Crynodeb

  • Cafodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei sefydlu ar 5 Gorffennaf 1948

  • Dyma gyflogwr mwyaf Cymru, gyda dros 70,000 yn gweithio iddo

  • Mae dros filiwn o gleifion yn ymweld ag adrannau brys pob blwyddyn

  1. Diolch gan blant yr ardalwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Dyma blant o Ysgolion Llangain a Llansteffan sydd wedi bod wrthi'n paratoi'r arddangosfa pen-blwydd yn croesawu pawb ger prif fynedfa Glangwili.

    Fel gwobr, mae'r plant yn cael taith o amgylch yr ysbyty gan ymweld â'r uned cardiac...a'r bwyty wrth gwrs!

    plant ac arddangosfa croesogig
  2. Y llawfeddyg o Barbados sydd wedi ymgartrefu yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    Aled Hughes
    BBC Radio Cymru

    Mae'r llawfeddyg Phillip Moore yn un o sêr rhaglen Ward Plant S4C a chafodd Aled Hughes sgwrs efo'r meddyg o Barbados sydd wedi dysgu Cymraeg ar Radio Cymru.

    Mae Mr Moore, llawfeddyg ar ward ENT yn Ysbyty Gwynedd, yn teimlo'n gryf ynglŷn â dysgu Cymraeg er mwyn cyfathrebu gyda'r cleifion sydd dan ei ofal ond mae hefyd yn teimlo'n gryf ynglŷn â pharchu'r Gwasanaeth Iechyd gan fod y sefyllfa yn ei wlad enedigol, yn wahanol iawn

    "Mae'r gwasanaeth yn Barbados yn wahanol achos mae pawb angen talu mwy i gael gwasanaeth iechyd da – so mae cael pob dim, am ddim, yma yn bwysig iawn," meddai.

    Phillip Moore ac Aled Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Phillip Moore wrth Aled Hughes ei fod yn teimlo'n gartrefol iawn yng Nghymru wedi symud yma o Barbados a dysgu'r Gymraeg

  3. Ifan Jones Evans yn dweud diolchwedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    Twitter

    Yn dilyn llawdriniaeth diweddar a genedigeth ei fab ...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Dim cwpan y byd i Rileywedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Tair wythnos yn ôl, roedd Riley o Ben-bre, ger Llanelli, yn chwarae pêl-droed yn yr ysgol pan glywodd ei ffrindiau glec enfawr wrth iddo gael ei daclo.

    Aeth ei rieni ag ef i'r ysbyty yn bŵt y car lle darganfyddon nhw fod Riley wedi torri ei goes mewn dwy le!

    Mae nôl yn Ysbyty Glangwili heddiw gyda'i fam, Gemma i gael pelydr X i weld sut mae'n gwella, cyn i'r goes fynd yn ôl i blastar am saith wythnos arall!

    riley a Gemma
  5. Gweld y ward orthopedig wedi 'prysuro'n fawr'wedi ei gyhoeddi 11:35 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Yn 72 oed, mae'r nyrs Hefin Jones o Ddinorwig ddwy flynedd yn hŷn na'r Gwasanaeth Iechyd ac yn dal i weithio.

    Yn 1985, roedd newydd ddechrau nyrsio a chafodd hwyl un Nadolig yn gwisgo fel un o'r nyrsys benywaidd yn Ysbyty Gwynedd.

    "Chaen ni byth wneud hynny rwan," meddai, "ond mi ddaeth â gwên i wynebau'r cleifion y diwrnod hwnnw"

    Roedd Hefin yn gweithio mewn ffatri rhannau ceir yng Nghaernarfon cyn nyrsio ac mae wedi gweld y ward ddamweiniau orthopedig yn prysuro'n fawr ers hynny.

    “Mae pobl yn byw yn hirach ac ymwelwyr hŷn sy’n dod ar eu gwyliau i lefydd fel Llandudno yn cael damweiniau ac angen eu trin.”

    Hefin Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Hefin gyda llun o'i hun fel nyrs benywaidd yn 1985

  6. Cân arbennig gan Gruff Rhyswedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    Bydd Gruff Rhys yn perfformio cân arbennig mae wedi ei hysgrifennu i ddathlu'r GIG yng Nghastell Caerdydd am 11.30am heddiw.

