Crynodeb

  • Cyhoeddi adroddiad hir ddisgwyliedig i'r uned seiciatrig yn Ysbyty Glan Clwyd

  • Yr adroddiad yn canfod nad oedd unrhyw "gam-drin sefydliadol" ar ward Tawel Fan

  • Yr uned wedi ei chau'n sydyn fis Rhagfyr 2013 yn dilyn honiadau "difrifol iawn"

  • Un ymchwiliad annibynnol eisoes wedi ei gynnal, gyda'r adroddiad yn un damniol

  • Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod dan fesurau arbennig ers 2015

  1. Tawel Fan 'fel syrcas'wedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae teulu un claf, Joyce Dickaty, fu farw ar y ward wedi dweud bod yr uned iechyd meddwl yn trin yr henoed "fel syrcas".

    Wrth siarad am y tro cyntaf am y cyfnod, rhoddodd y teulu ddisgrifiad o gleifion yn crwydro'n noeth o amgylch Tawel Fan.

    Dywedodd ei merch Christine Henderson: "Pan aeth hi yno roedd hi'n gallu bod yn eitha' ymosodol ar adegau... os nad oedd hi am wneud rhywbeth, fe fyddai'n dweud wrthoch chi.

    "Ond o fewn ychydig wythnosau o fod yno, doedd hi ddim yn siarad. Roedd hi jyst yn gorwedd gyda'i phen ar un ochr, yn cysgu y rhan fwyaf o'r amser."

    christine henderson a joyce dickaty
    Disgrifiad o’r llun,

    Christine Henderson a'i mam Joyce Dickaty

  2. Tawel Fan: Amserlen y digwyddiadauwedi ei gyhoeddi 10:54 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Disgrifiad,

    Amserlen Tawel Fan

    Rhagfyr 2013: Teulu cyn-glaf yn codi pryderon am ofal yn Nhawel Fan. Yr uned yn cael ei chau gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

    Chwefror 2014: Y bwrdd iechyd yn comisiynu Donna Ockenden - un o uwch swyddogion y GIG ac arbenigwr bydwreigiaeth - i ymchwilio i "honiadau difrifol". Yr adroddiad yn cael ei basio i Heddlu'r Gogledd ym mis Medi'r un flwyddyn.

    Mai 2015: Betsi Cadwaladr yn cyhoeddi'r adroddiad ac yn ymddiheuro am driniaeth "annerbyniol" ar y ward. Wyth aelod o staff yn cael eu gwahardd, ac eraill yn cael eu symud, ond yr heddlu'n dweud na fyddan nhw'n dwyn cyhuddiadau.

    Mehefin 2015: Y bwrdd iechyd yn cael eu rhoi mewn mesurau arbennig, gyda'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn dweud bod "pryderon sylweddol" am yr arweinyddiaeth. Y prif weithredwr Trevor Purt yn gadael.

    Ionawr 2017: Llywodraeth Cymru'n sefydlu panel annibynnol newydd i ailedrych ar yr achos.

    Tachwedd 2017: Ymchwilwyr yn cadarnhau eu bod yn ystyried ar 108 o achosion yn ymwneud â Thawel Fan.

  3. Adroddiad blaenorol yn 'ddamniol'wedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Nid dyma'r ymchwiliad cyntaf i gael ei gynnal i'r amgylchiadau yn uned Tawel Fan.

    Cafodd adroddiad Ockenden ei gyhoeddi yn 2015 ac roedd yn hynod ddamniol o'r safonau gofal.

    Dywedodd yr adroddiad bod y cleifion mwyaf bregus - gan gynnwys rhai oedrannus â dementia - yn cael eu gadael i orwedd yn noeth ar y llawr.

    Yn ôl tystiolaeth bellach, doedd y staff ddim yn poeni am yr hyn oedd yn digwydd yno na chwaith yn ceisio cuddio'u gweithredoedd, oedd yn cynnwys defnyddio dodrefn i rwystro cleifion.

    Mae Ms Ockenden bellach yn cynnal ail ymchwiliad, a hynny i'r trefniadau rheolaeth allai fod wedi cyfrannu tuag at y sgandal.

    donna ockenden
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd yr ymchwiliad cyntaf ei gynnal gan un o uwch swyddogion y GIG, Donna Ockenden

  4. Cyhoeddi am 11:00wedi ei gyhoeddi 10:48 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae disgwyl i'r adroddiad, sydd wedi ei lunio gan y Gwasanaeth Cynghori Iechyd a Gofal (HASCAS), gael ei gyhoeddi am 11:00 heddiw.

    Fe gawson nhw eu comisiynu gan y bwrdd iechyd i gynnal ymchwiliad i edrych ar holl dystiolaeth yr achos.

    Mae'r wasg wedi cael eu briffio eisoes y bore 'ma cyn cyhoeddi'r adroddiad.

    Mae teuluoedd rhai o gyn-gleifion yr uned hefyd wedi eu briffio mewn digwyddiad ar wahân, ond chawson nhw ddim caniatâd i fynd i'r digwyddiad ar gyfer y cyfryngau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Disgrifiad,

    Tawel Fan: Gwrthod mynediad i deuluoedd

  5. Disgwyl adroddiadwedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich+1 3 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw ni wrth i adroddiad Tawel Fan gael ei gyhoeddi'r bore 'ma.

    Cafodd yr adroddiad diweddaraf ei gomisiynu yn sgil honiadau difrifol o gamdriniaeth yn yr uned seiciatrig yn ysbyty Glan Clwyd.

    Fe wnaeth yr uned gau ym mis Rhagfyr 2013 yn dilyn yr honiadau.

    Ddwy flynedd yn ddiweddarach cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu rhoi dan fesurau arbennig, oherwydd hynny a phroblemau difrifol a hirdymor eraill.

    tawel fan