Crynodeb

  • Diwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018

  • Penodi swyddog Urdd newydd ym Mhowys

  • Y pwyllgor gwaith wedi cyrraedd y nod ariannol o £100,000

  • Math Roberts yn cipio'r Fedal Gyfansoddi

  • Gwrandewch ar y cystadlu trwy'r dydd ar Radio Cymru

  1. Prancio wrth ddawnsio?wedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae defnyddio hen siediau Maes y Sioe Amaethyddol wedi esgor ar ambell i bartneriaeth addas.

    Ond, i fod yn glir, does dim rhaid bo' chi'n medru neidio a phrancio i ddawnsio'n dda...na bod â'r gallu i fwyta pob dim!

    geifr
  2. Ymroddiad un ferchwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae un cystadleuydd wedi teithio yn bell iawn i gyrraedd y maes heddiw...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Cyhoeddi'r Llywyddion Anrhydedduswedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae tri o drigolion Powys wedi eu hanrhydeddu yn Llywyddion Anrhydeddus, sef John Meurig Edwards, cyn brifathro Ysgol y Bannau, Aberhonddu, Alun ‘Tav’ Evans, cyn gyfarwyddwr addysg Powys a Gwyneth Williams o Drecastell sydd wedi bod a chysylltiad ag Eisteddfod yr Urdd ac eisteddfodau Bach y fro am dro 60 o flynyddoedd.

    Alun 'Tav' Evans, Gwyneth Williams a John Meurig Edwards
    Disgrifiad o’r llun,

    Alun 'Tav' Evans, Gwyneth Williams a John Meurig Edwards

  4. Yr Urdd: Rôl bwysig i gyrraedd y miliwnwedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Un o’r rhai sy'n croesawu’r ŵyl i’r ardal yw'r AC Brycheiniog a Maesyfed, Kirsty Williams.

    Dywedodd Ms Williams -sydd hefyd yn Ysgrifennydd Addysg- yn y gynhadledd i'r wasg bore ma fod gan yr Urdd rôl hynod o bwysig wrth i’r llywodraeth geisio cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

    “Mae’r Urdd wedi bod yn bwysig ym mywyd fy mhlant fy hunain, gan iddynt roi cyfle i'r plant ddefnyddio'r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth,” meddai.

    Kirsty Williams
  5. Mesur "boddhad" yn lle ffigyrauwedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Golwg 360

    Fydd niferoedd yr ymwelwyr ddim yn cael eu mesur yn yr eisteddfod eleni.

    Yn hytrach mesur boddhad , dolen allanol fyddan nhw.

    Dywedodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod wrth Golwg360 mai'r rheswm yw bod y niferoedd yn aros yn "weddol gyson" yn flynyddol.

    Dyma mae'r Sioe Fawr yn Llanelwedd yn gwneud hefyd.

  6. Diwrnod mawr i Efa Thomaswedi ei gyhoeddi 11:36 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Llongyfarchiadau i Lukewedi ei gyhoeddi 11:27 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Miss Urddwedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae pawb yn gyfarwydd gyda Mistar Urdd ond oeddech chi'n gwybod fod Miss Urdd yn bodoli hefyd?

    Y cyflwynydd newyddion Rhodri Llywelyn yw perchennog balch yr unig Miss Urdd mewn bodolaeth.

    Mae Miss Urdd erbyn hyn yn 40 oed. Dyma'r hanes yn llawn.

    Miss UrddFfynhonnell y llun, bbc
    Rhodri efo Mr a Miss UrddFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhodri Llywelyn, Mistar Urdd a Miss Urdd

  9. "Canmol" yr Urddwedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae'r ysgrifennydd addysg Kirsty Williams hefyd yn y gynhadledd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Cynhadledd i'r wasg 'steddfodwedi ei gyhoeddi 10:58 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae'r gynhadledd i'r wasg yn cael ei chynnal ar y maes.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Croesawu'r steddfod i safle'r sioewedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Golwg 360

    Mae Prif Weithredwr Maes y Sioe wedi dweud bod y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru “wrth eu bodd” bod yr eisteddfod yn cael ei chynnal ar y safle eleni., dolen allanol

    Does dim disgwyl problemau parcio meddai Steve Hughson ac fe fyddai yn hoffi i'r ŵyl ddod yn ôl i'r un lleoliad eto.

    Steve HughsonFfynhonnell y llun, bbc
  12. Cyrraedd y nod ariannolwedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae targed ariannol y gronfa leol sef £100,000 wedi'i chyrraedd.

    Yn ôl cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn mae safle'r maes, sef y Sioe Fawr, wedi arbed rhywfaint o arian i'r trefnwyr.