    Cafodd gais i ysgrifennu No Profit In Pain gan National Theatre Wales fel rhan o NHS70: A Festival sy'n cael ei lansio heddiw. Bydd unrhyw elw o'r sengl yn cael ei roi i elusennau'r GIG ar draws Cymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Mae Elvis yn yr adeilad!wedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Peidiwch â synnu os gwelwch chi'r brenin yn cerdded y coridorau yn ysbytai gogledd Cymru.

    Wynne Roberts yw caplan ysbytai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ond pan nad yw'n gofalu am anghenion ysbrydol cleifion mae Wynne yn cynnal sioeau Elvis Presley ar hyd a lled y wlad ac weithiau’n cael ei alw i ganu i gleifion.

    Mae’n sylwi fod y caneuon yn help yn enwedig gyda chleifion dementia – sydd yn aml yn cofio pob gair o ganeuon Elvis ond nid digwyddiadau diweddar.

    Wynne RobertsFfynhonnell y llun, bbc
  8. Uned cemo newydd i Fronglais?wedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n ymddangos fod breuddwyd ymgyrchwr o sefydlu uned cemo newydd yn y canolbarth ar fin gael ei wireddu - a hynny diolch yn bennaf i gyfraniadau gan elusennau.

    Dyw'r newyddion heb gael ei gadarnhau gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ond y gred yw y bydd uned newydd ar safle Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn cael ei sefydlu ar gost o tua £1m.

    Mae'n debyg fod elusennau eisoes wedi codi £600,000 o'r arian fyddai angen ar gyfer y cynllun. Un o'r rhai sydd wedi cael canser y fron ac wedi derbyn triniaeth cemo ym Mronglais yw Eira Henson.

  9. Diolch i'r "cadwyn o angylion"wedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Lowri Haf Cooke sy'n estyn ei gwerthfawrogiad i'r GIG am ei hachub yn dilyn damwain car.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Rhannwch eich straeon!wedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Wedi gweithio i'r GIG? Anfonwch eich lluniau a'ch atgofion at cymru.fyw@bbc.co.uk.

    Gwilym Jones a Madge HinderFfynhonnell y llun, Llun Teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwilym Jones a Madge Hinder yn Ysbyty'r War Memorial, Y Rhyl yn 1950

  11. Croeso i'r bydwedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Alicia O’Shea o Drimsaran, ger Llanelli, oedd y cyntaf i roi genedigaeth yn Ysbyty Glangwili ar ddiwrnod pen-blwydd y GIG.

    Ddaeth Zavier i’r byd am 02:28 bore’ma...ac mae dal yn effro!

    Alicia a Zavier
    Zavier
  12. Cerdd arbennig i'r wardiau plantwedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Mae cerdd arbennig wedi ei chreu gan Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru er mwyn dathlu'r pen-blwydd.

    Bydd y gerdd o dan y teitl 'Ti' yn cael ei arddangos ar wardiau plant ysbytai led led Cymru.

    "Roeddwn i am wneud yn siwr y byddai plant yn deall y gerdd, gan mai mewn wardiau plant y bydd hi'n ymddangos, felly mae hi'n syml, ac yn cyffwrdd ar y pethau sy'n gyffredin i ni gyd wrth ymweld ag ysbytai; y bobl garedig, y llenni lliwgar o gwmpas y gwely, ac wrth gwrs, y gofal."

    Casia William
    Disgrifiad o’r llun,

    Casia William yn ymweld ag Ysbyty Glangwili

  13. 'Mae’r Gymraeg yn hollbwysig i siarad gyda chleifion...'wedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Cyn iddi ddechrau prysuro yn Fferyllfa Ysbyty Gwynedd, fe lwyddon ni i gael gair sydyn efo Yankier Perez o Giwba sydd bellach yn byw yn Llanrug ac yn ymgeisydd Dysgwr y Flwyddyn eleni.

    Economeg oedd maes Yankier nôl yn Ciwba, ond bum mlynedd yn ôl fe wenaeth ailhyfforddi fel fferyllydd yn Ysbyty Gwynedd.

