Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 15:31 GMT 6 Rhagfyr 2018
BBC Cymru Fyw
Mae'r llif byw bellach ar ben, gallwch ddarllen y stori lawn yma, neu ewch i ddarllen blog Vaughan Roderick ar drothwy "Drakefordiaeth".
Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro.
Mark Drakeford, Vaughan Gething ac Eluned Morgan sy'n ymgeisio am y rôl
Carwyn Jones sydd wedi bod yn arweinydd ers 2009
Roedd gan tua 175,000 o bobl yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad
Disgwyl i enillydd yr ornest hefyd ddod yn brif weinidog nesaf Cymru
BBC Cymru Fyw
Mae'r llif byw bellach ar ben, gallwch ddarllen y stori lawn yma, neu ewch i ddarllen blog Vaughan Roderick ar drothwy "Drakefordiaeth".
Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro.
BBC Cymru Fyw
Ac fe fydd gan y Prif Weinidog newydd ddigon o bethau ar eu plât pan fyddan nhw'n cymryd yr awenau gan Carwyn Jones yr wythnos nesaf.
Yn un peth, fe fydd hi'n wythnos dyngedfennol o ran Brexit, gyda phleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ar gytundeb ymadael Theresa May.
Bydd yn rhaid iddyn nhw hefyd wneud penderfyniad ar ffordd liniaru'r M4, gyda phleidlais ar y mater wedi'i gohirio nes ar ôl i Mr Jones adael.
Gallai Mr Drakeford hefyd benderfynu ad-drefnu'r cabinet, yn enwedig gan y bydd ei swydd bresennol - Ysgrifennydd Cyllid - bellach yn wag.
Brexit fydd un o'r pethau cyntaf ar agenda'r Prif Weinidog newydd
BBC Cymru Fyw
Bydd Carwyn Jones yn ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog am y tro olaf ar 11 Rhagfyr, ac yna cyflwyno'i ymddiswyddiad i'r Frenhines.
Bydd Mr Drakeford yn cael ei enwebu, ac yn debygol o gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog gan y Senedd ar 12 Rhagfyr.
Y disgwyl yw y bydd o leiaf un o'r gwrthbleidiau yn enwebu eu harweinydd nhw i'r swydd - mae Plaid Cymru eisoes wedi dweud y byddan nhw'n enwebu Adam Price a'r Ceidwadwyr yn dweud eu bod yn bwriadu enwebu Paul Davies.
Ond mae'n debyg mai arweinydd Llafur fydd yn cael y swydd gan fod gan y blaid fwyafrif yn y Cynulliad gyda chefnogaeth y Democrat Rhyddfrydol, Kirsty Williams a'r AC annibynnol, yr Arglwydd Elis-Thomas.
Ddydd Mawrth bydd Carwyn Jones yn cael ei holi gan ACau am y tro olaf fel Prif Weinidog
Canolfan Llywodraethiant Cymru
Mae'r arbenigwr gwleidyddol, yr Athro Roger Scully, wedi awgrymu nad oedd canlyniad terfynol y bleidlais mor bendant o blaid Mr Drakeford ag yr oedd pobl wedi'i ddyfalu.
Fe aeth y bleidlais i ail rownd, wedi i AC Gorllewin Caerdydd fethu a sicrhau mwyafrif yn y rownd gyntaf.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Mae Mr Drakeford eisoes ar y ffôn gydag arweinydd Prydeinig y blaid, sgwn i beth mae'r ddau yn ei drafod...?
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Twitter
Mae cyn-arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd Mr Drakeford yn gwrthwynebu ffordd liniaru arfaethedig yr M4, os yw'n cael ei ddewis yn Brif Weinidog wrth gwrs...
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Twitter
Mae gan ohebydd ITV ambell i ffaith ddifyr am Mark Drakeford...
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ceidwadwyr Cymreig
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Paul Davies wedi llongyfarch Mr Drakeford am ennill yr etholiad.
Ond ychwanegodd fod ganddo "dasg enfawr" o'i flaen a bod pobl yn "gweiddi am newid" yn dilyn "degawdau o fethiant gan y blaid Lafur".
"Mae gan Mark Drakeford fandad i arwain y blaid Lafur, ond does ganddo ddim mandad i arwain pobl Cymru," meddai Mr Davies.
