Crynodeb

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (HASCAS) i’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan

  • Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru

  • Dyfodol rheoli tir

  • Cyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig

  • Dadl Cyfnod 4 y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

  1. Y Bac Cymreig yn 'ymyriad'wedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Dyw hi ddim yn ymddangos bod gan brifysgolion elitaidd ddiddordeb yn y Bac Cymreig, medd arweinydd UKIP Neil Hamilton, gan ei alw'n ymyriad oddi wrth gwell defnydd o amser mewn ysgolion.

    Mae'r prif weinidog yn dweud nad yw hi'n gywir i ddweud nad yw'r Bac yn cael ei gydnabod gan y prifysgolion gorau.

    Mae'n ychwanegu bod ei fab yn astudio'r Bac a'i fod e a'i fab yn credu ei fod yn ddefnyddiol.

  2. Tawel Fan: Ad-drefnu yn 'broblem fawr?'wedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Carwyn Jones yn dweud nad yw'n derbyn bod ad-drefnu yn "bryder mawr" ynghylch beth ddigwyddodd gyda ward dementia Tawel Fan.

    Ond mae'n ychwanegu : "Mae hwnna yn ffactor, yn rhywbeth i'w ystyried".

    Mae'n ychwanegu y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau mewn mesurau arebnnig "am gyhyd â sydd angen".

    Tawel Fan
    Disgrifiad o’r llun,

    Tawel Fan

  3. Tawel Fan: Beirniadaethau o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladrwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dechrau gyda Tawel Fan, gan ddarllen cyfres o feirniadaethau o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn yr adroddiad diweddar am y ward.

    Ydy'r prif weinidog yn difaru sut y cafodd ad-drefnu'r GIG ei gynnal wnaeth arwain at sefydlu'r bwrdd, gofynna.

    Mae'r prif weinidog yn dweud ei bod hi'n eglur bod yna gasgliadau sydd angen eu gweithredu.

    "Mae'n bell o fod yn wyngalch", meddai ar yr adroddiad am Tawel Fan.

    Andrew RT Davies
  4. Cost ffordd liniaru'r M4 'yn amlwg yn broblem'wedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae'r aelod Ceidwadol Mohammad Asghar yn dweud bod busnesau yn bryderus ynghylch sylwadau'r Gweinidog Cyllid Mark Drakeford ar ffordd liniaru'r M4 yr wythnos ddiwethaf yn awgrymu y byddai'n cefnogi dewis rhatach.

    Mae Carwyn Jones yn dweud mai'r cyd-destun oedd bod y gweinidog cyllid yn tanlinellu bod "y gost yn amlwg yn broblem".

    Ffordd liniaru'r M4Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  5. 'Nifer o opsiynau' ar gyfer y Metrowedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Adam Price Plaid Cymru yn gofyn a yw Llywodraeth Cymru yn nodi wrth ymgeiswyr y bydd hi'n ofynnol i drenau ar y Metro fod â thai bach ar eu bwrdd sy'n cydfyna gyda'r rheolau newydd..

    Mae yna heclo gan ACau y gwrthbleidiau pan fo'r prif weinidog yn dweud eu bod nhw'n ystyried "nifer o opsiynau", gan gynnwys darparu tai bach mewn gorsafoedd os nad ar fwrdd trenau.

  6. Hygyrchedd trenau ar gyfer personau â lefel symudedd iswedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd, dolen allanol gan Gareth Bennett.

    A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hygyrchedd trenau ar gyfer personau â lefel symudedd is ?

    Mae'n mynegi pryder ynghylch y ffaith y bydd tai bach ar drenau wedu eu cloi o dan y rhyddfraint rheilffordd newydd.

    Mae'r prif weinidog yn dweud na fydd e'n caniatáu hynny o dan unrhyw amgylchiadau.

    Gareth Bennett
  7. 10 sesiwn o Gwestiynau'r Prif Weinidog cyn yr Hafwedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae gan Carwyn Jones 10 sesiwn o Gwestiynau'r Prif Weinidog cyn toriad yr Haf.

    Os y bydd e'n rhoi'r gorau iddi ar Ragfyr y 9fed wedi naw mlynedd wrth y llyw, fe fydd ganddo 11 sesiwn arall wedi toriad yr Haf.

    Cwestiynau
  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Croeso i Senedd Fyw sy'n darlledu'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma.

    Mae'r sesiwn fel arfer yn dechrau gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

    Y Senedd