    Ond bu'n rhaid gwario "arian sylweddol" er mwyn gosod y Pafiliwn yn un o'r siediau parhaol.

    Bales yr UrddFfynhonnell y llun, bbc
  13. Cerdd Groeso i'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Dyma ran o'r gerdd sy'n croesawu'r eisteddfod.

    Cafodd ei chyfansoddi gan ddisgyblion Ysgol Trefonnen, Ysgol Gynradd Dyffryn y Glowyr, Ysgol Gynradd Llanfair ym Muallt ac Ysgol y Bannau dan arweiniad John Meurig Edwards.

    Disgrifiad,

    Cerdd Groeso i Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed, 2018

  14. Cymylog ond prysurwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae'n gymylog ac yn drymaidd ar Faes yr Eisteddfod ac yn prysuro fesul munud. Mae'r rhagolygon yn sych ac mae'r tywydd fod i frafio wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen, yn ôl y sôn.

    torf
  15. Ail-ymweld â'r ardalwedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Dyw'r eisteddfod ddim wedi ymweld â'r ardal ers 1978. Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith mae'r eisteddfod wedi dod a hwb ieithyddol i'r ardal.

    "Yn yr ardal yma, oni bai bod sefydliadau fel yr Urdd neu'r fenter iaith lleol yn trefnu rhywbeth, does dim byd fel arfer lle mae plant, pobl ifanc ac oedolion hefyd yn gallu mynychu yn y Gymraeg…"

    "Byddai'n wych pe bai'r eisteddfod yn dod bob blwyddyn achos mae'r ffocws mae'r Gymraeg wedi cael dros y flwyddyn diwetha' yn rhywbeth dw i'n hynod o falch i weld," meddai Stephen Mason.

    Stephen Mason
  16. Cyngerdd neithiwrwedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Er mai heddiw mae'r Eisteddfod yn cychwyn yn swyddogol, roedd yna gyngerdd llwyddiannus iawn i ddechrau'r cyfan neithiwr yn y Pafiliwn.

    Mr Urdd a phlant y fro sy'n mynychu Ysgol Ystalyfera ddechreuodd y cyfan ac ymysg yr artistiaid oedd yn perfformio oedd Al Lewis a'i fand.

    Mr Urdd
    Al Lewis
  17. Tywydd a'r traffigwedi ei gyhoeddi 09:19 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Tywydd, BBC Cymru

    Disgwyl iddi godi'n heulog i'r mwyafrif, gyda chawodydd trymion, mellt a tharanau'n bosib. Mae rhybudd melyn o law ar draws rhan helaeth o'r wlad rhwng 1 ac 8 o'r gloch. Y tymheredd rhwng ugain a phedwar ar hugen selsiws ar ei uchaf.

    Yn ardal Caerffili, ciwiau ar yr A469 i'r de wrth y gwaith ger cylchfan Pwllypant. Ym Mhontarddulais, ni'n deall bod damwain wedi digwydd ar yr A48 Heol Fforest; a hynny rhwng Heol Bronallt a Heol Iscoed, ger y gwaith ffordd.

  18. Penodi swyddog yr Urdd ym Mhowyswedi ei gyhoeddi 09:11 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Bydd swyddog ieuenctid yn cael ei benodi gan yr Urdd yn ardal Brycheiniog a Maesyfed o fis Medi ymlaen.

    Bydd y swyddog yn gweithio rhan amser ac yn edrych ar ôl yr ysgolion uwchradd yn y sir.

    Yn ôl y Swyddog Datblygu Rhiannon Walker mae "yn ddatblygiad gwych arall i ni sy'n sicrhau bod mwy o weithgareddau yn parhau i ddigwydd ar ôl yr eisteddfod".

  19. Traffig yn llifo'n braf yn Llanelweddwedi ei gyhoeddi 09:05 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae'n ddydd Llun cyntaf Eisteddfod yr Urdd, ac er gwaethaf y ffaith bod miloedd yn tyrru i'r un lle er mwyn cyrraedd rhagbrofion erbyn 8:00, doedd dim problemau enfawr i gyrraedd y maes parcio.

    Ond wrth gwrs, bydd wastad rhywfaint o giw!

    traffig
  20. Eisteddfod yr Urdd mewn 200 gairwedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Os ydych chi eisiau gwybod sut fydd y tywydd, sut i gyrraedd y maes a gwybodaeth ddefnyddiol arall mae gan Cymru Fyw'r atebion!

    Dyma i chi grynodeb o bopeth 'dych chi angen gwybod.

    Y maes yn cael ei adeiladuFfynhonnell y llun, Yr Urdd