Dyna ni am heddiwwedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018
BBC Cymru Fyw
Dyna ni am heddiw.
Wrth i Gaerdydd ddathlu dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, colli oedd hanes Abertawe, fydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.
Abertawe yn herio Stoke i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr
Diweddara' o gêm bwysig Southampton v Manchester City
Caerdydd yn dathlu dyrchafiad gyda pharêd o amgylch y brifddinas
I aros fyny mae angen i Abertawe guro Stoke a gobeithio bod Southampton yn colli i Man City, yn ogystal â chau bwlch o 10 yn y gwahaniaeth goliau.
BBC Cymru Fyw
Dyna ni am heddiw.
Wrth i Gaerdydd ddathlu dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, colli oedd hanes Abertawe, fydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.
BBC Cymru Fyw
Dyma adroddiad o’r gêm rhwng Abertawe a Stoke, wrth i'r Elyrch ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl saith tymor.
BBC Cymru Fyw
Cafodd ein gohebydd Alun Thomas air gyda dau o gefnogwyr Caerdydd, Owen John a'i fab Ellis oedd yn ymuno yn y dathliadau heddiw.
BBC Camp Lawn
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Catrin Heledd
Chwaraeon BBC Cymru
Catrin Heledd sy'n crynhoi digwyddiadau'r dydd yng Nghaerdydd.
BBC Cymru Fyw
Dyma oedd neges Leon Britton i gefnogwyr Abertawe:
"Diolch o waelod calon am y gefnogaeth ers y diwrnod cyntaf i mi ymuno gyda'r clwb 15 mlynedd yn ôl.
"Mae llawer o newid wedi bod yn y clwb dros y tair blynedd diwethaf, felly mae hi'n amser i bethau setlo i lawr a gobeithio camu'n ôl i'r Uwch Gynghrair."
Yn y gêm arall heddiw, fe enillodd Man City ac yn y broses sicrhau record o 100 o bwyntiau yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Gabriel Jesus sgoriodd y gôl enillodd y gêm i'r pencampwyr
BBC Cymru Fyw
Roedd tristwch yn amlwg ar wynebau rai o chwaraewyr Abertawe ar ddiwedd y gêm.
Un fethodd a rheoli ei emosiynau oedd y golwr Łukasz Fabiański.
Mae llawer o ddyfalu am ddyfodol Fabianski gyda'r cefnogwyr yn canu ei enw ac yn erfyn arno i aros gyda'r Elyrch y tymor nesaf.
BBC Cymru Fyw
Wrth siarad ar ddiwedd y gêm dywedodd Leon Britton fod ei yrfa 15 mlynedd gydag Abertawe wedi bod yn "daith anhygoel"
"Mae'n anhygoel gweld ble mae'r clwb wedi cyrraedd ers i mi ymuno.
"Mae'r cyfleusterau yma;n anhygoel i gymharu â'r dyddiau ar y Fetch" meddai.
BBC Cymru Fyw
Yn dilyn eu cwymp o Uwch gynghrair Lloegr mae Angel Rangel, oedd yn chwarae ei gêm olaf i'r clwb wedi disgrifio'r tymor fel yr "un mwyaf rhwystredig" ers iddo ymuno gyda'r clwb yn 2007.
BBC Camp Lawn
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Bydd digon o sŵn ar strydoedd Caerdydd y prynhawn 'ma wrth i'r cefnogwyr edrych ymlaen at groesawu eu harwyr.
BBC Camp Lawn
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae taith saith mlynedd Abertawe yn Uwch Gyngharir Lloegr ar ben!
BBC Cymru Fyw
Mae digon o liw tu allan i'r castell wrth i'r dorf gyfarch y chwaraewyr.
Pêl-droed, BBC Cymru
Mae gan Abertawe 10 munud i sgorio 10 gôl!!
Dydi'r rheolwr ddim yn edrych yn ffyddiog iawn!!
Cyngor Caerdydd
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae Caerdydd a Neil Warnock wedi cyrraedd Castell Caerdydd ble fydd y dathliadau yn parhau.
BBC Cymru Fyw
Mae Jac o Ben-y-bont ar Ogwr yn un o'r miloedd sydd wedi teithio i Gaerdydd heddiw i ddathlu dyrchafiad yr Adar Gleision.
Dywedodd: "Mae hi'n anodd credu eu bod wedi mynd i fyny, doeddwn byth yn meddwl bysa hyn yn digwydd."
Eilyddio
Abertawe 1-2 Stoke
Nathan Dyer i ffwrdd a Sam Clucas ymlaen i'r Elyrch ar ôl 65 munud.