Crynodeb

  • Hitachi yn cyhoeddi eu bod yn atal cynllun Wylfa Newydd

  • Y cwmni o Japan yn dweud fod y risg ariannol yn rhy uchel

  • Llywodraethau Cymru a'r DU yn dweud y byddan nhw'n cynnal trafodaethau pellach

  • Ond ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn croesawu'r newyddion

  1. Mwy ar Taro'r Postwedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Dyna ni am y tro ar ein llif byw - diolch am ymuno gyda ni.

    Gallwch barhau i ddarllen y newyddion diweddaraf am gyhoeddiad Wylfa Newydd ar dudalen Cymru Fyw yn ystod y dydd.

    Bydd mwy o drafod hefyd ar raglen Taro'r Post heddiw, ac fe fydd gan Garry Owen yr ymateb diweddaraf o Ynys Môn am 13:00.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. 'Testun pryder' medd Drakefordwedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Llywodraeth Cymru

    Mae penderfyniad Hitachi i atal y gwaith yn destun pryder ar gyfer gogledd Cymru a'r DU yn gyffredinol, yn ôl Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Teimladau cymysg i un llancwedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Carwyn Jones yn 19 oed ac o Lannerch-y-medd ar Ynys Môn, ac mae'n dweud bod "llawer o resymau pam y dylwn i fod yn ddiolchgar am Wylfa" gan fod ei dad a'i daid wedi gweithio yn y diwydiant niwclear ar yr ynys.

    Ond er hynny, mae'n dweud ei fod yn "bryder mawr" bod ail atomfa yn parhau dan ystyriaeth.

    "Wrth feddwl am drychinebau megis Chernobyl a Fukushima, mae'r posibiliadau o hynny'n digwydd ar yr ynys yn cronni yng nghefn fy mhen yn aml iawn.

    "Mae sefyllfa'r Gymraeg yn ardal yr Wylfa a'r cyffiniau wedi gostwng yn sylweddol, ac mae pryder mawr gen i am ddyfodol yr iaith ar yr ynys yn y dyfodol."

    Carwyn Jones
  4. Hitachi: 'Brexit ddim yn ffactor'wedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae llywydd a phrif weithredwr Hitachi fodd bynnag wedi mynnu nad oedd Brexit yn ffactor ym mhenderfyniad y cwmni i atal gwaith ar Wylfa Newydd.

    Dywedodd Toshiaki Higashihara nad oedd y cwmni wedi gallu sicrhau buddsoddwyr eraill ar gyfer y prosiect er mwyn rhannu'r risg ariannol.

    "Does dim cysylltiad rhwng y penderfyniad rydyn ni wedi ei gymryd a'r ansicrwydd ynghylch Brexit. Dydy hynny heb ddylanwadu ar ein penderfyniad," meddai.

  5. Economi'r DU yn 'pydru'n araf'wedi ei gyhoeddi 11:13 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Democratiaid Rhyddfrydol

    Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, hefyd o'r farn bod cyhoeddiad Wylfa yn newyddion ofnadwy i bobl Ynys Môn.

    "Mae'r atomfa i fod i ddarparu miloedd o swyddi a chyfrannu at ein hymdrech i ddefnyddio llai o danwyddau ffosil," meddai.

    "Mae'n dystiolaeth bellach o'r pydru araf sy'n digwydd i economi'r DU yn sgil Brexit."

    Jane Dodds
  6. Ymateb rhai o'r disgyblion lleolwedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Yn gynharach bu rhaglen y Post Cyntaf yn casglu barn rhai o ddisgyblion Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, sydd ychydig filltiroedd o safle Wylfa.

    “Dwi’n meddwl fod Wylfa yn syniad arbennig i’r ardal," meddai Elen.

    "Byddai'n dod â swyddi gwahanol nid yn unig i ddynion ond i ferched. Mae’n rhoi Sir Fôn ar y map.”

    Barn wahanol oedd gan Eve: “Mae angen mwy o ymchwil i ynni niwclear – does gennym ni ddim ffordd o gael gwared ar y gwastraff.

    “Dwi yn erbyn ar y cyfan, ond dwi’n meddwl fod o’n dda cael swyddi yn yr ardal.”

  7. 'Technoleg ddoe ydy niwclear'wedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Un arall sydd ddim eisiau gweld yr atomfa newydd yn cael ei chodi yw'r Parchedig Emlyn Richards o Gemaes, un o sylfaenwyr grŵp ymgyrchu PAWB.

    Serch hynny mae'n dweud mai “tristwch” yn hytrach na gorfoledd yw ei brif emosiwn heddiw.

    “Mae’r gair ansicrwydd wedi hongian o gwmpas yma," meddai.

    “’Swn i’n licio gofyn i’r ddau gyngor faint sydd wedi ei wario yma? Nid ateb i ddiweithdra Môn yw dod a 9,000 i dawelwch cefn gwlad yr ynys.

    “Technoleg ddoe ydy niwclear.”

  8. 'Mae oes ynni niwclear wedi darfod'wedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Plaid Werdd Cymru

    Mae dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr, Amelia Womack, wedi croesawu'r newyddion gan honni ei fod yn dangos bod "oes ynni niwclear bellach wedi darfod".

