Crynodeb

  • Cafodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei sefydlu ar 5 Gorffennaf 1948

  • Dyma gyflogwr mwyaf Cymru, gyda dros 70,000 yn gweithio iddo

  • Mae dros filiwn o gleifion yn ymweld ag adrannau brys pob blwyddyn

  1. Cytundeb cyflog newydd i staffwedi ei gyhoeddi 08:03 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru i ddathlu 70 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth.

    Fe gafodd ei lansio'n ffurfiol ar 5 Gorffennaf 1948 gan y gweinidog iechyd ar y pryd, Aneurin Bevan, gafodd ei eni yn Nhredegar.

    Heddiw clywodd staff y GIG yng Nghymru eu bod yn cael codiad i'w cyflogau, ar ôl Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething, gyhoeddi cytundeb cyflog newydd.

    Yn ôl Mr Gething, mae'r cynnig newydd "yr un fath ac mewn rhai achosion yn mynd y tu hwnt i gytundeb cyflog newydd y GIG yn Lloegr".

    Aneurin Bevan
    Disgrifiad o’r llun,

    Aneurin Bevan

  2. Pen-blwydd hapus yn 70 oed heddiw!wedi ei gyhoeddi 08:00 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'r llif byw arbennig yma o Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor wrth i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, dolen allanol droi'n 70 oed.

    Pan gafodd ei sefydlu ar 5 Gorffenaf 1948 dyma'r drefn gyntaf yn y byd i roi triniaeth meddygol i bawb "o'r crud i'r bedd" heb orfod talu.

    ward ysbytyFfynhonnell y llun, bbc