Crynodeb

  • Caerdydd yn chwarae Reading yng ngêm olaf y tymor yn y Bencampwriaeth

  • Pwynt yn sicrhau dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair

  1. Caerdydd 0-0 Readingwedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Amddiffyn da gan Gaerdydd yn rhoi cyfle i wrthymosod, gyda Mendez-Laing yn ymosod yn erbyn Gunter ar yr ochr dde.

    Gunter yn arafu'r chwarae ac mae'n gic gornel i Gaerdydd.

    Gwaith da gan Hoilett yn ennill cic rydd, wrth i Reading feddwl am eilyddio.

  2. Caerdydd 0-0 Readingwedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Cyfle i Gaerdydd wrth i Hoilett groesi o'r asgell chwith tuag at Kenneth Zohore.

    Yr ymosodwr yn cymryd cyffyrddiad yn y cwrt cosbi cyn ergydio, a siomedig yw'r ergyd yn y diwedd.

  3. Caerdydd 0-0 Readingwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Cefnogwyr Caerdydd yn gweiddi am gic o'r smotyn, ond Ilori wedi cael cyffyrddiad ar y bêl wrth daclo Hoilett.

    Y penderfyniad cywir gan y dyfarnwr wedi bron i hanner awr o chwarae.

  4. Caerdydd 0-0 Readingwedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Trosedd gan Elphick ar Zohore ar yr asgell, a'r dyfarnwr yn dangos cerdyn melyn iddo.

    Cyfle i Ralls groesi'r bêl i mewn i'r cwrt i'r dynion tal, ond y bêl yn cael ei chlirio ac yn mynd yn ol i'r golwr Etheridge.

  5. Caerdydd 0-0 Readingwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Cyfnod da i Gaerdydd yn ymosod, ond Sol Bamba yn gwneud y gwaith caled yn yr amddiffyn hefyd, gan hebrwng y bêl allan dan bwysau.

    Mae hi'n parhau'n ddi-sgor.

  6. Am awyrgylch!wedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Diwedd neges twitter
  7. Hoilett yn agos!wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Hoilett yn cael cyfle da i Gaerdydd, gan grymanu'r bêl fodfeddi heibio'r postyn pellaf o ymyl y cwrt cosbi.

    Agos iawn.

  8. Birmingham 1-0 Fulhamwedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae Birmingham newydd fynd ar y blaen i Fulham!

    I'ch hatgoffa chi, mae Fulham bwynt y tu ôl i Caerdydd, sy'n ail, ac fe fyddan nhw'n cipio'r ail safle os bydd eu canlyniad yn erbyn Birmingham yn well nag un yr Adar Gleision.

    Fe fyddai hynny'n golygu bod yn rhaid i Gaerdydd wynebu'r gemau ail-gyfle.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Cyfle i Rallswedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Cyfle i Joe Ralls ar ben arall y cae, gyda foli dda gyda'i droed chwith, ond Elphick yn y ffordd ac yn clirio.

  10. Cyfle i Readingwedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Rhybudd i Gaerdydd wrth i Reading ymosod o dafliad yn eu hanner.

    Roedd angen amddiffyn cywir gan Joe Ralls i sicrhau ei bod hi'n parhau'n ddi-sgor wedi 11 munud.

  11. Yr olygfa o'r pwynt sylwebuwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Caerdydd 0-0 Readingwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Gwaith da eto gan Zohore a Hoilett wrth i Gaerdydd ymosod i lawr yr asgell dde, lle mae wyneb cyfarwydd i gefnogwyr Cymru, Chris Gunter, yn amddiffyn i Reading.

    Ond Hoilett yn ildio'r drosedd yn y cwrt cosbi.

  13. Caerdydd 0-0 Readingwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Reading yn cadw'r bêl yn gynnar yn y gêm, cyn i Kenneth Zohore wneud gwaith da i ennill tafliad i'r Adar Gleision yn hanner yr ymwelwyr.

    Osian Roberts ar BBC Radio Cymru yn meddwl y bydd tafliadau hir yn dacteg pwysig i Gaerdydd y p'nawn 'ma.

  14. Ffwrdd â ni!wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Y gic gyntaf gan Reading, yn eu crysau oren.

  15. Ydy, mae'n gêm anferthol!wedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Chwaraewyr ar eu fforddwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Does fawr angen sgarff yn y gwres heddiw, ond fe fydd cefnogwyr Caerdydd yn gobeithio y bydd yna werthiant mawr ar y rhain ar ddiwedd y 90 munud!

    Munudau'n unig sydd tan y gic gyntaf!

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Tan 'di cyrraedd...wedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Maen siwr nad oedd hi'n anodd dewis crys i berchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan, heddiw.

    Mae Mr Tan wedi cyrraedd y stadiwm, a hynny yn ei grys glas.

    Tybed a yw'r lliw yn lwcus iddo erbyn hyn?

    Vincent TanFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Pen tost - pa grys?wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    I'r cefnogwyr pybyr, mae dewis y crys gorau i'w wisgo'n gallu bod yn ben tost. Mae'r cyn-Aelod Cynulliad Leighton Andrews wedi dewis ei un e...

    Caerdydd
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Edrych ymlaen at ddiweddglo'r tymorwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    'Dyw cefnogwyr Caerdydd ac Abertawe wir ddim yn hoffi ei gilydd.

    @JonesPadrig, dolen allanol a @jackarmy1984, dolen allanol sy'n edrych 'mlaen at ddiweddglo enfawr i'r tymor!

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  20. Osian Roberts yn hyderuswedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2018

    Twitter

    Gohebydd BBC Cymru Tomos Dafydd gafodd argraffiadau Osian Roberts cyn y gêm.