Crynodeb

  • 200 o aelodau'n cefnogi, 117 yn gwrthwynebu

  • Grŵp o ASau Ceidwadol yn ceisio cael gwared ar Theresa May fel Prif Weinidog

  • Mrs May angen 159 pleidlais i aros fel Prif Weinidog

  • ASau Ceidwadol wedi cynnal pleidlais gudd rhwng 18:00 ac 20:00

  • Disgwyl canlyniad y bleidlais am 21:00

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 21:45 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ni o ran yr ymateb ar ein llif byw am heno.

    Mae Theresa May wedi goroesi'r bleidlais o hyder ynddi, a hynny o 200 i 117.

    Ond mae cwestiynau'n parhau ynglŷn â'i harweinyddiaeth, ac i ba raddau y mae hyn yn cryfhau neu'n gwanhau ei safle pan mae'n dod at geisio pasio ei chytundeb Brexit.

    TM
  2. Gwerth y bunt yn codiwedi ei gyhoeddi 21:43 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    Newyddion 9

    Mae gwerth y bunt wedi codi yn sgil y canlyniad heno.

    Dywedodd yr arbenigwr ariannol Mark Walter wrth Newyddion 9 fod hynny'n arwydd fod y "farchnad yn cefnogi May".

  3. 'May angen gwrando ar ASau'wedi ei gyhoeddi 21:40 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    BBC Cymru Fyw

    AS Gorllewin Clwyd, David Jones oedd yr unig un o Gymru i ddweud o flaen llaw nad oedd am gefnogi Theresa May.

    "Mae hwn yn ganlyniad anodd i'r prif weinidog," meddai. "Mae dros draean o'r blaid seneddol wedi colli hyder ynddi.

    "Mae angen iddi nawr wrando ar bryderon ei chyd-aelodau a sicrhau newidiadau i'w chytundeb ymadael.

    "Os nad yw hi'n gwneud hynny does ganddo ddim gobaith o basio."

  4. May'n canolbwyntio ar 'uno'r wlad'wedi ei gyhoeddi 21:36 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae Theresa May wedi bod yn siarad y tu allan i 10 Downing Street gan ddweud ei bod hi'n canolbwyntio ar "sicrhau'r Brexit wnaeth bobl bleidleisio amdano, uno'r wlad ac adeiladu gwlad sy'n gweithio i bawb".

    Ychwanegodd ei bod yn deall bod gwrthwynebiad i'w chynllun, ac y byddai'n parhau i geisio cael sicrwydd gan yr UE.

    Tm
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Diwedd neges twitter
  5. Gair o rybudd gan David Davieswedi ei gyhoeddi 21:33 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae AS Ceidwadol Mynwy wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod yn "falch" bod Mrs May wedi ennill.

    Dywedodd: "Dwi'n gobeithio y bydd hi'n glir iawn os nad yw pobl yn fodlon derbyn y cyfaddawd o Frexit y mae hi'n ei gynnig yna mae'n rhaid symud tuag at y Brexit llawn wnaeth bobl bleidleisio drosto."

    Ychwanegodd ei fod yn "anodd dweud" os oedd y bleidlais wedi niweidio ei harweinyddiaeth.

  6. Canlyniad 'gwell na'r disgwyl'wedi ei gyhoeddi 21:29 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    BBC Radio Cymru

    "Mae'n well nag yr o'n i wedi'i ddisgwyl," meddai AS Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, wrth drafod y canlyniad gyda Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru.

    Dywedodd Mr Davies ei fod wedi ofni y byddai'r canlyniad wedi bod yn llawer agosach ac y byddai wedi bod yn fodlon petai Mrs May wedi ennill o un bleidlais.

    "Ond mae'n her iddi hi ac mae'n her i'r blaid," meddai.

  7. Refferendwm arall yn 'fwy tebygol'wedi ei gyhoeddi 21:27 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    Newyddion 9

    Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod "dim byd yn mynd i newid" o ran trafferthion Mrs May wrth geisio pasio ei chytundeb Brexit yn y Senedd.

    "Gadewch i ni gymryd cam yn ôl... mae pobl eisiau newid, rhywbeth i ddigwydd," meddai.

    "Beth ni wedi cael nawr yw gêm ar yr ochr gan y blaid Geidwadol ar yr adeg bod angen rhywbeth i newid."

    Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan wrth Newyddion 9 ei bod hefyd yn teimlo ei fod yn "fwy tebygol" y bydd refferendwm arall ar Brexit yn sgil y bleidlais heno.

  8. 'Bydd May yn siomedig'wedi ei gyhoeddi 21:25 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    Newyddion 9

    Mae'r cyn-ymgeisydd Ceidwadol Felix Aubel - ymgyrchydd cadarn o blaid Brexit - yn dweud ei fod dal yn anhapus gyda chytundeb Brexit Theresa May.

