Crynodeb

  • Seremoni i ddechrau am 19:10 yn y Tramshed, Caerdydd.

  • The ceremony gets underway at 19:10 at the Tramshed, Cardiff.

  • Tri chategori yn Gymraeg a Saesneg - Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Mae hefyd Gwobr Barn y Bobl a phrif enillydd.

  • There are 10 prizes on offer for works of fiction, creative non-fiction and poetry in English and Welsh. There is also a People's Choice winner and an overall winner in both languages.

  • Y panel beirniadu Cymraeg yw'r beirniad llenyddol Catrin Beard, y bardd a'r awdur Mari George ac Eirian James, perchennog siop lyfrau yng Nghaernarfon.

  • The judges for the English prizes are author Tyler Keevil, academic Dimitra Fimi and poet Jonathan Edwards.

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 20:22 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Dyna ni o'r seremoni yng Nghaerdydd heno, diolch am ddilyn.

    Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr heno, gallwch chi weld y rhestr yn llawn yma.

    Hwyl am y tro.

  2. Dyna ni!wedi ei gyhoeddi 20:20 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. 'Cyfraniad pwysig'wedi ei gyhoeddi 20:18 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Dywedodd Dimitra Fimi bod y beirniaid yn teimlo bod Pigeon yn "gyfraniad pwysig" am flynyddoedd i ddod.

  4. A'r enillydd yw...wedi ei gyhoeddi 20:17 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Alys Conran sydd wedi ennill am Pigeon, a hynny ar ôl dod i'r brig mewn dwy gategori heno yn barod. Llongyfarchiadau iddi!

  5. Llyfr Saesneg y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 20:16 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Y wobr olaf heno yw Llyfr Saesneg y Flwyddyn, ac yn cyflwyno mae Dimitra Fimi a Chadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George.

  6. A'r enillydd yw...wedi ei gyhoeddi 20:14 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Yr enillydd yw Cofio Dic gan Idris Reynolds, llongyfarchiadau mawr!

  7. 'Nid tasg hawdd'wedi ei gyhoeddi 20:13 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedodd Catrin Beard nad "tasg hawdd" oedd dewis Llyfr y Flwyddyn.

    Ond "profiad i'w drysori" oedd hynny dros yr haf, meddai.

  8. Llyfr y Flwyddyn 2017wedi ei gyhoeddi 20:11 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Y brif wobr Gymraeg sydd nesaf, Llyfr y Flwyddyn 2017.

    Catrin Beard sy'n cyflwyno'r feirniadaeth, ac yn cyflwyno'r wobr mae'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

  9. Diolch gan Johnwedi ei gyhoeddi 20:08 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Mae John yn dweud bod cael ei gynnwys ar y rhestr fer yn fraint ac yn annisgwyl, ac mae'n diolch i'r cyhoeddwyr a'r darllenwyr.

  10. John Freeman sy'n ennillwedi ei gyhoeddi 20:06 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    John Freeman sydd wedi ennill am What Possessed Me.

    Mae'n archwilio'r byd naturiol a thirwedd yn Lloegr, Cymru, Ffrainc a Groeg, ac mae'n cynnwys darnau'n dathlu ymweliadau ag Eglwys Gadeiriol Llandaf ac Athens.

    Yn wreiddiol o Essex, cafodd John ei fagu yn Llundain cyn byw yn Sir Efrog ac yna ymgartrefu yng Nghymru, ble bu'n dysgu Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

    What Possessed Me
  11. Y Wobr Farddoniaeth Saesnegwedi ei gyhoeddi 20:01 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Y wobr Saesneg olaf yw'r Wobr Farddoniaeth hefyd. Y tri sydd wedi eu henwebu ydy:

    • What Possessed Me gan John Freeman, cyhoeddwyd gan Worple.
    • The Other City gan Rhiannon Hooson, cyhoeddwyd gan Seren.
    • Psalmody gan Maria Apichella, cyhoeddwyd gan Eyewear.

    Jonathan Edwards sy'n cyflwyno'r wobr.

  12. Teyrnged gan Aneirinwedi ei gyhoeddi 20:00 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Mae Aneirin yn rhoi teyrnged i'w gyfnither wrth dderbyn y wobr, a diolch i bawb fuodd yn rhan o'r gwaith cyhoeddi, a'i deulu.

  13. Aneirin Karadog yw'r enillyddwedi ei gyhoeddi 19:58 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Aneirin Karadog sy'n ennill am ei gyfrol Bylchau, casgliad o gerddi sy'n myfyrio ar y bylchau ddaw o golled bersonol a chyhoeddus, a cholled i iaith a diwylliant.

    "Englynion gwych" gan "fardd aeddfed" meddai Mari George wrth draddodi'r feirniadaeth.

    Enillodd yr un wobr yn 2012 am O Annwn i Geltia, roedd yn Brifardd Eisteddfod Genedlaethol 2016 ac mae'n gyn-Fardd Plant Cymru.

    bylchau
  14. Y Wobr Farddoniaethwedi ei gyhoeddi 19:55 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Y categori Cymraeg olaf yw'r Wobr Farddoniaeth.

    Y tri ar y rhestr fer yw:

    • Bylchau gan Aneirin Karadog, cyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas
    • Chwilio am Dân gan Elis Dafydd, cyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas
    • Llinynnau gan Aled Lewis Evans, cyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas.

    Mari George sy'n cyflwyno'r wobr.

  15. 'Taith anodd'wedi ei gyhoeddi 19:55 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Roedd hi'n "daith anodd" i ysgrifennu Pigeon meddai Alys Conran, ond mae hi'n diolch i'r cyhoeddwyr am eu cefnogaeth.

  16. Alys Conran yn ennill etowedi ei gyhoeddi 19:52 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Mae Alys Conran wedi ennill ei hail wobr o'r noson am ei nofel, Pigeon.

    Astudiodd Alys radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caeredin, ac mae hi wedi arwain gweithdai ysgrifennu creadigol ymhlith grwpiau ymylol yng ngogledd Cymru.

    Mae wedi derbyn ysgoloriaeth er mwyn ysgrifennu ei hail nofel.

    pigeon
  17. Pob un yn 'arloesol'wedi ei gyhoeddi 19:52 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Mae Tyler yn dweud bod pob nofel yn "arloesol" a bod pob un yn haeddu cael eu darllen.

  18. Y wobr Ffuglen Saesneg sydd nesafwedi ei gyhoeddi 19:49 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Mae tri arall wedi eu henwebu yn y categori yma:

    • Pigeon gan Alys Conran, cyhoeddwyd gan Parthian
    • Cove gan Cynan Jones, cyhoeddwyd gan Granta
    • Ritual 1969 gan Jo Mazelis, cyhoeddwyd gan Seren.

    Tyler Keevil sy'n cyflwyno'r wobr.

  19. Caryl Lewis sy'n fuddugolwedi ei gyhoeddi 19:47 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Caryl Lewis sydd wedi ennill y wobr am ei nofel Y Gwreiddyn.

    Straeon am natur, perthynas dyn â'i gyd-ddyn, henaint, cariad a cholled ydy Y Gwreiddyn, gyda phob un yn ymdrin â pherthynas pobl â'i gilydd.

    Yn byw ym mhentref Goginan ger Aberystwyth, mae Caryl Lewis wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn am ddwy o'i nofelau o'r blaen - Martha Jac a Sianco yn 2005 ac Y Bwthyn yn 2016.

    Gwreiddyn
  20. Gwobr Ffuglen Cymraegwedi ei gyhoeddi 19:43 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Yr ail wobr heno yw'r wobr ffuglen, a'r tri sydd wedi eu henwebu yw:

    • Ymbelydredd gan Guto Dafydd, Cyhoeddwyd gan Y Lolfa
    • Iddew gan Dyfed Edwards, cyhoeddwyd gan Wasg y Bwthyn
    • Y Gwreiddyn gan Caryl Lewis, cyhoeddwyd gan Y Lolfa.

    Catrin Beard sydd ar y llwyfan i gyhoeddi enw'r enillydd.