Crynodeb

  • Pedwerydd diwrnod Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018

  • Mae'r eisteddfod yn cael ei chynnal eleni ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd

  • Osian Wyn Owen yw enillydd cadair yr eisteddfod eleni

  • Gwrandewch ar y cystadlu trwy'r dydd ar Radio Cymru

  1. Hwyl am y tro!wedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    A dyna'r cyfan gan y llif byw am heddiw - diolch am ddilyn ar ddiwrnod prysur arall ar faes yr Eisteddfod.

    Llongyfarchiadau i Osian Wyn Owen a holl enillwyr y dydd, a chofiwch y gallwch gael gweddill canlyniadau'r cystadleuthau yma, dolen allanol.

    Byddwn yn ôl bore fory gyda rhagor o gyffro'r cystadlu.

    Tan hynny, da bo chi.

  2. Coginio y gorau o Gymruwedi ei gyhoeddi 16:27 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Roedd criw o fyfyrwyr sy'n astudio bwyd mewn colegau ar draws Cymru yn cystadlu mewn rhagbrawf ar y Maes heddiw, o dan lygad barcud y beirniad Beca Lyne-Pirkis.

    Ers rhai blynyddoedd, mae'r Urdd wedi bod yn cynnig cystadlaethau galwedigaethol gan gynnwys coginio a thrin gwallt.

    Tasg y cystadleuwyr yn y gystadleuaeth o dan 25 oed oedd paratoi bwydlen dau gwrs, heb wario fwy na £15 a'r thema oedd 'y gorau o Gymru'.

    Beca Lyne-Pirkis
  3. Y seremoni'n dod i benwedi ei gyhoeddi 16:26 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Wedi cerddi cyfarch, a dawns, fe ddaw seremoni'r Cadeirio i ben gydag Ymdeithgan yr Urdd.

    Mae'r oriau nesa'n siwr o fod yn rhai prysur i Osian!

  4. Y llongyfarchiadau'n llifo i enillydd y gadairwedi ei gyhoeddi 16:20 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    I osgoi neges twitter 2

    Diwedd neges twitter 2
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 3

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 3
  5. Cefndir Osianwedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae Osian yn gyn-ddisgybl Ysgol Felinheli ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.

    Mae’n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor lle mae’n gobeithio graddio fis Gorffennaf a dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o fis Medi ymlaen.

    Fe gipiodd y drydedd wobr yng nghystadleuaeth Coron yr Urdd y llynedd.

    Ar hyn o bryd mae’n mynychu gwersi cynganeddu Galeri Caernarfon dan diwtoriaeth y prifardd Rhys Iorwerth

  6. Osian Wyn Owen yn cipio'r gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2018wedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Enillydd cadair Eisteddfod Yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018 ydy Osian Wyn Owen o'r Felinheli.

    CadairFfynhonnell y llun, S4C
  7. Afallon ar ei draedwedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae'r bardd buddugol - "Afallon" ar ei draed, ac yn cael ei dywys i'r llwyfan

  8. Teilyngdodwedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae Gruffydd Antur yn cyhoeddi bod yna deilyngdod ac mai Afallon sy'n fuddugol.

    Cyhoeddodd Gwen Davies mai Lowri Ffion Havard sy'n drydydd ac yn ail mae Carwyn Morgan Eckley

  9. 13 yn cystadluwedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Dywedodd Gruffudd Antur fod 13 cynnig wedi dod i law, mewn cystadleuaeth "weddol wastad" ei safon, a hynny ar bynciau'n amrywio o ymgyrch achub Pantycelyn i folawd i dref Port Talbot.

    Mae'n galondid meddai, fod pob un ymgeisydd â maestrolaeth o'r iaith Gymraeg.

    Dr Milgram, Afallon a Morus yw'r tri sy'n dod i'r brig

  10. Y beirniaidwedi ei gyhoeddi 16:06 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Y beirniaid yw Gruffudd Antur a Mari Lisa a Gruffudd sy'n traddodi'r feirniadaeth.

  11. Meistr y Ddefodwedi ei gyhoeddi 16:04 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Gwen Davies yw Meistr y Ddefod yn sermoni'r Cadeirio.

    Mae hi'n wreiddiol o Langamarch ac yn astudio Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

  12. Seremoni'r cadeiriowedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae seremoni'r cadeirio ar fin dechrau ym mhafiliwn yr eisteddfod.

    Mae'r wobr yn cael ei dyfarnu am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd, heb fod dros 100 llinell ar y testun ‘Bannau’.

    Mae'r gadair eleni wedi ei chreu gan Gwilym Morgan, dolen allanol. Mae'n ei disgrifio fel "dyluniad eithaf syml, sy'n adlewyrchu natur wledig Brycheiniog a Maesyfed".

    cadeirioFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwilym Morgan gyda'r gadair

  13. Canlyniad Ensemble Lleisiol Bl. 7-9wedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    1. Ysgol Uwchradd Brynhyfryd / Rh. Dinbych
    2. Uwch Adran Yr Ynys / Rh. Ynys Môn
    3. Aelwyd Twrw Tawe / Rh. Gorllewin Morgannwg
  14. Canlyniad Unawd Bechgyn Bl. 7-9wedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    1. Ynyr Lewys Rogers, Ysgol Uwchradd Brynhyfryd / Rh. Dinbych
    2. James Oakley, Ysgol Gyfun Y Strade / Rh. Dwyrain Myrddin
    3. Tomi Llywelyn, Ysgol Uwchradd Brynrefail / Rh. Eryri
  15. Melys ddathliadau gwobrau Tir na n-Ogwedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Gallwch fwyta'r llyfrau hyn, yn llythrennol!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Lluniau Dydd Iau'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae camera Cymru Fyw wedi bod yn brysur yn crwydro'r maes eto heddiw a chael cyfle i gwrdd â'r ymwelwyr.

    Dyma i chi luniau dydd Iau.

    Lluniau dydd iau
  17. Canlyniad Parti Cerdd Dant Bl. 7, 8 a 9wedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    1. Ysgol Uwchradd Glan Clwyd / Rh. Dinbych
    2. Ysgol Bro Myrddin / Rh. Gorllewin Myrddin
    3. Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe / Rh. Gorllewin Morgannwg
  18. Heddlu arfog ar y maes unwaith etowedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Golwg 360

    Mae Golwg 60 yn adrodd fod heddlu arfog yn crwydro o gwmpas maes Eisteddfod yr Urdd eto eleni, dolen allanol.

    Golygfa gyffredin i nifer o ymwelwyr Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái y llynedd oedd heddweision â gynnau yn crwydro o gwmpas y maes.

    Mae'n debyg bod swyddogion diogelwch yr Eisteddfod hefyd yn archwilio bagiau wrth fynedfa’r maes.

    Heddlu arfog
  19. Be' de chi 'di glywed tybed?wedi ei gyhoeddi 15:13 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Canlyniad Dawns Werin Bl. 7, 8 a 9wedi ei gyhoeddi 15:02 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    1. Adran Bro Taf / Rh. Morgannwg Ganol
    2. Aelwyd Hafodwenog / Rh. Gorllewin Myrddin
    3. Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg / Rh. Caerdydd a'r Fro