Crynodeb

  • Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

  • Diwygio trefniadau etholiadol llywodraeth leol

  • Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Cyflymu Cymru

  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diogelu’r Hawl i Addysg Addas i bob Plentyn

  1. Hwylwedi ei gyhoeddi 18:04 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwiwedi ei gyhoeddi 18:04 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae'r aelodau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft, dolen allanol o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018.

  3. Cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tirwedi ei gyhoeddi 18:03 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae'r aelodau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft , dolen allanolo Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018 a'r fersiwn ddraff, dolen allanolt o Reoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2018.

  4. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwiwedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae'r aelodau nawr yn trafod Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) 2018.

    O fis Ebrill bydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn disodli’r Dreth Tirlenwi yng Nghymru., dolen allanol

    Fel y Dreth Dirlenwi, bydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi a bydd yn cael ei chodi yn ôl pwysau. Gweithredwyr safleoedd tirlenwi fydd yn gyfrifol am dalu'r dreth, a byddan nhw'n trosglwyddo'r costau hyn i weithredwyr gwastraff drwy eu ffi glwyd.

    Y llynedd roedd gweithredu yn erbyn pobl sy'n tipio sbwriel ar ei lefel uchaf yng Nghymru ers 11 mlynedd yn ôl y ffigyrau swyddogol.

    Yn 2016/17 fe wnaeth cynghorau weithredu 39,308 o weithiau, sy'n cynnwys erlyn, rhoi dirwyon yn y fan a'r lle a rhybuddio.

    Yn y flwyddyn ariannol yn gorffen yn Ebrill 2017, y gost o glirio'r llanast oedd £2.2m.

    TirlenwiFfynhonnell y llun, Thinkstock
  5. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tirwedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae ACau nawr yn trafod Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2018.

    O fis Ebrill bydd y Dreth Trafodiadau Tir, dolen allanol yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru.

    Bydd y dreth newydd, fel yr hen un, yn daladwy wrth brynu neu rentu adeilad neu dir dros bris penodol. Gall effeithio ar brynwyr a gwerthwyr tai, a busnesau gan gynnwys adeiladwyr, datblygwyr eiddo ac asiantwyr sy’n rhan o’r trafodiad (megis cyfreithwyr a thrawsgludwyr).

    Mae'r rheoliadau yn gysylltiedig â'r dreth Gymreig gyntaf o fewn 800 mlynedd.

  6. 'Cam ymlaen' ond hefyd siomedigaethwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn disgrifio cynlluniau'r ysgrifennydd addysg fel "cam ymlaen" ond yn mynegi siomedigaeth nad yw hi'n cyflwyno cofrestr orfodol ar gyfer plant sy'n cael eu haddysgu gartref, rhywbeth y gwnaeth Comisiynydd Plant Cymru Sally Holland ac NSPCC Cymru alw amdani.

    Fe wnaeth adroddiad gan y Bwrddd Gwarchod Annibynnol Cenedlaethol argymell yr un peth.

    Llyr Gruffydd
  7. 'Agwedd gytbwys' yr ysgrifennydd addysgwedi ei gyhoeddi 17:10 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn canmol "agwedd gytbwys" yr ysgrifennydd addysg, ac yn gofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion, fel y costau a'r amserlen ar gyfer gweithredu hyn.

    Darren Millar
  8. Cefnogaeth i addysgwyr cartrefwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Fe fydd Ms Williams yn ymgynghori ar sut y dylid rheoli'r bas data, a pha bartneriaid - fel byrddau iechyd - allai gyfrannu iddo ac os dylai ysgolion annibynnol roi gwybodaeth i gynghorau am eu disgyblion.

    Bydd cefnogaeth i addysgwyr cartref yn cynnwys cymorth â chofrestru ar gyfer arholiadau; cael yr un cynigion iechyd â phlant mewn ysgolion; mynediad at Hwb, platfform dysgu digidol Cymru; edrych ar gyfleoedd i deuluoedd sy'n addysgu yn y cartref ddysgu Cymraeg a chefnogaeth gan Gyrfa Cymru.

    Kirsty Williams
  9. Addysgu plant gartref: Dim rhaid i rieni eu cofrestruwedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Ni fydd gorfodaeth ar rieni i gofrestru eu plant os ydyn nhw'n derbyn addysg yn y cartref, yn ôl cynlluniau newydd gan Lywodraeth Cymru.

    Mae'r Ysgrifennydd Addysg hefyd yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer "pecyn cefnogaeth gynhwysfawr" ar gyfer addysgwyr cartref, gan gynnwys cymorth gyda chofrestru ar gyfer arholiadau.

    Mae'r cynlluniau ar gyfer canllawiau statudol, yn hytrach na'r canllawiau anstatudol gafodd eu cyhoeddi y llynedd - oedd, ym marn Comisiynydd Plant Cymru Sally Holland yn "siomedig".