    "Erbyn hyn mae yna sawl math o ynni adnewyddol sydd yn lanach, yn rhatach, yn fwy effeithlon a ddim hanner mor debygol o gael effaith dinistriol ar yr amgylchedd," meddai.

    "Nawr yw'r amser i Lywodraeth San Steffan fuddsoddi yng nghynllun Morlyn Abertawe a phrosiectau eraill fyddai'n diogelu dyfodol ynni glân Cymru."

    morlyn bae abertaweFfynhonnell y llun, TLP
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Gwyrddion wedi galw am atgyfodi cynlluniau morlyn llanw Bae Abertawe yn sgil y cyhoeddiad am Wylfa

  9. Effaith ar brisiau tai?wedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Twitter

    Mae'r ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol yn parhau i ddod - gyda phryder ynghylch y camau nesaf yn amlwg ar flaen meddyliau pobl.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Diwedd neges twitter 2

    I osgoi neges twitter 3

    Diwedd neges twitter 3
  10. 'Pryderon am gostau ac ansicrwydd niwclear'wedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae'n gohebydd amgylchedd ni, Steffan Messenger, wedi bod yn edrych ar rai o'r pryderon allai fod wedi arwain at y penderfyniad i ohirio'r cynllun - a holi beth nesaf i Wylfa.

    "Roedd dod o hyd i fuddsoddwyr i dalu am y gost o adeiladu'r atomfa - oedd yn 2018 wedi dyblu yn ôl rhai adroddiadau i £20bn - yn ymddangos fel petai'n gam yn rhy bell," meddai.

    "Ac roedd trafodaethau â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r pris fyddai'n rhaid ei dalu am drydan o'r safle yn dal i fethu a sicrhau unrhyw ymrwymiadau clir.

    "Mae adroddiadau hefyd bod ansicrwydd yn sgil Brexit, a phryderon cynyddol ynglŷn ag ynni niwclear yn Japan yn dilyn trychineb Fukushima yn 2011 wedi chwarae'u rhan.

    "Ac yn y cyfamser, mae cost technolegau ynni adnewyddadwy wedi parhau i syrthio, gan wneud i ynni niwclear ymddangos yn llai a llai dymunol."

    wylfaFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Cyfarfod arbennig o Gyngor Mônwedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Cyngor Ynys Môn

    Mae Arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, wedi dweud ei bod wedi siomi o glywed y cyhoeddiad ar Wylfa Newydd.

    "Mae’r Cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru, Ken Skates, er mwyn pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr oediad yma’n cael ei oresgyn fel ein bod yn llwyddo i greu’r swyddi o safon a’r cyfleoedd i fusnesau, sydd wir eu hangen, am flynyddoedd i ddod.

    “Er hyn, fy mhryder pennaf yw’r effaith gaiff y penderfyniad yma ar ddynion a merched lleol sydd â’u gwaith dan fygythiad nawr oherwydd yr oediad, yn enwedig y rhai sydd wedi eu lleoli ar safle Wylfa Newydd yng ngogledd yr ynys."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. 'Angen ymateb ar frys'wedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Plaid Cymru

    Mae'n rhaid i lywodraethau Cymru a'r DU ymateb ar frys i gyhoeddiad Hitachi yn ôl AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth.

    "Mae'n rhaid i ni edrych ar sut i symud yn ein blaenau wedi'r cyhoeddiad," meddai.

    "Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddangos eu bod nhw o ddifrif am gefnogi Wylfa. Nid yw eu gweithredoedd hyd yn hyn wedi arwain at rhyw lawer."

    Dywedodd ei fod eisoes wedi gwthio am ymateb ar frys gan Lywodraeth Cymru.

    "Wrth gyflwyno cwestiwn yn y Cynulliad ddoe, fe wnes i ddadlau o blaid buddsoddi mewn sgiliau, isadeiledd a denu cyfleoedd economaidd newydd i Ynys Môn.

    "Er bod prosiectau cyffrous eraill ar Ynys Môn... mae maint cynllun Wylfa, gyda dros 800 o swyddi yn y fantol, yn golygu y byddai bwlch enfawr os yw'r ataliad yma yn un hir dymor."

    Rhun ap Iorwerth
  13. Colli swyddi'n debygolwedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Rydyn ni'n deall mai tua 40 o staff sydd yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Horizon ar y safle yn Ynys Môn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Llywodraeth y DU 'yn barod i drafod'wedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi dweud ei fod yn parhau i gefnogi datblygiad niwclear yng ngogledd Cymru er gwaethaf cyhoeddiad Hitachi heddiw.

    "Nid yw'r cyhoeddiad heddiw yn golygu diwedd ar gyfer cyfleoedd yn Wylfa," meddai.

    "Mae pawb yn parhau i weld potensial yn y safle ac mae Llywodraeth y DU yn barod i drafod yr opsiynau ar gyfer Hitachi neu bartneriaid eraill i gyflenwi niwclear newydd yng ngogledd Cymru."

