Crynodeb

  • Abertawe yn herio Stoke i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr

  • Diweddara' o gêm bwysig Southampton v Manchester City

  • Caerdydd yn dathlu dyrchafiad gyda pharêd o amgylch y brifddinas

  • I aros fyny mae angen i Abertawe guro Stoke a gobeithio bod Southampton yn colli i Man City, yn ogystal â chau bwlch o 10 yn y gwahaniaeth goliau.

  1. Southampton yn dechrau blino?wedi ei gyhoeddi 16:25 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Yr adroddiadau o Southampton yw fod gwyr Mark Hughes yn dechrau blino wrth i Man City bwyso i sgorio gôl gyntaf y gêm.

    Southapmton v Man CityFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Raheem Sterling wedi bod yn bygwth amddiffyn Southampton drwy'r prynhawn

  2. Britton ymlaen!wedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    Eilyddio

    Abertawe 1-2 Stoke

    Gyda 57 munud ar y cloc, mae Leon Britton wedi camu i'r maes ar gyfer ei ymddangosiodd olaf i Abertawe.

    Roedd y cefnogwyr i gyd ar eu traed yn cymeradwyo'r chwaraewr canol cae wrth iddo ddod ymlaen yn lle Andy King.

    Leon BrittonFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Croeso i'r Castellwedi ei gyhoeddi 16:17 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Dyma'r olygfa wrth i'r tîm gyrraedd Castell Caerdydd

    Disgrifiad,

    Y bws yn cyrraedd Castell Caerdydd

  4. Y tîm yn cyrraedd y castellwedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Cic o'r smotynwedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    Cic o'r smotyn

    Abertawe 1-2 Stoke

    Fe ddylai Stoke fod wedi ymestyn eu mantais o'r smotyn ar ôl i Martin Olsson lawio yn y cwrt.

    Shaqiri gymrodd y gic, ond Fabianski neidiodd i'w dde ac arbed yn wych.

  6. 'Ar y ffordd i'r Uwch Gynghrair'wedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r neges ar ochr y bws sy'n cludo chwaraewyr Caerdydd

    Bws
  7. Croeso MEGA i'r Castellwedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    Catrin Heledd
    Chwaraeon BBC Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Dathlu ger y Castellwedi ei gyhoeddi 16:06 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae cannoedd o gefnogwyr Caerdydd yn mwynhau'r heulwen y thu allan i'r castell

    Castell Caerdydd
  9. Cefnogwyr a'r tîm ochr yn ochrwedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae torf sylweddol o gefnogwyr yn cerdded y daith wrth ochr bws y chwaraewyr wrth i'r newyddion gyrraedd y Brif Ddinas o'r sgôr yn Stadiwm Liberty.

  10. Di-sgôr yn Southamptonwedi ei gyhoeddi 16:00 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    Marc Lloyd Williams

    Marc Lloyd Williams sy'n cadw llygaid ar ddatblygiadau yn Stadiwm St Mary's pnawn 'ma wrth i Southampton a Man City wynebu ei gilydd.

    Ar yr hanner mae hi'n ddi-sgôr.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Awyrgylch yn dechrau surowedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r golygfeydd yn wahanol iawn yn Abertawe, wrth i'r awyrgylch yn y Liberty ddechrau suro wrth i brotestiadau yn erbyn y cadeirydd Huw Jenkins ymddangos ar y teras.

    AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Warnock yn cyfarch y cefnogwyrwedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    Twitter

    Wrth i reolwr Caerdydd, Neil Warnock ddathlu ei wythfed dyrchafiad o'i yrfa, mae'n cyfarch y cefnogwyr gyda'r gwpan yn ei ddwylo.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Hanner amser ar y Libertywedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    Hanner Amser

    Abertawe 1-2 Stoke

    Mae hi'n hanner amser yn Stadiwm Liberty ac mae'r Elyrch 45 munud i ffwrdd o suddo i'r Bencampwriaeth.

  14. Hughes yn hapus!wedi ei gyhoeddi 15:46 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Bydd y Cymro, Mark Hughes sy'n rheolwr ar Southampton yn falch o glywed y newyddion o Stadiwm y Liberty

    Mark HughesFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Tor calon i Abertawewedi ei gyhoeddi 15:44 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    Gôl!

    Abertawe 1-2 Stoke

    Mae dyfodol Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr bron a bod drosodd ar ôl i Stoke sgorio eto.

    Pum munud cyn yr egwyl y cawr Peter Crouch gododd yn uwch na neb yn y cwrt cosbi a phenio'r bêl heibio i Fabianski.

    Peter CrouchFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Byddwch yn barod yn Nhreganna!wedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Y dorf a'r bws yn gweithio'u ffordd o Lecwydd i Dreganna

  17. Cerdyn Melynwedi ei gyhoeddi 15:37 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    Cerdyn Melyn

    Mae'r dyfarnwr wedi dangos y cerdyn melyn cyntaf o'r prynhawn.

    Badou Ndiaye wnaeth sgorio'r gôl i Stoke yn cael y gorau o'r amddiffynwr Mike van der Hoorn cyn i'r gŵr o'r Iseldiroedd ei daclo'n hwyr.

  18. Stoke yn gyfartalwedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    Gôl!

    Abertawe 1-1 Stoke

    Mae Stoke yn gyfartal wedi hanner awr o chwarae.

    Pêl hir lawr y cae gan Shaqiri at Ndiaye a gyda Fabianski oddi ar ei linell dyma Ndiaye yn codi'r bêl dros ben golwr Abertawe.

    Gôl StokeFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Croeso adre!!wedi ei gyhoeddi 15:31 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    Twitter

    Mae rhai o gefnogwyr y Gleision wrth eu boddau cael tynnu llun gyda'r tlws ar ôl i'r Gleision lanio ym Maes Awyr Caerdydd ychydig funudau'n ôl.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Adar Gleision ar eu fforddwedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae chwaraewyr yr Adar Gleision ar eu ffordd ar yr orymdaith ar ôl i'r bws adael Stadiwm Dinas Caerdydd

    Disgrifiad,

    Y bws yn gadael stadiwm Caerdydd ar yr orymdaith