"Dim ond etholiad Cynulliad a rhoi'r cynnig i'r cyhoedd gymeradwyo ei gynlluniau, neu ddim."
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
Mae'r dyfalu ar ben, ac mae Vaughan Roderick yn sicr yn falch o hynny...
"O'r diwedd.
"Mae Llafur Cymru wedi dewis ei arweinydd nesaf ac wythnos nesaf fe fydd gan Gymru Brif Weinidog newydd ar ddiwedd proses oedd yn boenus o hir a chwbl ddiangen.
"Mae gen i un gair o gyngor i'r dyn newydd cyn cychwyn. Pan ddaw hi'n amser i ti fynd, Mark bach, cyhoedda a cher.
"Dyw ymbalfalu o gwmpas am fisoedd fel y chwaden gloffa y gwelodd dyn erioed yn gwneud dim lles i unrhyw un."
Twitter
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi llongyfarch Mr Drakeford ond wedi dweud hefyd bod angen "syniadau o'r newydd" ar Gymru.
"Ar adeg mor bwysig, mae Cymru angen mwy na newid arwynebol o arweinydd Llafur," meddai.
"Dyma hen wynebau yn cyflwyno hen syniadau i genedl sydd wedi hen symud yn ei blaen."
BBC Cymru Fyw
Mae Mr Drakeford yn parhau wrth ddweud ei fod eisiau i'r blaid Lafur barhau yn nhraddodiad sosialaidd ffigyrau fel Aneurin Bevan, Michael Foot a Rhodri Morgan.
Mae gan y blaid, meddai, syniadau newydd ar gyfer cyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
"Rydym yn benderfynol yn ein dyletswydd i sicrhau bod ein dyddiau mwyaf radical o'n blaenau ni," meddai.
Mae'n gorffen drwy ategu neges Jeremy Corbyn y bydd Llafur yn gweithio "dros y llu, nid y llond dwrn".
Dyma oedd y foment cafodd Mark Drakeford ei ethol yn arweinydd nesaf.
Dim syndod meddai Daniel Davies, ond gallai fod ei gefnogwyr wedi disgwyl iddo ennill yn y rownd gyntaf o gyfri'r pleidleisiau.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Mark Drakeford yn dweud ei fod yn "falch iawn" o'r gefnogaeth mae wedi'i dderbyn yn ystod yr ymgyrch arweinyddol.
Gan ddiolch i'r ddau ymgeisydd arall, mae hefyd yn dweud fod y blaid Lafur wedi ei "chryfhau" gan yr ymgyrch.
Mae'n dweud y bydd Llafur Cymru yn gwneud "popeth i sicrhau bod llywodraeth Lafur yn San Steffan" i gydweithio gyda'r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.
BBC Cymru Fyw
Dyma oedd canlyniad rownd gyntaf y pleidleisio:
Mark Drakeford - 46.9%
Vaughan Gething - 30.8%
Eluned Morgan - 22.3%
Yn yr ail rownd, ar ôl ailddosbarthu pleidleisiau Eluned Morgan:
Mark Drakeford - 53.9%
Vaughan Gething - 41.4%
BBC Cymru Fyw
Mark Drakeford yw arweinydd newydd Llafur Cymru.
Vaughan Gething oedd yn ail, gydag Eluned Morgan yn drydydd.
Nid oedd gan yr un ymgeisydd ddigon o fwyafrif wedi'r rownd gyntaf, felly roedd rhaid mynd i'r ail rownd o gyfri'.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Carolyn Harris sy'n barod i gyhoeddi.
Mae'r ymgeiswyr ar y llwyfan.
BBC Cymru Fyw
Mae gorffen drwy ddiolch i'r blaid a'r cyhoedd, drwy ddweud mai arwain Llafur a Cymru yw'r fraint fwyaf iddo ei gael yn ei fywyd, ac ychwanegu ei fod yn edrych ymlaen at flynyddoedd lawer o waith da gan Lafur i ddod.
BBC Cymru Fyw
Mae'n dweud bod y tri ymgeisydd yn gredyd i'r blaid, ac yn dymuno'r gorau i bwy bynnag fydd yn cael ei ethol.
BBC Cymru Fyw
Mae'r "naw mlynedd diwethaf wedi gwibio" meddai Carwyn Jones wrth siarad ar y llwyfan, gan drafod rai o lwyddiannau ei gyfnod yn y swydd.