Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 17:52 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan o'r llif byw ar ddiwrnod cythryblus.
Gallwch ddarllen mwy am y stori ar ein hafan, a bydd mwy o ymateb yn y bore.
Diolch am ddarllen.
Y Prif Weinidog ddim yn ymddiswyddo
Datganiad byr yn dweud bod teulu Carl Sargeant yn 'haeddu atebion'
Cafodd y cyn-weinidog ei ganfod yn farw yn ei gartref
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan o'r llif byw ar ddiwrnod cythryblus.
Gallwch ddarllen mwy am y stori ar ein hafan, a bydd mwy o ymateb yn y bore.
Diolch am ddarllen.
BBC Radio Cymru
Andrew RT Davies
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Ymateb Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies i ddatganiad Carwyn Jones:
"Mae ein meddyliau i gyd gyda theulu Carl Sargeant, ond mae'r datganiad heddiw gan y Prif Weinidog yn gadael nifer o gwestiynau heb ei hateb ac mae'n methu ateb cwestiynau mae teulu Carl yn ei haeddu.
"Mae nifer o bethau brawychus wedi cael eu datgelu gan gyn weinidog oedd yn uchel iawn yn y blaid Lafur, Leighton Andrews, sy'n adlewyrchu diwylliant o fwlio yng nghalon Llywodraeth Lafur Carwyn Jones.
"Mae'r drasiedi yma gan gynnwys sylwadau Leighton Andrews, yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y Prif Weinidog a'r blaid Lafur ac mae rhaid cael ymchwiliad annibynnol cyn gynted a phosib i'r digwyddiadau'r wythnos diwethaf."
Post Prynhawn
BBC Radio Cymru
"Dwi'n credu fod Carwyn wedi taro'r nodyn iawn, o ran y naws oedd yn briodol.
"Falle bo ni fel sylwebyddion wedi disgwyl gormod o atebion heddiw.
"Mae'r ansicrwydd, y dicter a'r pryder yn mynd i barhau.
"Dwi'n synnu fod Carwyn Jones heb ddefnyddio'r cyfle i alw ymchwiliad annibynnol yn syth - a hynny er mwyn clirio'r awyr."
Llafur Cymru
Mae'r grŵp Llafur yn y Cynulliad wedi cyhoeddi datganiad ar ddiwedd y cyfarfod y prynhawn yma:
"Heddiw fe gawsom gyfle i ddod at ein gilydd i gofio Carl. Mae pob un ohonom yn y grŵp yn dal i geisio ymdopi gyda cholled trist iawn ffrind a chydweithiwr annwyl iawn.
"Yn Carl mae Cymru wedi colli yn o'r bobl mwyaf tosturiol, cefnogol ac afieithus y gallech chi obeithio ei gwrdd.
"Roedd yn gyfaill mawr i ni gyd yma ac i gymaint mwy ar draws Cymru. Rydym yn cydymdeimlo o waelod calon gyda Bernie, Lucy a Jack, y teulu estynedig a'r gymuned ehangach yr oedd Carl yn gymaint rhan ohoni."
Post Prynhawn
BBC Radio Cymru
Sylwadau'r ymgynghorydd gwleidyddol a chyfaill Carl Sargeant, Darran Hill:
"Mae'r teulu mewn sioc, pob dydd sy'n mynd heibio - chi'n disgwyl gweld Carl i gerdded drwy'r drws,
"Mae'n teimlo fel bod mwy o feddylfryd yn mynd fewn i barhad bywyd gwleidyddol ambell un person na fewn i'r drasiedi yma.
"Roedd ei gyflwr e ers dydd Gwener wedi bod yn wael ac wedi gwaethygu erbyn y diwedd.
"Fyddai'n cofio Carl am byth, roedd yn gawr o ddyn ac yn berson cadarn a chryf."
Bu'r Cynghorydd Sion Jones yn gweithio gyda Carl Sargeant, a dyma'i ymateb i ddatganiad Carwyn Jones.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
UKIP Cymru
Mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i amgylchiadau marwolaeth Carl Sargeant.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Post Prynhawn
BBC Radio Cymru
Ymateb yr AS Ceidwadol Mynwy, David Davies i araith Carwyn Jones ar raglen y Post Prynhawn:
"Does dim hawl gennym ni i feirniadu neb heb fod gennym ni'r ffeithiau i gyd o'n blaen"
"Dwi'n meddwl fod Carwyn yn ddigon gonest... does neb ohonom ni'n gwybod digon i roi bai ar Carwyn am y drasiedi yma."
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
UKIP Cymru
Mae llefarydd ar ran UKIP wedi cadarnhau y byddan nhw'n cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn Carwyn Jones yn y Cynulliad.
Dywed y datganiad nad oes ganddo awdurdod moesol i barhau yn swydd y prif weinidog. Unwaith eto, mae penderfyniad gwleidyddol wedi bod uwchlaw'r hyn sy'n foesol gywir.
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Dyw rhywbeth byr fel hyn ddim am wneud i'r stori yma ddiflannu. Fe ddywedodd ei hun mai dyma'r dyddiau tywyllaf yn hanes y Cynulliad: gelyn tywyllwch yw goleuni, a doedd dim llawer o oleuni yn y datganiad yna"
BBC Radio Cymru
Mae rhaglen arbennig o'r Post Prynhawn yn cael ei darlledu, er mwyn clywed ymateb i'r datganiad gan y Prif Weiniodg Carwyn Jones.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
"Byddai Carwyn Jones wedi gallu dweud llawer iawn mwy na wnaeth e.
"Dim cyfyngiadau mewn cwest fel mewn llys. Mi fyddai wedi gallu paratoi datganiad llawer iawn mwy manwl."