    Ar hyn o bryd, does dim rhaid i gynghorau gael gwybod os yw plentyn yn derbyn addysg yn y cartref, os nad ydyn nhw wedi eu gwahardd o'r ysgol.

    Ni fydd y cynlluniau newydd yn newid hynny, ond bydd yn gorfodi cynghorau i gadw bas data er mwyn gweld plant sydd ddim ar gofrestr ysgol.

    Roedd Comisiynydd Plant Cymru ac elusen NSPCC Cymru wedi galw am gofrestr orfodol ar gyfer plant sy'n derbyn addysg yn y cartref yn dilyn marwolaeth Dylan Seabridge- plentyn wyth oed o Sir Benfro oedd yn derbyn addysg gartref a fu farw o sgyrfi yn 2011.

    Yn dilyn ei farwolaeth fe wnaeth adroddiad gan y Bwrdd Gwarchod Annibynnol Cenedlaethol argymell y dylai rhieni orfod cofrestru eu plant os yn eu haddysgu gartref.

    Yn hytrach, bydd y cynlluniau newydd ar gyfer canllawiau statudol yn amlinellu trefniadau bydd yn rhaid i awdurdodau lleol roi mewn lle i adnabod plant sy'n derbyn addysg gartref ac asesu addasrwydd yr addysg.

    Addysgu gartrefFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Diogelu'r Hawl i Addysg Addas i bob Plentynwedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae datganiad ola'r diwrnod yn y Siambr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams: Diogelu'r Hawl i Addysg Addas i bob Plentyn.

  11. Oedi yn yr amserlenniwedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae Neil Hamilton UKIP yn cyfeirio at oedi yn yr amserlenni wrth ddarparu band eang a "rhwystredigaeth pobl sydd wedi cael clywed un peth, ond darganfod bod y gwirionedd yn rhywbeth arall".

  12. 'Teimlad mawr o ddicter ac anghyfiawnder'wedi ei gyhoeddi 16:30 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud bod yna "deimlad mawr o ddicter ac anghyfiawnder ymhlith nifer o unigolion a chymunedau" ynghylch diffyg darpariaeth band eang.

  13. Y cynllun newydd 'ddim yn plethu gyda chynllun Superfast Cymru'wedi ei gyhoeddi 16:28 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn tynnu sylw at y ffaith bod y gyllideb £80 miliwn yn "ddim mwy na rhyw £900 i bob adeilad", yn cynnwys ardaloedd gwledig.

    Mae'n feirniadol nad yw'r cynllun newydd "yn plethu gyda chynllun Superfast Cymru er mwyn osgoi oedi".

    Russell George
  14. £80 miliwn ar gael i roi'r mesurau newydd ar waithwedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Ers i'r prosiect ddechrau yn 2013, mae gwasanaethau band eang cyflym iawn ar gael bellach i ddwywaith yn fwy o leoedd na chynt.

    Mae adroddiad diweddaraf Ofcom (Rhagfyr 2017) yn dangos bod modd i fwy o bobl yng Nghymru nag yn unrhyw un o'r gwledydd datganoledig eraill fanteisio ar fand eang cyflym iawn, dros 30Mbps, a hynny er gwaethaf yr heriau sydd ynghlwm wrth dopograffi'r wlad.

    Y nod yw cyhoeddi ffigurau terfynol y prosiect erbyn y Gwanwyn.

    Bydd £80 miliwn ar gael ar gyfer rhoi'r mesurau newydd ar waith a byddant yn cynnwys cynllun newydd ar gyfer darparu band eang cyflym iawn sy'n destun proses dendro ar hyn o bryd.

    Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y cynllun newydd "yn annog cyflenwi mewn ardaloedd gwledig, yn rhoi blaenoriaeth i fusnesau a hefyd yn hwyluso gwasanaethau gwibgyswllt 100Mbps".

    "Fel rhan o'r cynllun hwn bydd atebion yn ceisio cael eu creu ar gyfer ardaloedd sydd â'r cyflymder lawrlwytho gwaethaf a hefyd ardaloedd lle nad oes modd i lawer o bobl fanteisio ar ddata symudol 4G. Bydd yn cynnwys camau a fydd yn helpu i sicrhau bod cymunedau'n cael eu hysbysu lle y bo'n ymarferol o safbwynt a fyddant yn rhan o'r cynllun.

    "Mae'r mesurau newydd hefyd yn cynnwys adolygu a chynnal y cynlluniau talebau presennol ar gyfer pobl nad oes modd iddynt fanteisio ar fand eang cyflym iawn a hefyd parhau â'r gwaith o ddatblygu cynllun tebyg sy'n canolbwyntio'n benodol ar gymunedau. Bydd tîm allgymorth band eang yn cydweithio â chlystyrau o gartrefi neu fusnesau ar gyfer caffael ateb.

