Crynodeb

  • Tom Dumoulin yn ennill cymal 20 y Tour de France

  • Geraint Thomas yn drydydd yn y ras yn erbyn y cloc

  • Y Cymro'n cadw'i afael ar y crys melyn

  • Y cymal cystadleuol olaf yn y Tour eleni

  • Y ras yn gorffen ym Mharis ddydd Sul

  1. Geraint Thomas yn dal i arwain!wedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Mae Geraint Thomas yn hedfan!

    Mae wedi cyrraedd 22 cilometr mewn 28 munud a 33 eiliad, sydd 15 eiliad yn well na Tom Dumoulin!

    All Thomas sicrhau'r crys melyn ac ennill ei drydydd cymal o'r Tour eleni heddiw?

    Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Tom Dumoulin yn cyrraedd 22 cilometrwedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Mae'r Iseldirwr wedi cyrraedd yr ail "time check" mewn 26 munud a 48 eiliad, sef dwy eiliad y tu ôl i Chris Froome.

    Bydd crys melyn Geraint Thomas yn cyrraedd y pwynt hynny mewn cwpl o funudau.

  3. Froome yr arwain wedi'r ail "time check"wedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Mae Froome wedi cyrraedd 22 cilometr mewn 28 munud a 46 eiliad, sef yr amser gorau hyd yma.

    Wrth i Primoz Roglic gyrraedd y pwynt hynny, mae 49 eiliad y tu ôl iddo.

    Mae'n ymddangos ar hyn o bryd y bydd Froome yn un o'r tri fydd ar y podiwm ym Mharis yfory.

  4. Yr enillydd cyntaf sy'n enedigol o Brydain?wedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Twitter

    Mae'n debyg bod David Roberts yn iawn - Geraint Thomas fyddai enillydd cyntaf erioed y Tour de France i gael ei eni ym Mhrydain.

    Mae dau Brydeiniwr arall hefyd wedi ennill y ras enwog yn y blynyddoedd diwethaf - Bradley Wiggins a Chris Froome.

    Ond cafodd Wiggins ei eni yng Ngwlad Belg, tra bod Froome yn enedigol o Kenya.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Geraint Thomas ar y blaen!wedi ei gyhoeddi 15:47 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Mae Geraint Thomas wedi cyrraedd 13 cilometr mewn dim ond 16 munud a 31 eiliad!

    Dyna'r cyflymaf hyd yn hyn, ac 17 eiliad yn gyflymach na Tom Dumoulin!

    Ac mae'r camerâu yn dangos ei fod yn mynd mor gyflym, bu bron iddo ddisgyn ar un cornel!

  6. Tom Dumoulin yn cyrraedd 13 cilometrwedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Ar ôl 13 cilometr mae Tom Dumoulin wedi cymryd 16 munud a 48 eiliad, dwy eiliad y tu ôl i Froome, oedd y gorau ar y pwynt hynny.

    Tom DumoulinFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Froome yn arwain ar y "time check" cyntafwedi ei gyhoeddi 15:41 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Mae Chris Froome wedi cyrraedd y "time check" cyntaf, sef ar ôl 13 cilometr.

    Ei amser oedd 16 munud a 45 eiliad, sydd chwe eiliad o flaen y person cyflymaf ar y pwynt hynny, sef Ilnur Zakarin.

    Mae Primoz Roglic yn cyrraedd ychydig funudau'n ddiweddarach gydag amser o 17 munud ac 16 eiliad.

    Chris FroomeFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Y Ddraig Goch ym mhobmanwedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Twitter

    Mae 'na faneri Cymru wedi bod yn chwifio ar ochr y ffordd drwy gydol y Tour de France eleni, a dyw hi ddim yn wahanol heddiw.

    Dim ond gobeithio y bydd gan y cefnogwyr yma rywbeth i'w ddathlu pan fydd Geraint Thomas yn cyrraedd y llinell derfyn!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Geraint Thomas yn dechrau!wedi ei gyhoeddi 15:29 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Mae'r Cymro wedi dechrau ei daith 31 cilometr i Espelette, ac os yw popeth yn mynd fel y dylai, bydd yn cyrraedd yno o fewn llai na 45 munud.

    Ac mae'r Cymry sydd wedi teithio allan yno yn barod i'w annog ymlaen!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Tom Dumoulin wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Mae'r Iseldirwr wedi dechrau, ac mae'n siwr bod nerfau Geraint Thomas wir yn cael effaith erbyn hyn.

    Dim ond dau funud nes i'r Cymro ddechrau'r daith i gadw'r crys melyn ac ennill y Tour de France am y tro cyntaf erioed!

    Fe gawn ni syniad o ba mor dda mae'n ei wneud ar ôl 13 a 22 cilomedr.

  11. Froome a Roglic yn dechrauwedi ei gyhoeddi 15:23 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Mae Chris Froome ar y ffordd, ac yn ceisio adennill ei le ar y podiwm.

    Mae'n werth cofio mai ef oedd arweinydd Team Sky am y mwyafrif o'r Tour eleni, ond i Geraint Thomas ddangos ei fod yn gryfach.

    120 eiliad yn ddiweddarach, ac mae Primoz Roglic yn dechrau hefyd.

    Dim ond Tom Dumoulin a Thomas sydd ar ôl i ddechrau.

    Chris FroomeFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Chris Froome yn cynhesu am y cymal heddiw

  12. Pwy sy'n arwain y cymal ar hyn o bryd?wedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Michal Kwiatkowski o Team Sky sy'n arwain y cymal ar hyn o bryd gydag amser o 41 munud a 42 eiliad.

