Crynodeb

  • Diwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018

  • Penodi swyddog Urdd newydd ym Mhowys

  • Y pwyllgor gwaith wedi cyrraedd y nod ariannol o £100,000

  • Math Roberts yn cipio'r Fedal Gyfansoddi

  • Gwrandewch ar y cystadlu trwy'r dydd ar Radio Cymru

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 16:31 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ni am heddiw.

    Llongyfarchiadau mawr i Math Roberts.

    Fe fyddwn ni yn ôl eto bore fory gyda'r newyddion a'r bwrlwm o'r maes yn Llanelwedd.

    Y brif seremoni fory yw Medal y Dysgwyr. Hwyl am y tro!

  2. Cefndir Mathwedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae Math yn wyneb cyfarwydd i eisteddfotwyr Cymru gan iddo ennill droeon mewn amrywiol gystadlaethau cerdd.

    Mae'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanrug ac yna Ysgol Uwchradd Brynrefail.

    Erbyn hyn, mae ar ei flwyddyn gyntaf yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen.

    Mae'n canu'r piano a'r delyn ers yn 3 a 4 oed ac yn canu'r corned.

    Fe enillodd Y Rhuban Glas Offerynnol dan 19oed yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 16 oed.

  3. Math Roberts yn cipio'r Fedal Gyfansoddiwedi ei gyhoeddi 16:23 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Math Roberts o Gwn-y-Glo ger Llanrug, Gwynedd yw enillydd Y Fedal Gyfansoddi - prif seremoni cyntaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2018.

    Math
  4. Y feirniadaethwedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Meirion Wynn Jones oedd yn beirniadu.

    Saith wnaeth gystadlu ac roedd y safon yn amrywiol meddai.

    Roedd hi rhwng Oren a Huwcyn.

    Ond Huwcyn sy'n mynd a hi. Darn coffa yw hwn er cof am ei daid. Dywedodd bod y barau olaf yn "wirioneddol hardd".

    Cwsg oedd enw'r darn ac mae'n "haeddu cael ei lwyfannu" meddai'r beirniad.

  5. Meistr y ddefodwedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Aled Hopton yw meistr y ddefod. Y dasg eleni oedd cyfansoddi darn ac roedd y cystadleuwyr yn medru dewis o bedwar darn o gerddoriaeth.

  6. Ail i Sujiwedi ei gyhoeddi 16:06 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Prif seremoni'r dyddwedi ei gyhoeddi 16:00 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Y brif seremoni heddiw yw'r fedal gyfansoddi. Mae'r seremoni ar fin dechrau.

  8. Beth am wedi i chi gystadlu?wedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Felly, chi wedi llwyddo i orchfygu'r nerfau, perfformio ar y llwyfan a beth sydd yn eich disgwyl chi pen arall?

    Llu o gamerâu teledu a'r wasg yn crefu am luniau a chyfweliadau. 'Sdim heddwch i gael!

    cefn llwyfan
  9. Arwydd da!wedi ei gyhoeddi 15:44 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Chi'n gwybod fod pob dim yn iawn mewn Eisteddfod pan fo'r ciw hufen ia mor hir. Erbyn hyn mae'r haul yn disgleirio ar y Maes a phethau'n dechrau twymo...

    ciw
  10. Sgymraeg!wedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Falle bod angen edrych eto ar yr arwydd yma ar faes y 'steddfod!

    Arwydd ar y maes
  11. Hel atgofionwedi ei gyhoeddi 15:17 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Llywydd y dydd sy'n hel atgofion o'r Urdd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Lluniau o'r maeswedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae ffotograffwyr Cymru Fyw wedi bod yn brysur yn crwydro'r maes ar y diwrnod cyntaf!

    Dyma ddetholiad bach - mwy ar ein gwefan.

    Siwan ac Endaf a Megan a HuwFfynhonnell y llun, bbc
    Cystadlu ar y llwyfanFfynhonnell y llun, bbc
  13. Protest gan Gymdeithas yr Iaithwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

    Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn protestio ar stondin Llywodraeth Cymru ar y maes prynhawn yma, gan eu cyhuddo o gynlluniau i wanhau deddfwriaeth iaith.

    Fe wnaeth yr ymgyrchwyr iaith ddweud y byddai diddymu swydd Comisiynydd y Gymraeg yn "'troi'r cloc yn ôl i'r 90au".