    Dywedodd fod cefnogaeth Llywodraeth y DU i'r diwydiant niwclear yn y gogledd yn ychwanegol i'r £120m sydd wedi'i ymrwymo i Fargen Dwf Gogledd Cymru.

    alun cairns
  15. Ymateb cymysgwedi ei gyhoeddi 10:03 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Twitter

    Mae'r ymateb cymhleth i'r cyhoeddiad heddiw yn cael ei adlewyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Yn gymysg ag amheuaeth ynglŷn ag ynni niwclear mae pryder ynghylch y dyfodol i economi a swyddi pobl ar yr ynys.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 3

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 3
  16. 'Ergyd enfawr'wedi ei gyhoeddi 09:56 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Unite

    Mae'r cyhoeddiad bod Hitachi yn atal gwaith ar Wylfa Newydd yn "newyddion ofnadwy" i economi Cymru, ac i'r gogledd orllewin yn enwedig.

    Dyna ymateb ysgrifennydd rhanbarthol undeb Unite, Peter Hughes, sy'n credu ei fod yn "ergyd enfawr" i obeithion rhai o'r cymunedau sydd fwyaf mewn angen.

    "Er mai penderfyniad Hitachi yw hyn yn y pen draw, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU dderbyn rhywfaint o'r bai," meddai.

  17. Galw am gefnogaeth gan Drakefordwedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae'r AC Ceidwadol Andrew RT Davies wedi galw ar Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford i ategu ei gefnogaeth i'r diwydiant niwclear yn dilyn y cyhoeddiad heddiw.

    Cafodd Mr Drakeford ei feirniadu yn ystod ymgyrch arweinyddol Llafur Cymru yn dilyn honiadau ei fod wedi gwneud sylwadau yn cwestiynu budd ynni niwclear.

    "Mae angen iddo ddatgan ei gefnogaeth yn gyhoeddus achos ar ddiwedd y dydd, pobl gogledd Cymru fydd ar eu colled os oes teimlad nad oes cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru," meddai Mr Davies.

    Ychwanegodd: "Mae angen i'r prif weinidog chwifio'r faner dros ein diwydiant niwclear os oes gan Wylfa unrhyw siawns o ddigwydd."

    andrew rt daviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn dathluwedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Nid pawb sydd wedi eu siomi gyda'r cyhoeddiad heddiw gan Hitachi. Mae grŵp Pobl Atal Wylfa B (PAWB) wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cael atomfa niwclear arall ar Ynys Môn ers blynyddoedd.

    Mewn datganiad heddiw fe ddywedodd y mudiad fod y cyhoeddiad yn "rhyddhad i bob un ohonom sy'n poeni am ddyfodol ein hynys, ein gwlad, ein hiaith, yr amgylchedd ac yn wir am ynni adnewyddadwy".

    "Mae dros ddegawd wedi ei wastraffu ar Wylfa, ac ychydig iawn o gynllunio economaidd amgen wedi digwydd," meddai'r grŵp.

    "Addawyd swyddi i'n pobl ifanc ar seiliau simsan. Difethwyd tir da i greu isadeiledd i gefnogi'r diwydiant.

    "Bellach, mae'n bryd i wleidyddion a swyddogion llywodraethau'r Deyrnas Gyfunol, Llywodraeth Cymru ac Ynys Môn syrthio ar eu bai."

  19. 'Coblyn o glec i'r ardal'wedi ei gyhoeddi 09:35 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Derec Owen, cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbadrig, yn un o'r rheiny sy'n pryderu am effaith gohirio'r cynllun.

    "Bydd o'n goblyn o glec i bobl yn yr ardal. Y broblem efo melinau gwynt ydy tydi o ddim yn creu lot o waith," meddai yn gynharach ar y Post Cyntaf.

    "Gyda Wylfa mi fuasai o wedi creu 800 o swyddi. Lle arall gewch chi 800 o swyddi yng ngogledd Môn neu ogledd Cymru?

    Mae hwn yn un o gynlluniau mwyaf gorllewin Ewrop. Mae'n bryd i'r llywodraeth ymyrryd."

    derec owen
  20. 'Chwilio am fuddsoddwyr newydd'wedi ei gyhoeddi 09:28 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Llywodraeth Cymru

    Ddoe fe ddywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates ei fod yn gobeithio na fyddai cynllun Wylfa Newydd yn cael ei atal.

    Dywedodd Mr Skates y byddai'n cyfarfod ag arweinydd Cyngor Môn i drafod camau pellach wedi cyhoeddiad Hitachi.

    Ychwanegodd y gweinidog fod aros am fuddsoddwr arall neu i Lywodraeth y DU fuddsoddi ymhellach a gwladoli'r fenter yn opsiynau posib.

    "Os caiff y prosiect ei atal, yna mae'n rhaid i ni ddechrau gweithio'n syth ar hyd y llywodraethau a gydag awdurdodau lleol a gyda'r gymuned fusnes i sicrhau bod yna gyfleoedd gwaith yn y tymor byr wrth i ni chwilio am fuddsoddwr newydd," meddai.

    ken skates