni.
Cafodd ei llunio gan John Price o Fachynlleth. Mae'r gof arian wedi creu nifer o goronau'r brifwyl dros y blynyddoedd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae hi bron yn 16:30 ac felly dechrau prif seremoni cynta'r wythnos - Y Coroni.
Fydd 'na deilyngdod?
Mae'r Orsedd, yn sicr, yn barod i chwarae'u rhan nhw...
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Bydd ymwelwyr i'r maes eleni yn sylwi ar ychwanegiad newydd yn ardal Y Traeth.
Tu mewn i Ogof Maes B mae fideos 360 gradd yn cael eu dangos o wahanol gigiau a pherfformiadau, a hynny ar do y babell.
Bydd digwyddiadau yn ystod yr wythnos hefyd yn cael eu hailddangos yno i bobl gael gweld eto.
Cyfle perffaith os 'dych chi eisiau ailfyw Maes B y noson gynt a ddim yn ei gofio'n rhy dda!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Yn ystod sgwrs ar y maes ar Euro 2016 a'r Gymraeg, fe wnaeth y llenor Aled Gwyn ddatgelu poster prin oedd yn ei feddiant.
Yn dyddio 'nôl i 1955, mae'n hyrwyddo twrnament pêl-droed yn Sir Gâr - gyda John Charles yn westai arbennig.
Fel rhan o'r un digwyddiad, bu is-reolwr y tîm presennol, Osian Roberts yn sgwrsio am y llynedd gydag amryw o gefnogwyr eraill.
Roedd hefyd yn ffyddiog y byddai twrnament arall i ddod i'r tîm y flwyddyn nesa'!
BBC Cymru Fyw
Bosib y bydd Eisteddfod eleni yn ymuno â llinach nobl o Eisteddfodau llwyddiannus ond mwdlyd.
Un o'r rheiny oedd prifwyl Abergwaun yn 1986. Cafodd y tywydd mochaidd bryd hynny ei anfarwoli gan Machraeth mewn englyn - a dyma'i eiriau wedi'u gosod ar luniau o 2017...
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae panel o arbenigwyr cyfreithiol wedi bod yn trafod y prynhawn 'ma sut i gynyddu defnydd o'r Gymraeg o fewn y llysoedd ac yn ystod achosion.
Dywedodd Elwen Evans QC y byddai modd "ystyried rheithgorau Cymraeg" ar gyfer rhai achosion priodol.
Awgrym Hywel James oedd fod angen edrych ar y ieithwedd sydd yn cael ei ddefnyddio, er mwyn gwneud y llys yn le mwy croesawgar.
Yn ôl Niclas Parry, mae angen lledaenu'r neges er mwyn i bobl sylwi nad ydyn nhw'n "freaks" am fod eisiau defnyddio'r iaith.
Un awgrym o blith y gynulleidfa oedd y byddai'n help petai mwy o Gymry Cymraeg yn troseddu!
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae un o'n gohebyddion wedi clywed mai Llyn Bodedern ydy'r enw ar y rhan hon o'r maes bellach!
BBC Cymru Fyw
Ers i Carwyn Jones drydar yn gynharach yn dweud bod "trydydd bont yn mynd i ddigwydd yn Ynys Môn", mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi goleuni pellach ar eu safbwynt.
Dywedodd llefarydd mai nid cyhoeddiad newydd ydy hwn ac mai polisi Llywodraeth Cymru ers tro ydy codi pont newydd, a bod astudiaeth i'r posibilrwydd o wneud hynny wedi cael ei gyhoeddi'n barod.
Mmmm?
BBC Cymru Fyw
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau mai cyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C, Euryn Ogwen Williams fydd yn cadeirio adolygiad annibynnol o'r sianel.
Bydd yn edrych ar elfennau megis cylch gwaith y sianel, llywodraethu, ei atebolrwydd a'i bartneriaeth â'r BBC, a'r dulliau cyllido presennol, ac mae disgwyl iddo adrodd yn ôl cyn diwedd y flwyddyn.
Mae gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb wedi bod yn lansio'r adolygiad o'r sianel ar faes yr Eisteddfod ym Modedern brynhawn Llun.