Crynodeb

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (HASCAS) i’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan

  • Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru

  • Dyfodol rheoli tir

  • Cyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig

  • Dadl Cyfnod 4 y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

  1. Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheiffordd Great Western a'r Gogleddwedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Prif Linellau Rheilffordd Great Western a'r Gogleddwedi ei gyhoeddi 16:11 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

    Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru.

    Great WesternFfynhonnell y llun, GWR
  3. Dewrder y menywod sydd wedi tanlinellu'r broblemwedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn talu teyrnged i ddewrder y menywod sydd wedi tanlinellu'r broblem o ddioddef poen affwysol ers cael mewnblaniadau rhwyll yn y fagina.

    Mae'n mynegi pryder ynghylch un o gasgliadau'r adroddiad, bod rhai unigolion meddygol wedi priodoli symptomau i boen ôl-driniaeth normal.

  4. Yr adroddiad 'ddim yn cyfeirio at bryderon cleifion'wedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn mynegi pryder nad yw'r adroddiad yn cyfeirio at bryderon sydd wedi eu codi gan gleifion - nifer o'r rheini wedi galw am "wahardd y defnydd o'r rhwyll hwn".

    Mae hi hefyd yn poeni y bydd yn rhaid i drigolion yn y gogledd "sydd â chymhlethdodau dyrys deithio i Fanceinion".

    Janet Finch-Saunders
  5. 'Cyflwyno argymhellion yr adroddiad yn gyflym'wedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Vaughan Gething yn dweud ei fod eisiau sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu cyflwyno yn gyflym.

    Mae'n ychwanegu ei fod yn rhoi "hyd at £1 miliwn y flwyddyn o gyllid i gefnogi y gwelliannau sydd eu hangen", ac y bydd yna lawer a fydd yn gallu cael ei wneud o fewn adoddau sy'n bodoli'n barod drwy ail-gynllunio a newid o bosib gwasanaethau o ysbytai i gymunedau - i sicrhau bod gwasanaethau iechyd pelfig yn y gymuned yn eu lle ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru."

    Mae'n disgwyl i "bob bwrdd iechyd ystyried casgliadau'r adroddiad a'u argymhellion i ystyried pa welliannau lleol ellir eu gwneud yn syth".

  6. 'Angen ffyrdd amgen o drin prolaps'wedi ei gyhoeddi 15:23 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae angen defnyddio dulliau amgen o drin cleifion sy'n dioddef o brolaps neu anymataliaeth (incontinence), yn ôl grŵp sydd wedi cael sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

    Ar hyn o bryd mae mewnblannu rhwyll yn y fagina (vaginal mesh) yn un o'r triniaethau sy'n cael eu cynnig, ond mae arbenigwyr yn dweud bod angen ystyried ffyrdd eraill o drin wrth i nifer o bryderon gael eu mynegi am y mewnblaniadau.

    Cael llawdriniaeth ddylai fod yr opsiwn olaf, medd arbenigwyr.

    Mae rhai mewnblaniadau rhwyll wedi achosi cymhlethdodau poenus i gleifion.

    Yn ôl adroddiad y grŵp mae angen hybu mesurau a fyddai'n atal problemau fel prolaps.

    Nodir hefyd bod angen i gleifion gael mwy o wybodaeth a bod angen gwell proses o gydsynio.

  7. Adolygu'r Defnydd o Rwyllau Synthetig Gweiniolwedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Nawr datganiad arall gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

    Y pwnc: Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Adolygu'r Defnydd o Rwyllau Synthetig Gweiniol.

    Rhwyllau Synthetig Gweiniol
  8. 'Wynebu pryderon am wyngalch'wedi ei gyhoeddi 15:18 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Caroline Jones UKIP yn galw ar yr ysgrifennydd iechyd i "wynebu pryderon y teuluoedd" bod yr ymchwiliad diweddaraf gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) yn "wyngalch".