    Mae'n llongyfarch Mrs May ar ennill y bleidlais, ond hefyd yn dweud y bydd hi'n "siomedig" bod 117 o'i haelodau wedi pleidleisio yn ei herbyn.

    Os ydy'r ASau hynny hefyd yn gwrthwynebu ei Chytundeb Ymadael, meddai, does ganddi ddim gobaith o'i basio.

  9. Canlyniad ddim yn ddigonol medd AS Llafurwedi ei gyhoeddi 21:22 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae hynny'n safbwynt sy'n cael ei rannu gan yr AS Llafur Stephen Doughty, sy'n dweud nad yw'n ddigon yn y tymor hir.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Sgrym am ymateb Rees-Moggwedi ei gyhoeddi 21:21 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    Twitter

    Mae 'na gryn ddiddordeb ym marn yr AS Jacob Rees-Mogg wedi'r canlyniad, gan ei fod wedi bod mor bendant yn ei wrthwynebiad o Theresa May.

    Er y gefnogaeth i Mrs May, mae Mr Rees-Mogg wedi dweud ei fod yn ganlyniad gwael iawn iddi.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. 'May ddim yn neidio i fyny ac i lawr'wedi ei gyhoeddi 21:17 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    Tweli Griffiths
    Sylwebydd gwleidyddol

    "Dwi ddim yn meddwl bod hi'n neidio i fyny ac i lawr mewn gorfoledd," meddai'r sylwebydd gwleidyddol Tweli Griffiths ar Radio Cymru heno, yn ymateb i'r bleidlais.

    Dywedodd fod Theresa May wedi dangos "dycnwch", "stamina" a "dewrder" yn ddiweddar, ac mae'n amau fod araith "emosiynol iawn, mae'n debyg, i'w haelodau'r p'nawn 'ma" wedi sicrhau'r gefnogaeth oedd angen arni i aros yn y swydd.

  12. Glyn Davies wedi disgwyl 'pleidlais agos'wedi ei gyhoeddi 21:15 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    Newyddion 9

    Mae AS Sir Drefaldwyn, Glyn Davies yn dweud ei fod wedi disgwyl "pleidlais agos" a'i fod yn synnu bod cyn lleied o aelodau wedi gwrthwynebu Theresa May.

    Roedd Mr Davies yn un o'r rheiny wnaeth ddatgan ei gefnogaeth iddi.

  13. 'Paffio fel cathod mewn bag'wedi ei gyhoeddi 21:14 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    Newyddion 9

    Ar Newyddion 9 mae'r cyn-ymgeisydd Ceidwadol, Tomos Dafydd Davies wedi dweud nad yw'n derbyn fod Mrs May wedi colli hygrededd yn dilyn y bleidlais.

    Mae'n ychwanegu bod yr ASau wnaeth alw'r bleidlais yn "fyrbwyll".

    Dywedodd Melanie Owen, sy'n ymgyrchydd o blaid Brexit fod y bleidlais wedi bod yn "wastraff o amser" y Prif Weinidog ac ASau.

    "Maen nhw'n paffio fel cathod mewn bag dros rywbeth does gan bobl cyffredin ddim diddordeb ynddo."

  14. 'Dim hygrededd nac awdurdod'wedi ei gyhoeddi 21:11 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    Twitter

    Mae Mark Drakeford wedi ymateb i'r newyddion heno drwy alw ar Theresa May i ymestyn cyfnod Erthygl 50 ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

    Yn ôl darpar brif weinidog Cymru, does ganddi ddim "hygrededd" nac "awdurdod" bellach.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. 'Ddim yn ganlyniad gwych'wedi ei gyhoeddi 21:08 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Er y fuddugoliaeth, nid yw'n ganlyniad gwych i Theresa May, yn ôl Elliw Gwawr

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Aelodau'n 'hapus iawn'wedi ei gyhoeddi 21:06 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Crabb yn croesawuwedi ei gyhoeddi 21:03 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    Twitter

    Mae AS Preseli Penfro yn croesawu'r canlyniad

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. 200 AS yn ei chefnogiwedi ei gyhoeddi 21:02 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    BBC Cymru Fyw

    Fe wnaeth 200 o ASau Ceidwadol ddweud bod ganddyn nhw hyder yn Mrs May, gyda 117 yn dweud nad oedd ganddyn nhw hyder ynddi.

  19. Theresa May wedi ENNILL y bleidlaiswedi ei gyhoeddi 21:00 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae Theresa May yn aros fel arweinydd y Ceidwadwyr

  20. Cyhoeddiad yn fuan iawnwedi ei gyhoeddi 20:57 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r canlyniad ar fin cael ei gyhoeddi yn San Steffan...