Dilyn y cyfan o'r Almaen!wedi ei gyhoeddi 13:52 GMT+1 6 Mai 2018
BBC Cymru Fyw
Mae Huw Morgans wedi cyslltu o'r Almaen yn dweud ei fod yn dilyn y cyfan ar Lif Byw Cymru Fyw "gyda phopeth wedi croesi. C'mon blooobirds!!"
Diolch am ddilyn, Huw!

Caerdydd yn chwarae Reading yng ngêm olaf y tymor yn y Bencampwriaeth
Pwynt yn sicrhau dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair
BBC Cymru Fyw
Mae Huw Morgans wedi cyslltu o'r Almaen yn dweud ei fod yn dilyn y cyfan ar Lif Byw Cymru Fyw "gyda phopeth wedi croesi. C'mon blooobirds!!"
Diolch am ddilyn, Huw!
BBC Cymru Fyw
Reading yn dechrau pwyso fwy erbyn hyn, a Gunter yn ennill cornel, ond amddiffyn cadarn gan Sol Bamba i atal Moore rhag cael ei ben i'r bêl.
Yr amddiffyn cystal a gol meddai Osian Roberts ar Camp Lawn.
Cerdyn Melyn
Cerdyn melyn i Junior Hoilett am drosedd ar Bacuna.
Cyfle prin i Reading ymosod o'r gic rydd, ond dydy'r croesiad ddim yn ddigon da, a Chaerdydd yn clirio'n hawdd.
BBC Cymru Fyw
Mendez-Laing yn mynd heibio Gunter ar yr asgell dde, gan dorri i mewn ar ei droed chwith, ond yr ergyd yn siomedig a dim problem i'r golwr.
Caerdydd yn parhau i greu cyfleoedd...
BBC Cymru Fyw
Cyfle da i Kenneth Zohore ar ol derbyn y bêl gan Bryson yn y cwrt cosbi.
Mae'n troi i ffwrdd o ddau amddiffynnwr, ond yn taro'r bêl dros y trawst o 12 llath.
Twitter
Dydych chi ddim yn gweld hyn bob dydd, cafodd y tafliad yma yn yr hanner cyntaf ei chymryd o du mewn i'r linell, ond oherwydd y cysgod, ni wnaeth neb sylwi arni!
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Hoilett yn ennill cic rydd ar yr hanner, a Ralls yn taro pêl hir i mewn i'r cwrt lle mae'r capten Morrison yn neidio i ennill y peniad, ond mae hi'n ddigon hawdd i'r golwr ei chasglu.
BBC Cymru Fyw
Mae'r chwaraewyr wedi dychwelyd i'r cae, does dim newidiadau i'r un o'r timau.
Mae 'na 45 munud enfawr yn wynebu dynion Neil Warnock...
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae perchennog Caerdydd, Vincent Tan i'w weld yn hapus wedi'r hanner cyntaf, ond a fydd o'r un mor bles erbyn diwedd y gêm?
Arhoswch gyda ni am y diweddara'...
BBC Camp Lawn
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Camp Lawn
Er y diffyg goliau i Gaerdydd, mae canlyniadau eraill yn mynd o'u plaid ar hyn o bryd.
Ar BBC Radio Cymru, Osian Roberts yn dweud y bydd Neil Warnock yn "siomedig" gyda safon y chwarae, ac yn gobeithio am well yn yr ail hanner.
Roberts yn dweud na all yr Adar Gleision gymryd yn ganiataol y bydd Fulham yn colli, a bod angen gwthio am y fuddugoliaeth yn yr ail hanner
BBC Cymru Fyw
Er gwaetha' sawl ergyd agos gan Gaerdydd yn yr hanner cyntaf, mae'n ddi-sgôr yn erbyn Reading wedi 45 munud o chwarae.
Mae ambell gefnogwr wedi bod yn gweiddi nerth eu pennau er gwaethaf y diffyg goliau yn Stadiwm Dinas Caerdydd!
BBC Cymru Fyw
Dau funud i'w hychwanegu ar ddiwedd yr hanner cyntaf, a Chaerdydd yn dal i bwyso, fydd 'na gôl cyn yr egwyl...?
BBC Camp Lawn
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae hi'n 2-0 i Birmingham yn erbyn Fulham, sy'n fwy o newyddion da i Gaerdydd!
BBC Cymru Fyw
Doedd dim tensiwn i'w weld rhwng Paul Clement, Rheolwr Reading a Rheolwr Caerdydd Neil Warnock cyn y gêm.
Tybed beth oedd y jôc?
BBC Cymru Fyw
Gyda phum munud yn weddill yn yr hanner cyntaf, mae na floeddio eto am lawio gan Van Den Berg yn y cwrt cosbi.
Y bêl yn taro ei fraich, ond dim trosedd meddai'r dyfarnwr.
Twitter
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Croesiad da gan Mendez-Laing o'r dde, gyda sawl chwaraewr yn aros yn y cwrt cosbi.
Y bêl yn disgyn yn rhydd yn y cwrt ond i ddwylo Vito Mannone mae hi'n mynd.
Caerdydd yn dal i bwyso.
Eilyddio
Ilori sy'n gadael y cae wedi 33 munud, Kelly yn dod i ganol cae, a Bacuna yn symud yn ol i safle'r cefnwr dde.