Crynodeb

  • Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

  • Diwygio trefniadau etholiadol llywodraeth leol

  • Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Cyflymu Cymru

  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diogelu’r Hawl i Addysg Addas i bob Plentyn

  1. Diwygio trefniadau etholiadol llywodraeth leolwedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies: diwygio trefniadau etholiadol llywodraeth leol.

    Pleidleisio
  2. 'Mwy o ACau nag erioed eisiau siarad'wedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud ei bod hi wedi cael nifer o geisiadau heb eu tebyg o'r blaen gan ACau i siarad mewn ymateb i'r Datganiad Busnes.

  3. Datganiad a Chyhoeddiad Busneswedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Symudwn ymlaen nawr at y datganiad a chyhoeddiad Busnes.

    Mae Arweinydd y Tŷ Julie James yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

    Julie James
  4. 'Grŵp Plaid Cymru wedi eu cythruddo'wedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae'r lefel anghyffredin o sŵn yn parhau, gan amharu ar gwestiwn hollol wahanol gan Caroline Jones, UKIP.

    "Mae grŵp Plaid Cymru wedi eu cythruddo", medd Elin Jones, gan ychwanegu ei bod hi'n gallu deall pam.

    Mae Rhun ap Iorwerth yn honni bod y prif weinidog wedin torri'r ddeddf diogelu data yn ei ymateb i Adam Price yn gynharach.

    Mae Carwyn Jones yn dweud bod ei sylwadau yn seiliedig ar ddatganiad gafodd ei ryddhau gan Adam Price.

  5. A fydd y prif weinidog yn ceryddu Eluned Morgan?wedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae Adam Price Plaid Cymru yn dal copi o drydar gafodd ei anfon gan Eluned Morgan yn dweud ei bod hi'n gwrthwynebu cau ysbytai, ac yn gofyn a fydd ACau yn cael pleidlais rydd yn y Senedd ar opsiynau sy'n cael eu hystyried gan fwrdd iechyd Hywel Dda.

    A fydd y prif weinidog yn ceryddu Eluned Morgan, mae'n gofyn.

    Mae'r cyfnewid geiriau rhwng Mr Price a'r prif weinidog yn ymostwng i weiddi wrth i Carwyn Jones wneud honiadau ynghylch cysylltiad Adam Price gyda'r bwrdd iechyd.

    "Beth yw hyn? Rwsia Putin?" gofynna Mr Price wrth i'r prif weinidog restru ymdrechion gan fwrdd iechyd Hywel Dda i gysylltu gydag AC Plaid Cymru am gyfarfod.

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud na fyddai hi eisiau i wybodaeth ynghylch a oedd hi wedi ebostio bwrdd iechyd i gael ei rhannu yn y Senedd.

    Adam Price
  6. 'Yn elwa o amseroedd aros, yn elwa o wasanaethau craidd'wedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae Rhun ap Iorwerth, sy'n cynrychioli arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, y prynhawn yma yn cyhuddo bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr o breifateiddio gwasanaethau dialysis - "Yn elwa o amseroedd aros, yn elwa o wasanaethau craidd... pam bod Llafur yn caniatáu i hyn ddigwydd"?

    Mae'r prif weinidog yn dweud dyw e ddim.

    Rhun ap Iorwerth
  7. 60% o allforion yn mynd i'r farchnad senglwedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae Neil Hamilton eisiau i'r DU i adael y farchnad sengl, ond mae Carwyn Jones yn dweud bod 60% o allforion yn mynd i'r farchnad sengl.

    "Os na allwn ni gytuno ar fargen gyda marchnad sengl yr UE, does dim gobaith o ddod i gytundeb gydag unrhyw farchnad arall", meddai Mr Jones.

  8. 'Angen rheolaeth lymach ar ymfudo'wedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn codi pryderon ynghylch awtomeiddio a'i effaith ar swyddi yng Nghymru wedi i adroddiad ddweud, gyda'r ofnau o gywasgu cyflogau, bod angen rheolaeth lymach ar ymfudo.

    Neil Hamilton
  9. Mae trydar yn 'dystiolaeth eglur sydd yn cofnodi'r amser'wedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae trydar yn "dystiolaeth eglur, sydd yn cofnodi'r amser", mae'r AC yn heclo.

  10. 'Dyw trydar ddim yn dystiolaeth. Clecs yw trydar'wedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Wrth ofyn cwestiynau pellach ynghylch yr ymchwiliad i ollwng gwybodaeth, mae Mr Davies yn darllen trydar gafodd ei anfon adeg yr ad-drefnu yn dweud bod ffynonellau wedi rhoi gwybod i'r defnyddiwr bod Carl Sargeant wedi colli ei swydd.

    Mae'r prif weinidog yn dweud "Dyw trydar ddim yn dystiolaeth. Clecs yw trydar".

    Mae'n ychwanegu nad yw'n barod i ryddhau tystiolaeth ac enwau tystion wedi iddyn nhw gael gwarant o gyfrinachedd.

    Ond mae'n rhaid bod yna ffordd o ganiatáu i wybodaeth wedi ei golygu i gael ei chyhoeddi, medd Mr Davies.

    Carwyn Jones
  11. Galwad am gyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad llawnwedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae Mr Davies yn galw am gyhoeddi adroddiad yr ymchwiliad llawn, ond mae'r prif weinidog yn dweud bod yna berygl os fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi, y byddai'n golygu bod tystion yn cael eu dychryn.

  12. Dim 'awdurdod' wedi ei roi i ollwng newyddion bod Carl Sargeant wedi cael y sacwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mewn ymateb i arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies, mae Carwyn Jones yn dweud nad oedd "awdurdod" wedi ei roi i ollwng newyddion bod yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, wedi colli ei le yn y cabinet - cyn dweud wrth y diweddar weinidog ei hun.

    Fe ddaeth ymchwiliad i'r casgliad "nad oedd gwybodaeth wedi ei rannu'n answyddogol o flaen llaw" am yr ad-drefnu cabinet ym mis Tachwedd.

    Andrew RT Davies
  13. Pa gamau i fynd i'r afael â chyflog isel yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd , dolen allanolgan Vikki Howells: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â chyflog isel yng Nghymru?

    Mae'r prif weinidog yn dweud mae "tyfu ein economi ac ymestyn cyfleoedd wrth galon ein cynllun gweithredu economaidd gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar".

    Vikki Howells
  14. Croesowedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich 30 Ionawr 2018

    Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

    Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

    Y Senedd