Crynodeb

  • Y Prif Weinidog ddim yn ymddiswyddo

  • Datganiad byr yn dweud bod teulu Carl Sargeant yn 'haeddu atebion'

  • Cafodd y cyn-weinidog ei ganfod yn farw yn ei gartref

  1. Diffyg hyder?wedi ei gyhoeddi 15:37 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    UKIP Cymru

    Mae llefarydd ar ran UKIP Cymru wedi dweud os na fydd Carwyn Jones yn ymddiswyddo, fe fyddan nhw'n cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog yn y Cynulliad.

    Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym yn credu nad oes ganddo awdurdod moesol."

  2. Cynghorwyr Mynwy yn cofio Carl Sargeantwedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    Twitter

    Yn ôl neges gan Gyngor Sir Fynwy mae aelodau'r yno wedi bod yn cofio am Carl Sargeant heddiw hefyd.

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  3. Torcalon teulu Carl Sargeantwedi ei gyhoeddi 15:24 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    Golwg 360

    Mae'r sylwebydd gwleidyddol Darran Hill wedi ymuno yn y feirniadaeth o Carwyn Jones wedi iddo ymweld â theulu Carl Sargeant, yn ôl Golwg360, dolen allanol.

  4. 'Erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn...'wedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  5. Tu ôl i ddrysau caeëdigwedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    Twitter

    Llun gan ohebydd BBC Cymru Cemlyn Davies sy'n dangos fod y cyfarfod o aelodau Llafur y Cynulliad yn digwydd tu ôl i ddrysau caeëdig.

  6. Cefnogaeth i Carwyn Joneswedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    BBC Cymru Fyw

    Yr unig aelod o gabinet presennol Llywodraeth Cymru sydd wedi gwneud sylw am y prif weinidog yw'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

    Dywedodd: "Dwi wedi gweithio ochr yn ochr â Carwyn Jones am 18 mlynedd. Mae gen i hyder llwyr ynddo.

    "Mae hi wedi bod yn wythnos drasig. Roedd Carl Sargeant yn gyfaill da i mi ac fe fydd colled fawr ar ei ôl. Roedd yn aelod cynulliad gwych ac fe wnaeth gyfraniad sylweddol i lywodraeth genedlaethol.

    "Mae gan y prif weinidog fy nghefnogaeth lwyr."

    kirsty
  7. Mwy gan Leighton Andrewswedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    Twitter

    Yn dilyn ei flog ymfflamychol yn gynharach, mae'r cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru wedi trydar beirniadaeth fwy penodol o Carwyn Jones.

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  8. Glannau Dyfrdwy'n cofiowedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae llyfr o gydymdeimlad wedi cael ei agor yng Nghlwb Llafur Cei Connah er mwyn i bobl yr ardal gofio am eu haelod cynulliad.

    Bu Carl Sargeant yn gwasanaethu fel AC Alun a Glannau Dyfrdwy ers 2003.

    llyfr
  9. 'Diwylliant o fwlio' yn y cabinet medd cyn-weinidogwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae cyn-weinidog gyda Llywodraeth Cymru yn honni fod yna ddiwylliant o fwlio'n bodoli yn ystod ei gyfnod yn y cabinet, a bod y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ymwybodol ohono, ond heb fynd i'r afael ag e.

    Mewn datganiad, disgrifiodd Leighton Andrews awyrgylch "wenwynig" ymhlith gweinidogion a swyddogion yn y llywodraeth, gan gynnwys "mân fwlio" a "gemau meddyliol".

    Dywedodd y cyn-weinidog ei fod wedi codi un mater penodol gyda Carwyn Jones oedd â thystiolaeth uniongyrchol, ond na chafodd y drefn briodol ei dilyn.

    leighton
  10. Carwyn Jones yn cyrraedd y cyfarfodwedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  11. Carwyn Jones dan bwysauwedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    BBC Cymru Fyw

    Gadawodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei gartref i fynd i'r cyfarfod yn gynharach.

    Mae e wedi cael ei feirniadu gan nifer o gyn-weinidogion Llafur a gan bobl amlwg yn y gwrthbleidiau am y modd y deliodd gyda'r honiadau yn erbyn Carl Sargeant arweiniodd at ei ddiswyddo o'r cabinet ddydd Gwener diwethaf.

    carwyn
  12. Llyfr cydymdeimlo yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    BBC Cymru Fyw

    llyfr
  13. Cefndirwedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    BBC Cymru Fyw

    Bu farw Carl Sargeant ddydd Mawrth. Roedd yn 49 oed, ac yn gadael gwraig a dau o blant. Credir ei fod wedi lladd ei hun.

    Cafodd ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru ddydd Gwener diwethaf yn dilyn honiadau am ei fywyd personol.

    Mae ei deulu wedi galw am ymchwiliad llawn i'r holl fater gan gynnwys sut y deliwyd â'r mater gan y blaid Lafur a'r Prif Weinidog Carwyn Jones.

  14. Prynhawn dawedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich 9 Tachwedd 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae Aelodau Cynulliad Llafur Cymru yn cwrdd y prynhawn yma i drafod "digwyddiadau trasig" yr wythnos aeth heibio.

    Bu farw y cyn-weinidog cabinet Carl Sargeant ddydd Mawrth.

    Bydd yr aelodau'n rhoi teyrngedau iddo, ond fe fydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gwneud datganiad ar ddiwedd y cyfarfod wedi iddo gael ei feirniadu am y modd y deliodd gyda'r mater.

    carl sargeant