    I roi syniad i chi o beth sy'n amser da ar y "time cheks" gwahanol, ar ôl 13 cilometr roedd Kwiatkowski wedi cymryd ychydig dros 17 munud, ac wedi 22 cilometr roedd wedi cymryd 29 munud a hanner.

    Ond mae nifer o'r seiclwyr sydd yn y 10 uchaf yn dda iawn mewn rasys yn erbyn y cloc, felly mae'n bosib y gall nifer ohonynt guro amser Kwiatkowski.

    Michal KwiatkowskiFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Cyfle olaf i herio Thomaswedi ei gyhoeddi 15:18 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Nid cymal heddiw yw'r un olaf yn y Tour de France, gyda llaw - mae un arall i ddod ym Mharis prynhawn fory.

    Ond dyma'r un olaf ble gallai'r dosbarthiad cyffredinol - hynny yw, y rheiny sy'n arwain y ras - newid.

    Mae hynny oherwydd bod traddodiad ar y Tour nad oes unrhyw un yn herio'r beiciwr yn y crys melyn ar y cymal olaf un.

    Dyna pam mai dyma yw'r cyfle olaf i'r seiclwyr fel Tom Dumoulin geisio cymryd amser yn ôl oddi wrth Geraint Thomas.

    champs elysees
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd y ras yn gorffen fory ar y Champs-Élysées ym Mharis

  14. Thomas â gormod o fantais dros Dumoulin?wedi ei gyhoeddi 15:15 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Y bygythiad mwyaf i Geraint Thomas heddiw yw Tom Dumoulin, sydd ddau funud a phump eiliad y tu ôl i'r Cymro.

    Ef yw'r ffefryn i ennill y cymal heddiw, ond byddai angen perfformiad anhygoel ganddo i ennill cymaint a hynny o amser yn ôl ar Thomas.

    Yn siarad ag ITV cyn y cymal heddiw, dywedodd Dumoulin mai ei uchelgais yw cadw ei afael yn yr ail safle, gan awgrymu y bydd mantais Thomas yn ormod.

    DumoulinFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Nesáu at amser dechrau Geraint Thomaswedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Ry'n ni'n nesáu at amser dechrau Geraint Thomas, sef 15:29.

    Bydd Tom Dumoulin ddau funud cyn hynny, Primoz Roglic am 15:25, a Chris Froome am 15:23.

    Mae'r seiclwr sydd yn y 10fed safle, Ilnur Zakarin o Rwsia, newydd ddechrau.

  16. Neb erioed wedi colli o sefyllfa Thomaswedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Ers i'r ras yn erbyn y cloc gael ei chyflwyno fel cymal olaf pob Tour de France yn 1934, dim ond saith seiclwr sydd wedi colli'r crys melyn ar y cymal olaf.

    Ond roedd y bwlch mwyaf gafodd ei golli yn 1947, pan gollodd René Vietto fantais o funud a 37 eiliad i Pierre Brambilla.

    Felly'r newyddion drwg yw bod seiclwyr wedi colli'r crys melyn ar y cymal olaf o'r blaen, ond y newyddion da yw does neb erioed wedi colli cymaint o fantais ag sydd gan Geraint Thomas.

    Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Rowe yn hyderus o obeithion Geraintwedi ei gyhoeddi 15:04 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    A sôn am Luke Rowe, fe wnaeth o gwblhau ei ras yn erbyn y cloc yn gynharach.

    Roedd ganddo ambell air o gyngor i Geraint Thomas, sydd eisoes wedi bod yn beicio llwybr y ras y bore 'ma, meddai.

    "Mae'n wlyb ac yn damp ond gobeithio y bydd hi'n eitha' di-ffwdan," meddai.

    "Dau funud a phum eiliad, byddech chi'n meddwl y gallai e wneud e, ond dyw e ddim drosto eto."

  18. Y sefyllfa cyn y cymal heddiwwedi ei gyhoeddi 14:59 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Dyma sut mae hi'n edrych yn y dosbarthiad cyffredinol cyn y cymal heddiw.

    Mae hi'n gystadleuol iawn rhwng Dumoulin, Roglic a Froome am yr ail a'r trydydd safle, ond dim ond dau ohonynt all sefyll ar y podiwm ym Mharis yfory.

    1. Geraint Thomas - Team Sky
    2. Tom Dumoulin - Team Sunweb + 02' 05''
    3. Primoz Roglic - Team Lotto Jumbo + 02' 24''
    4. Christopher Froome - Team Sky + 02' 37''
    5. Steven Kruijswijk - Team Lotto Jumbo + 04' 37''
  19. Beth allan ni ddisgwyl o'r cymal?wedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Yn siarad am be allan ni ddisgwyl o'r cymal heddiw, dywedodd cyfarwyddwr y ras, Christian Prudhomme:

    "Dyw daearyddiaeth Gwlad y Basg ddim yn gwneud hon yn un i bobl sy'n arbenigo mewn rasio yn erbyn y cloc yn unig, a dylai siwtio pobl sy'n dda am wneud dringfeydd byr."

    Mae Geraint Thomas yn ffitio i'r ddau ddisgrifiad yna, felly bydd yn gobeithio gallu creu argraff a chadw'r crys melyn heddiw.

    Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Cymry'n cefnogi Geraint ger y llinell derfynwedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2