    Yn olaf, dywed Julie James y bydd Openreach hefyd "yn gweithio am ddeufis ychwanegol, a hynny'n ddi-dâl, o dan y cytundeb presennol er mwyn sicrhau bod modd i 2,500 eiddo arall fanteisio ar fand eang cyflym iawn. Mae Openreach hefyd wedi derbyn gwahoddiad i ddarparu manylion ynghylch strwythurau sydd wedi'u hadeiladu ond heb eu cwblhau a bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gall y rhain gael eu cwblhau o dan y cytundeb grant presennol".

    "Er gwaethaf llwyddiant Cyflymu Cymru wrth drawsnewid cysylltedd band eang ar draws Cymru mae mwy o waith i'w wneud o hyd. Mae'r Llywodraeth hon wedi'i hymrwymo i gymryd camau pellach".

  15. Tua 94% o adeiladau sy'n elwa o wasanaeth band eang cyflym ar hyn o brydwedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd cwmnïau i geisio am gytundebau a helpu sicrhau bod band eang cyflym iawn ar gael i ganran uwch o bobl Cymru.

    Fe gyhoeddodd Julie James, y gweinidog sy'n gyfrifol am seilwaith digidol Cymru, yr wythnos ddiwethaf y byddai cynllun newydd "yn cael ei deilwra i wahanol anghenion" gwahanol ardaloedd.

    Y nod yw targedu 98,000 o leoliadau nad yw cynllun Superfast Cymru wedi eu cyrraedd hyd yn hyn.

    Yn ôl ffigyrau gafodd eu cyhoeddi gan wefan thinkbroadband.com ddydd Llun, tua 94% o gartrefi a busnesau Cymru sy'n elwa o wasanaeth band eang cyflym ar hyn o bryd.

    Dywedodd Ms James wrth bwyllgor economi'r Cynulliad ddydd Iau diwethaf y bydd y cynllun newydd yn mynd i'r afael â'r ffaith bod "problemau penodol yn wynebu gwahanol ardaloedd o Gymru".

    Ychwanegodd y bydd y drefn newydd ar sail cytundebau llai, yn hytrach nag un cytundeb ar gyfer Cymru gyfan fel yn achos Superfast Cymru.

    Roedd BT Openreach, meddai, "wedi gwneud gwaith da" wrth weithredu a datblygu'r cynllun hwnnw, a'i fod yn "debyg fod 96% o'r targed wedi ei gyrraedd".

    Ond roedd hi'n derbyn bod rhai pobl sy'n dal heb wasanaeth cyflym yn siomedig.

  16. Datganiad: Cyflymu Cymruwedi ei gyhoeddi 16:01 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Nawr mae'r aelodau yn gwrando ar ddatganiad gan Arweinydd y Tŷ, Julie James: Cyflymu Cymru.

    Band eang cyflym iawnFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. 'Rhai pwyntiau synhwyrol'wedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud "mae yna rai pwyntiau synhwyrol" yn y datganiad, fel y newidiadau i'r gydnabyddiaeth ar gyfer rôl swyddog canlyniadau.

    Mae'n codi pryderon ynghylch twyll yn ymwneud gyda phleidleisio electronig, ac yn rhybuddio ynghylch rhoi pleidlais i garcharorion.

    Gareth Bennett
  18. Galwad am ragor o bwyslais ar addysg wleidyddol fel rhan o'r cwricwlwmwedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae Sian Gwenllian yn dweud bod Plaid Cymru yn croesawu cynlluniau i roi'r hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed, ond yn galw am ragor o bwyslais ar addysg wleidyddol fel rhan o'r cwricwlwm.

    Sian Gwenllian
  19. Angen osgoi 'gimics arwynebol'wedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn rhybuddio Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar yr hanfod sy'n sail i nifer isel o bobl yn bwrw pleidlais, ac i osgoi "gimics arwynebol" i daclo diffyg diddordeb pleidleiswyr.

    Janet Finch-Saunders
  20. Treialu ffyrdd gwahanol o bleidleisiowedi ei gyhoeddi 14:58 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Gallai cynghorau Cymru dreialu pleidleisio ar ddydd Sul a gosod blychau mewn archfarchnadoedd i gynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau, yn ôl gweinidog.

    Mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Alun Davies eisiau gostwng yr oedran pleidleisio i 16 a rhoi'r hawl i bobl dramor sy'n byw yng Nghymru'n gyfreithlon i bleidleisio hefyd.

    Bydd cynghorau'n cael caniatâd i dreialu syniadau eraill hefyd, fel pleidleisio electronig a gorsafoedd pleidleisio symudol.

    Daw'r cynlluniau yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru y llynedd ar ddiwygio'r system etholiadol.

    42% o'r rheiny oedd yn gymwys i bleidleisio wnaeth hynny yn etholiadau lleol Cymru ym mis Mai 2017, o'i gymharu â 68.6% yn yr etholiad cyffredinol fis yn ddiweddarach a 45.4% yn etholiad y Cynulliad yn 2016.

    Alun Davies