Ymgeiswyr yn dod yn ôl i mewnwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2018
BBC Cymru Fyw
Mae'r ymgeiswyr yn dod yn ôl i mewn i'r ystafell.
Bydd Carwyn Jones yn annerch y gynulleidfa cyn i ni glywed y canlyniad...
Mark Drakeford, Vaughan Gething ac Eluned Morgan sy'n ymgeisio am y rôl
Carwyn Jones sydd wedi bod yn arweinydd ers 2009
Roedd gan tua 175,000 o bobl yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad
Disgwyl i enillydd yr ornest hefyd ddod yn brif weinidog nesaf Cymru
BBC Cymru Fyw
Mae'r ymgeiswyr yn dod yn ôl i mewn i'r ystafell.
Bydd Carwyn Jones yn annerch y gynulleidfa cyn i ni glywed y canlyniad...
BBC Cymru Fyw
Mae'n debyg bod y tri ymgeisydd yn cael gwybod am y canlyniad nawr, a bod disgwyl cyhoeddiad yn y munudau nesaf.
BBC Cymru Fyw
Mae'r drefn bleidleisio yn dilyn system debyg i'r modd y mae pleidiau eraill yn dewis eu harweinwyr.
Roedd gan tua 175,000 o bobl yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad fel aelodau Llafur neu o undebau llafur cysylltiedig.
Roedd aelodau'n dewis eu hoff ymgeisydd, ac os oes unrhyw un o'r tri wedi cael dros 50% o'r bleidlais yn y rownd gyntaf, nhw sy'n ennill.
Os ddim, bydd y person sy'n drydydd allan o'r ornest, a bydd eu pleidleisiau nhw'n cael eu didoli rhwng y ddau sy'n weddill, yn dibynnu pwy roedd aelodau wedi rhoi fel ail ddewis.
Am y tro cyntaf eleni mae'r ornest yn defnyddio system un-aelod-un-bleidlais - sy'n golygu bod pleidlais pob aelod o'r blaid Lafur yn cyfrif yn gyfartal.
BBC Cymru Fyw
Mae'r bwcis yn sicr yn meddwl mai Mr Drakeford yw'r ffefryn, gyda Betway yn cynnig ods o 1/4 ar fuddugoliaeth i AC Gorllewin Caerdydd.
Maen nhw'n cynnig 3/1 ar gyfer Vaughan Gething, a 10/1 ar gyfer Eluned Morgan.
Ond dyw gwleidyddiaeth ddim mor syml â hynny - cofiwch na wnaeth y bwcis roi gobaith mul i Jeremy Corbyn ar ddechrau'r ornest wnaeth ei wneud e'n arweinydd Llafur y DU.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daniel Davies
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Ar Twitter mae ein gohebydd gwleidyddol Daniel Davies wedi bod yn cloriannu gobeithion yr ymgeiswyr.
Mae'n cytuno â Vaughan mai Mr Drakeford sydd â chefnogaeth y mwyafrif, ond mae carfanau'r ymgeiswyr eraill yn dal i gredu bod siawns ganddyn nhw.
Amser a ddengys...
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
Yn ôl ym mis Tachwedd fe wnaeth ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick fwrw golwg ar obeithion y tri sydd yn y ras.
"Does dim dwywaith" mai Mr Drakeford yw'r ceffyl blaen, ond gallai hynny fod yn "anfantais", meddai Vaughan.
BBC Cymru Fyw
Mark Drakeford sydd wedi ei weld fel y ceffyl blaen gan y mwyafrif, ac mae wedi dweud ei fod ar ochr "radical, sosialaidd" y blaid.
Dywedodd hefyd fod ei brofiad yn y cabinet "wedi ei baratoi cymaint ag sy'n bosib i wneud y swydd".
Bu'n ymgynghorydd i Rhodri Morgan cyn dod yn AC yn 2011, a chyn hynny bu'n gweithio fel swyddog prawf a gweithiwr cyfiawnder i bobl ifanc.
Vaughan Gething oedd yr ail i sicrhau digon o enwebiadau i fod ar y papur pleidleisio, ac ymysg ei addewidion mae "trawsnewid y ffordd yr ydym yn delio â thlodi".
Yn ystod yr ymgyrch fe wnaeth Mr Gething, sydd o blaid cynnal refferendwm arall ar Brexit, feirniadu "tôn" ei gyd-ymgeisydd, Mark Drakeford, ar y mater.
Ymunodd â'r Cynulliad yn 2011, ond cyn hynny roedd yn gyfreithiwr ac yn llywydd ieuengaf erioed y TUC.
Dywedodd Eluned Morgan y byddai'n canolbwyntio ar iechyd cyhoeddus a'r economi petai'n cael ei hethol yn arweinydd.
Mae hi hefyd wedi dweud ei bod am "ysgwyd pethau yn y Cynulliad" gyda'i phrofiad o Dŷ'r Arglwyddi a Senedd Ewrop.
Hi oedd yr ASE ieuengaf pan gafodd ei hethol yn 1994, ac fe gafodd deitl y Farwnes Morgan o Drelái yn 2011. Mae hi hefyd wedi gweithio i ddatblygu busnes cwmni ynni SSE.
BBC Cymru Fyw
Prynhawn da a chroeso i'n llif byw arbennig wrth i Lafur Cymru gyhoeddi pwy fydd arweinydd nesaf y blaid.
Mark Drakeford, Vaughan Gething ac Eluned Morgan sy'n gobeithio olynu Carwyn Jones.
Mae disgwyl y cyhoeddiad ar ôl 14:30, ac fe allwch chi wylio'r digwyddiad yng Nghaerdydd drwy'r linc uchod.