    Pan gychwynnodd roedd yn dysgu Cymraeg ac yn gloywi ei Saesneg yr un pryd.

    "Mae’r Gymraeg yn hollbwysig i siarad gyda chleifion a staff eraill," meddai. Ers y chwyldro yn Cuba mae gan y wlad honno hefyd system iechyd nad oes raid talu amdani fel ein Gwasanaeth Iechyd ni.

    Yankier PerezFfynhonnell y llun, bbc
  14. Dyddiau prysur i'r uned famolaethwedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

    Yn cyflogi staff o 3,483 Ysbyty Glangwili yw ysbyty mwyaf Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae yna 385 o welyau yno.

    Roedd y 12 mis diwethaf yn rhai prysur i'r uned famolaeth gyda 3,256 o fabanod yn cael eu geni.

    Glangwili
  15. Teg edrych tuag adre...wedi ei gyhoeddi 09:15 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Mae Nicole (chwith) newydd ddechrau ei shifft ar y ward cyn-geni, ond mae Emma ar y dde yn dod i ddiwedd ei shifft nos.

    Mae Emma wedi bod yma yng Nglangwili ers gadael ei chartref yn Abergwaun am 18:15 neithiwr.

    Nawr ma 'da hi dipyn o daith adref..ond chwarae teg mae hi'n dal i wenu!

    Nicole ac Emma
  16. Bore da bawb!wedi ei gyhoeddi 09:00 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Mae'n bosib mai un o'r wynebau cyntaf welwch chi wrth ddod drwy brif fynedfa Ysbyty Gwynedd yw John Owen, sy'n cydlynu shifftiau y ddesg flaen.

    Mae'n gwneud y swydd ers 10 mlynedd ac mae'n flaenoriaeth iddo wneud yn siwr fod o leiaf un o'r ddau aelod o staff sydd wrth y ddesg yn gallu'r Gymraeg.

    Roedd yn falch iawn ddwy flynedd yn ôl pan gafodd gydnabyddiaeth o'i waith caled drwy gael ei wahodd i Arddwest ym Mhalas Buckingham.

    john owen
  17. Golygfa anarferolwedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Bore da o Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin gydag awyr las yn disgleirio dros ben yr adeilad.

    Ond nid hynna yw'r olygfa brin ond maes parcio gwag sydd yn ein hwynebu yn gynnar yn y bore... fydd y stori dipyn gwahanol ymhen ychydig oriau!

    glangwili
  18. Angen talu mwy i gynnal y Gwasanaeth, medd Carwyn Joneswedi ei gyhoeddi 08:29 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn dweud y dylai pobl dalu mwy o drethi yn y dyfodol er mwyn cynnal y Gwasanaeth iechyd.

    Roedd Carwyn Jones yn cael ei gyfweld ar y Post Cyntaf, Radio Cymru, wrth nodi pen-blwydd y Gwasanaeth.

    "Os ni mo'yn cael y Gwasanaeth Iechyd ni mo'yn gweld, bydd yn rhaid i bobl dalu mwy o drethi neu yswiriant cenedlaethol."

    Pan gafodd ei holi a fyddai o blaid cynyddu trethi yng Nghymru dywedodd y byddai'n well ganddo weld treth ar gyfer y DU.

    Carwyn Jones
  19. Cyflogwr mwyaf Cymruwedi ei gyhoeddi 08:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae dros 70,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan GIG Cymru - gan olygu mae'r gwasanaeth iechyd yw cyflogwr mwyaf Cymru.

    O ran y gweithlu mae 29,524 yn cael eu cyflogi fel nyrsys, bydwragedd neu ymwelwyr iechyd.

    Mae yna dros 200 o wahanol yrfaoedd yn amrywio o gynaecolegwyr i beirianwyr sifil.

    Ysbyty Gwynedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Staff yn cyrraedd Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar gyfer y shifft gynnar

  20. Cofnodi'r diwrnodwedi ei gyhoeddi 08:07 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Bydd gohebwyr Cymru Fyw'n crwydro coridorau Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty Gwynedd, Bangor er mwyn cofnodi'r pobl sy'n gweithio ac yn defnyddio'r GIG ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 70.

    coridor