Crynodeb

  • Hitachi yn cyhoeddi eu bod yn atal cynllun Wylfa Newydd

  • Y cwmni o Japan yn dweud fod y risg ariannol yn rhy uchel

  • Llywodraethau Cymru a'r DU yn dweud y byddan nhw'n cynnal trafodaethau pellach

  • Ond ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn croesawu'r newyddion

  1. Costau cynyddol?wedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Fe ddaeth adroddiadau i'r fei yr wythnos diwethaf bod Hitachi yn ystyried cefnu ar eu cynlluniau £12bn i adeiladu'r orsaf niwclear.

    Yn ôl asiantaeth newyddion yn Japan, pryderon am gynnydd pellach yng nghostau adeiladu'r pwerdy oedd wrth wraidd y penderfyniad.

    Ond bu rhywfaint o ddyfalu hefyd fod ansicrwydd ynghylch y prosiect yn ymgais gan Hitachi i gael cytundeb ariannol gwell gan lywodraethau Prydain a Japan.

  2. 'