Crynodeb

  • Seremoni i ddechrau am 19:10 yn y Tramshed, Caerdydd.

  • The ceremony gets underway at 19:10 at the Tramshed, Cardiff.

  • Tri chategori yn Gymraeg a Saesneg - Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Mae hefyd Gwobr Barn y Bobl a phrif enillydd.

  • There are 10 prizes on offer for works of fiction, creative non-fiction and poetry in English and Welsh. There is also a People's Choice winner and an overall winner in both languages.

  • Y panel beirniadu Cymraeg yw'r beirniad llenyddol Catrin Beard, y bardd a'r awdur Mari George ac Eirian James, perchennog siop lyfrau yng Nghaernarfon.

  • The judges for the English prizes are author Tyler Keevil, academic Dimitra Fimi and poet Jonathan Edwards.

  1. Peter Lord yw'r enillyddwedi ei gyhoeddi 19:39 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Peter Lord yw'r enillydd am ei gyfrol The Tradition.

    Mae Peter yn olrhain esblygiad diwylliant gweledol Cymru yn y gyfrol, yr unig un mewn print sy’n cwmpasu holl gelf weledol Cymru.

    Yn wreiddiol o Gaerwysg, mae bellach yn byw yn Aberystwyth. Bu'n gweithio fel cerflunydd ond yn fwy diweddar mae wedi bod yn canolbwyntio ar ysgrifennu am ddiwylliant celf weledol Cymru.

    Dywedodd ei fod yn "fraint", a bod gwobrau bob amser yn braf, ond gwobrau sy'n cael eu dewis gan awduron yn golygu mwy.

    Tradition
  2. Y Wobr Ffeithiol Greadigol Saesnegwedi ei gyhoeddi 19:36 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Dimitra Fini sy'n traddodi'r feirniadaeth yn y categori Ffeithiol Greadigol Saesneg.

    Y tri gafodd eu henwebu oedd:

    • The Black Prince of Florence gan Catherine Fletcher, cyhoeddwyd gan The Bodley Head
    • The Tradition gan Peter Lord, cyhoeddwyd gan Parthian
    • Jumpin’ Jack Flash gan Keiron Pim, cyhoeddwyd gan Jonathan Cape
  3. Idris Reynolds sy'n ennillwedi ei gyhoeddi 19:34 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Idris Reynolds sydd wedi ennill am ei gyfrol o atgofion am ei gyfaill, y prifardd a’r cyn-archdderwydd, Dic Jones.

    Mae Idris yn byw ym Mrynhoffnant, Ceredigion ac yn darlithio ar awen Dic Jones o gwmpas y wlad.

    Mae'n gyn-lyfrgellydd sy'n cystadlu’n rheolaidd ar Dalwrn y Beirdd, Radio Cymru. Mae wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru dwywaith.

    Diolchodd Idris i'r beirniaid, y cyhoeddwyr a Sian, gweddw Dic Jones.

    Cofio Dic
  4. Y Wobr Ffeithiol Greadigolwedi ei gyhoeddi 19:31 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Dewisiadau'r beirniaid sydd nesaf, a'r categori Ffeithiol Greadigol sydd gyntaf.

    Y cyfrolau sydd wedi eu henwebu yw:

    • Optimist Absoliwt gan Menna Elfyn, cyhoeddwyd gan Gomer
    • Gwenallt gan Alan Llwyd, cyhoeddwyd gan Y Lolfa
    • Cofio Dic gan Idris Reynolds, cyhoeddwyd gan Gomer

    Y beirniad, Eirian James, sy'n cyflwyno.

  5. Alys Conran sy'n fuddugolwedi ei gyhoeddi 19:28 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Alys Conran sydd wedi ennill y People's Choice Award am ei nofel Pigeon.

    Mae Pigeon yn daith drwy atgofion anesmwyth plentyndod ac yn stori am obaith a phŵer iaith.

    Mae gwaith Alys Conran wedi cyrraedd rhestrau hirion a byrion sawl cystadleuaeth gan gynnwys The Bristol Short Story Prize, The Manchester Fiction Prize ac The International Dylan Thomas Prize.

    Mae hi'n diolch i bawb sydd wedi "sefyll hefo fi ar y ffordd i ysgrifennu" y llyfr.

    Pigeon
  6. Y wobr Saesneg nesafwedi ei gyhoeddi 19:28 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Kate North o'r Wales Arts Review sy'n cyflwyno'r People's Choice Award.

  7. 'Prosiect hunanol'wedi ei gyhoeddi 19:28 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Dywedodd Guto bod y llyfr yn "brosiect hunanol" yn delio hefo profiad personol ond "braint meddwl bod pobl wedi darllen a mwynhau".

  8. Guto Dafydd yw enillydd Gwobr Barn y Boblwedi ei gyhoeddi 19:26 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Guto Dafydd yw enillydd Gwobr Barn y Bobl 2017 am ei nofel Ymbelydredd (Y Lolfa).

    Mae'r nofel yn dilyn hanes dyn ifanc o Wynedd wrth iddo dreulio chwe wythnos ym Manceinion yn cael cwrs radiotherapi.

    Enillodd Goron Eisteddfodd yr Urdd yn 2013, a'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2014, ac fe wnaeth ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016 am y nofel hunan-ffuglennol, Ymbelydredd.

    ymbelydredd
  9. Gwobr Barn y Boblwedi ei gyhoeddi 19:24 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Gwobr gyntaf y noson yw Gwobr Barn y Bobl, ac Owain Schiavone o wefan Golwg360 fydd yn ei chyflwyno.

  10. Y gwobrauwedi ei gyhoeddi 19:22 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Roedd hi'n "flwyddyn gref iawn ar gyfer llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig" meddai Eleri Siôn.

    Bydd gwobrau ar gyfer tri chategori yn Gymraeg a Saesneg - Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.

    Mae hefyd gwobrau Barn y Bobl a'r brif wobr yn y ddwy iaith.

    Bydd enillydd pob categori yn derbyn tlws a gwobr o £1,000, gyda £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y prif wobrau.

  11. 'Cefnogaeth gadarn' i'r gwobrauwedi ei gyhoeddi 19:18 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Mae Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George, ar y llwyfan i ddweud bod "cefnogaeth gadarn" i'r gwobrau gan y cyngor, wedi sawl adroddiad am ansicrwydd am eu dyfodol yn y wasg.

    Ychwanegodd bod angen i'r cyrff celfyddydol yng Nghymru weithio'n agosach gyda'i gilydd er mwyn cryfhau'r sefyllfa yn y dyfodol.

  12. Ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 19:12 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Eleri Sion sy'n arwain y noson heno, ac mae hi ar fin dechrau'r seremoni.

    Cliciwch uchod i wylio'r cyfan yn fyw.

  13. 10 gwobr a £12,000 ar gaelwedi ei gyhoeddi 19:07 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Mae 10 gwobr a £12,000 ar gael i'r awduron buddugol heno, am y llyfrau Cymraeg a Saesneg gorau eleni mewn tri chategori.

  14. Croeso i'r seremoniwedi ei gyhoeddi 18:57 Amser Safonol Greenwich 13 Tachwedd 2017

    Llyfr y Flwyddyn

    Noswaith dda a chroeso i lif byw arbennig o seremoni Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017 o'r Tramshed yng Nghaerdydd.

    Yn ogystal â dilyn y diweddara' yn fyw, gallwch wylio'r seremoni ar y dudalen hon o 19:10.