Crynodeb

  • 200 o aelodau'n cefnogi, 117 yn gwrthwynebu

  • Grŵp o ASau Ceidwadol yn ceisio cael gwared ar Theresa May fel Prif Weinidog

  • Mrs May angen 159 pleidlais i aros fel Prif Weinidog

  • ASau Ceidwadol wedi cynnal pleidlais gudd rhwng 18:00 ac 20:00

  • Disgwyl canlyniad y bleidlais am 21:00

  1. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 19:30 Amser Safonol Greenwich 12 Rhagfyr 2018

    BBC Cymru Fyw

    Noswaith dda, a chroeso i'n llif byw arbennig wrth i'r Prif Weinidog Theresa May wynebu pleidlais dyngedfennol heno.

    Yn gynharach heddiw daeth cadarnhad fod digon o ASau Ceidwadol wedi cyflwyno llythyrau yn galw am her i'w harweinyddiaeth.

    Mae'n golygu fod holl ASau'r blaid yn cael pleidlais heno i benderfynu a oes ganddyn nhw dal hyder yn Mrs May.

    theresa mayFfynhonnell y llun, Reuters