    Mae hi hefyd yn mynegi pryder ynghylch y "datgysylltu" rhwng yr adroddiad hwn a'r adroddiad blaenorol gan Donna Ockenden.

    Caroline Jones
  9. 'Anifeiliaid mewn sŵ'wedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn cwestiynu sut y gall "yr adroddiad damniol... rhywsut ddod i'r casgliad nad oedd yna gamdrin sefydliadol", gan wrth-ddweud adroddiad blaenorol gan y swyddog iechyd Donna Ockenden, a oedd yn cynnwys honiad un teulu bod mynd i'r warden fel mynd i ymweld gydag "anifeiliaid mewn sŵ".

    Fe wnaeth ei hymchwiliad hi ddisgrifio adroddiadau y cleifion mwyaf bregus, gan gynnwys cleifion oedrannus gyda dementia, yn cael eu gadael i orwedd yn noeth ar y llawr.

    Rhun ap Iorwerth a Vaughan Gething
  10. Pam bod yr adroddiadau ddim yn cyd-daro?wedi ei gyhoeddi 15:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn gofyn pam nad yw'r adroddiad newydd sy'n dweud nad oedd yna gamdrin sefydliadol yn ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd - yn cyd-daro gyda chasgliadau adroddiad gafodd ei wneud yn gyhoeddus yn 2015, a oedd yn dweud bod methiannau yn gyfystyr gyda "chamdrin sefydliadol".

    Mark Isherwood
  11. Ymddiheurowedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Wrth gyfeirio at y methiannau sy'n cael eu henwi yn yr adroddiad mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn dweud ei fod yn hynod flin ganddo bod hyn wedi digwydd.

    "Rydw i'n ymddiheuro am hyn", meddai.

  12. 'Dim tystiolaeth o gam-drin sefydliadol'wedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Fe ddaeth adroddiad cynhwysfawr a hir-ddisgwyliedig i honiadau difrifol o gam-drin cleifion oedrannus ar gyn-ward iechyd meddwl i'r casgliad nad oedd tystiolaeth o gam-drin sefydliadol.

    Fe gaeodd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan yn Rhagfyr 2013yn sgil pryderon ynglŷn â'r gofal oedd yn cael ei ddarparu yno.

    Mae rhai o berthnasau cyn-gleifion yn dweud bod y casgliadau wedi eu "gwylltio a'u llorio".

    Dywedodd prif weithredwr y bwrdd, Gary Doherty eu bod yn derbyn y canfyddiadau ac yn sefydlu tasglu i weithredu'r argymhellion "ar fyrder".

    Daeth ymchwiliad annibynnol yn 2015 i'r casgliad fod camdriniaeth sefydliadol wedi bod yn Nhawel Fan ar ôl clywed adroddiadau fod ymweld â'r ward yn debyg i fod mewn "sŵ".

    Ond ar ôl edrych i amgylchiadau 108 o gleifion dementia ers 2007, mae adroddiad dydd Iau gan HASCAS (Health and Social Care Advisory Service) yn dweud bod y dystiolaeth a roddwyd yn flaenorol yn anghyflawn, wedi ei chamddehongli a'i chymryd allan o gyd-destun, yn seiliedig ar wybodaeth gamarweiniol a chamddealltwriaeth.

    Daw'r ymchwiliad i'r casgliad bod "y gofal a'r driniaeth gan feddygon a nyrsys ward Tawel Fan o safon dda yn gyffredinol".

