Nia Roberts: Yr Urdd yn rhoi cyfle i fod yn rhan o rywbethwedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2018
Yr actores Nia Roberts yw llywydd y dydd yn Eisteddfod yr Urdd heddiw. Wrth siarad ar y maes y bore 'ma, bu’n sôn am y tro diwetha' i'r Eisteddfod ddod i Lanelwedd yn 1978, a hithau'n blentyn bach: “Treuliais y rhan fwya’ o’r diwrnod yng ngharafán yr heddlu ar y maes ar ôl mynd ar goll. Dwi’n gobeithio y gwela i fwy o’r Maes heddiw!
“Cefais i fyth lwyfan yn yr Urdd, ond i mi, nid y cystadlu ond cael bod yn rhan o rywbeth sy’n aros yn y cof. Crwydro o gwmpas y Maes, hel llofnodion a chael cymaint o hwyl yn yr Eisteddfod. Ond mi roedd y wefr o gystadlu wedi rhoi’r awydd i mi i fod yn actores.”
“Fe gollais i fy nhad yn ddiweddar, ond dwi’n browd iawn am faint wnaeth e dros y Gymraeg yn yr ardal hon. Dwi’n teimlo’n gryf bod plant yr ardal yma yn cael y cyfleoedd.”