    Dywedodd Heledd Gwyndaf, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith y byddai'r cynlluniau'n "gwanhau ein hawliau i gwyno a chael cyfiawnder".

    "Dyw pobl Cymru ddim eisiau hawliau iaith gwannach, maen nhw am symud ymlaen, nid camu'n ôl i hen ddeddfwriaeth wnaeth fethu," meddai.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Torf, ond dim syniad faintwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Er gwaethaf y ffaith na fydd cyhoeddiad swyddogol am beth yw nifer yr ymwelwyr yr wythnos yma, mae'n amlwg bod torf heddiw yn un sylweddol iawn.

    Mae'r maes yn un eithaf mawr a gwasgar, ond mae pobl ym mhobman!

    torf
  15. Enwau lleoedd Cymruwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Comisiynydd y Gymraeg

    Ar faes Eisteddfod yr Urdd dros y dyddiau nesa mi fydd yna gyfle i eisteddfodwyr gynnig sylwadau ar restr newydd o enwau lleoedd yng Nghymru.

    Fe fyddan nhw'n cael eu cyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ddiwedd fis nesa.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Canu clodydd yr Urddwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae Lloyd Macey, wnaeth gystadlu ar raglen deledu'r X factor, yn dweud na fyddai wedi gallu cymryd rhan yn y rhaglen oni bai ei fod wedi cael profiad ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, dolen allanol.

    Roedd y dyn 23 oed o'r Rhondda ymhlith y rhai wnaeth gymryd rhan yn y cyngerdd agoriadol neithiwr.

    Dywedodd fod cystadlu ar hyd y blynyddoedd yn golygu fod ganddo fantais am ei fod wedi arfer cael adborth wrth berfformio.

  17. Wedi dod o bell i gystadluwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Hyd yma dyma'r cystadleuydd sydd wedi teithio bellaf i gystadlu yn yr Eisteddfod...ni'n credu!

    Enillodd Suji o Ysgol Borth, Porthaethwy'r Eisteddfod Gylch yn gynt yn y flwyddyn, ond wedyn roedd yn rhaid i'w theulu symud yn ôl i Gorea i fyw.

    Ond mae hi a'i theulu wedi hedfan nôl yn arbennig i gystadlu yn yr Urdd ac wedi llwyddo i gael llwyfan yn y Llefaru ar gyfer blwyddyn 3 a 4.

    Dyma hi'n cyrraedd cefn y llwyfan gyda'i hathrawes Eleri sydd wedi bod yn ei hyfforddi dros Skype pob wythnos.

    eleri a sujii
  18. Galw am fwy o addysg Gymraegwedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Mae un o Lywyddion Anrhydeddus yr Eisteddfod, John Meurig Edwards, yn dweud bod angen gweld mwy o addysg uwchradd Gymraeg yn y sir.

    "Mae eisiau mwy o wthio ar yr ochr uwchradd," meddai wrth raglen Taro'r Post.

    Yn ôl y cynghorydd Myfanwy Alexander mae'r diddordeb yn yr iaith wedi "cynyddu ym mhob cornel o'r sir, sy'n mynd ar y cyd gyda'r polisi sydd gennon ni fel cyngor sir i ddarparu addysg Gymraeg yn ehangach ac ehangach."

    Ychwanegodd bydd y cyngor yn gwneud cyhoeddiad cyn bo hir ynglŷn ag ehangu'r ddarpariaeth yng "nghanol y sir." Mae'n holl bwysig cael y ddarpariaeth ymhobman meddai, ac nid dim ond yn y cadarnleoedd.

  19. Coesau blinedig?wedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Efallai bod rhai ohonoch yn poeni am fynychu'r Eisteddfod eleni oherwydd maint y Maes.

    Peidiwch poeni mwy!

    Mae Mistar Urdd wedi darparu trên bach arbennig i gludo ei ffrindiau o un pen o'r Maes i'r llall...felly fedrwch chi gyrraedd y donuts hyd yn oed yn gynt!

    tren
  20. Cyfarchion o LA!wedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Chwaraewyr Cymru'n dymuno'r gorau i'r Urdd yr wythnos yma a hynny o LA!

    Bydd Cymru'n chwarae Mecsico fory mewn gêm gyfeillgar.