  13. Yr ymchwiliadwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Cafodd yr ymchwiliad ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Awst 2015 fel rhan o'r broses Gweithio i Wella. Yn wreiddiol, gofynnwyd i'r ymchwiliad ystyried pryderon penodol a godwyd gan 23 o deuluoedd ynglŷn â'r gofal a'r driniaeth a gafodd eu hanwyliaid ar Ward Tawel Fan rhwng 2007 a mis Rhagfyr 2013, pan gafodd y ward ei chau. Gofynnwyd i'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd ymestyn ei ymchwiliad i ystyried archifau 3 phroses cysylltiedig arall i adnabod cleifion eraill nad oedd y gofal a'r driniaeth a dderbyniwyd ganddynt o bosibl yn cyrraedd y safonau derbyniol. Cafodd cyfanswm o 108 o gleifion a staff eu hystyried yn fanwl fel rhan o ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    Fe gaeodd ward Tawel Fan yn sydyn yn 2013 ac fe allai'r adeilad gael ei ddymchwel fel rhan o gynlluniau ad-drefnu gwasanaethau iechyd meddwl
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe gaeodd ward Tawel Fan yn sydyn yn 2013 ac fe allai'r adeilad gael ei ddymchwel fel rhan o gynlluniau ad-drefnu gwasanaethau iechyd meddwl

  14. Datganiad: Tawel Fanwedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Nawr datganiad cynta'r prynhawn.

    Mae'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething ar Adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) i'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan.

    Vaughan Gething
  15. Dim seiclo yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Wrth ymateb i gwestiwn gan Simon Thomas Plaid Cymru ynghylch sylw wnaeth Carwyn Jones na fyddai'n seiclo yng Nghaerdydd, mae Lesley Griffiths yn dweud bod hynny'n cyfeirio fwy "at ei oedran yn hytrach na nad oedd hynny'n ddiogel".

    SeicloFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Datganiad a Chyhoeddiad Busneswedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Symudwn ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

    Lesley Griffiths sy'n amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau yn hytrach nag Arweinydd y Tŷ Julie James heddiw.

    Lesley Griffiths
  17. Cymharu arweinydd Plaid Cymru gyda Jacob Rees-Moggwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Carwyn Jones yn dweud, ers 1999 mae Llywodraeth y DU wedi gallu deddfu mewn ardaloedd datganoledig, er y byddai'n well ganddo i'r DU ddod i gytundeb cyfansoddiadol.

    Mae'n cymharu arweinydd Plaid Cymru gyda Jacob Rees-Mogg, yr AS Ceidwadol ac arweinydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd, yn ei defnydd o iaith i feirniadu y cytundeb mesur Brexit.

    "Ydych chi o ddifrif?!" gofynna Leanne Wood.

    Carwyn Jones
  18. 'Adleisiau o gytundeb amheus'wedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn canolbwyntio ar y cytundeb ar Fesur yr UE Ymadael rhwng llywodraethau Cymru a'r DU.

    Mae Carwyn Jones yn mynnu bod llywodraeth y DU wedi rhoi llawer o dir iddyn nhw.

    Ond mae Leanne Wood yn dweud bod criw cyfreithiol y cynulliad wedi "cadarnhau yr adleisiau o gytundeb amheus", gan ddweud eu bod yn dangos bod San Steffan yn gallu "busnesa".

    Leanne Wood
  19. Pobl ifanc yn cael golwg gytbwys o'r byd?wedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Neil Hamilton yn dweud bod deunyddiau ar gwrs y Bac Cymreig i gyd o safbwynt "canol-chwith".

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl ifanc yn cael golwg gytbwys o'r byd.

    "Mae'n well ganddon ni gydbwysedd, mae e eisiau adolygiadaeth asgell-dde".

  20. 'Ffydd yn ein hathrawon'wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Neil Hamilton yn cyfeirio at un rhan o'r Bac Cymreig sy'n edrych ar "amrywiaeth ddiwylliannol" a "masnach deg" ymhlith pynciau eraill. Mae'n rhybuddio eu bod yn "bynciau gwleidyddol sydd angen eu dysgu mewn ffordd gytbwys os nad yw addysg yn gostwng i brobaganda".

    Mae Carwyn Jones yn dweud bod ganddo "ffydd yn ein hathrawon", ac yn ychwanegu "Dydw i ddim wedi gweld enghreifftiau o gwbl o unrhyw fath o ragfarn yn cael ei gyflwyno i'r cwricwlwm".

    Neil Hamilton