Crynodeb

  • Tom Dumoulin yn ennill cymal 20 y Tour de France

  • Geraint Thomas yn drydydd yn y ras yn erbyn y cloc

  • Y Cymro'n cadw'i afael ar y crys melyn

  • Y cymal cystadleuol olaf yn y Tour eleni

  • Y ras yn gorffen ym Mharis ddydd Sul

  1. Y llwybr heddiwwedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Mae'r cymal yn gweld y seiclwyr yn teithio 31 cilometr o Saint-Pée-sur-Nivelle i Espelette.

    Mae wedi'i dorri'n dair rhan, ac fe fyddwn yn cael syniad o ba mor dda mae'r seiclwyr yn gwneud ar ddiwedd pob un o'r rhannau hyn.

    Mae'r cyntaf o'r "time checks" yma ar ôl 13 cilomedr, yr ail ar ôl 22 cilomedr, a'r olaf ar y llinell derfyn.

    Cymal 20
  2. Beth yw trefn ras yn erbyn y cloc?wedi ei gyhoeddi 14:43 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Mae pob un o'r 145 o seiclwyr sy'n weddill yn cystadlu heddiw, gyda'r person sy'n olaf yn dechrau yn gyntaf, ac arweinydd y ras, Geraint Thomas, yn dechrau'n olaf.

    Mae bwlch o ddau funud rhwng pob cystadleuydd, ac er nad yw'n digwydd yn aml, mae'n bosib i'r seiclwyr ddal y person sydd o'u blaenau.

    Mae hynny'n golygu bod y prif fygythiad i Thomas, yr Iseldirwr Tom Dumoulin, yn dechrau dau funud cyn y Cymro.

    Mae'r cymal wedi dechrau ers rhai oriau, ond rydyn ni'n agosáu at amser dechrau'r 10 uchaf erbyn hyn.

    Team SkyFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Geraint Thomas ar flaen trên Team Sky yn ras y tîm yn erbyn y cloc

  3. Hanes (byr!) y Cymry a'r Tour de Francewedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Twitter

    I roi syniad i chi cymaint o gamp yw hyn gan Geraint Thomas, mae Mei Emrys ar Twitter wedi bod yn twrio i hanes (byr iawn!) y Cymry a'r Tour de France.

    Mae'n debyg mai dim ond tri Chymro sydd erioed wedi rasio yn y Tour hyd yn oed, heb sôn am ddod yn agos at ennill.

    Ac mae dau o'r rheiny - Thomas, a Luke Rowe - yn beicio ynddi eleni!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Cymal 20: Y ras yn erbyn y clocwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Dyma'r unig ras unigol yn erbyn y cloc yn y Tour eleni, ond roedd ras tîm yn erbyn y cloc ar y trydydd cymal.

    Mae tair dringfa, gan gynnwys un serth tua'r diwedd, felly bydd yn rhaid i'r seiclwyr gadw ychydig o'u hegni nes hynny ac yna hedfan i lwar yr allt yn y cilometrau olaf.

    Mae hi wedi bod yn glawio ar y llwybr dros yr oriau diwethaf, felly gall hynny gael effaith hefyd.

    Cymal 20
  5. Croeso i'r llif byw!wedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 28 Gorffennaf 2018

    Tour de France

    Croeso i'r llif byw ar y diwrnod pwysicaf yn hanes seiclo yng Nghymru.

    Mae Geraint Thomas yn gwisgo crys melyn arweinydd y Tour de France, ac ef fyddai'r Cymro cyntaf erioed i ennill y ras.

    Dyma'r cymal cystadleuol olaf yn y ras am y crys melyn eleni, gan nad oes unrhyw un yn herio'r arweinydd ar y diwrnod olaf ym Mharis yfory.

    Gobeithio eich bod chi oll yn gwisgo melyn adref yn barod i gefnogi'r gŵr o Gaerdydd!

    Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images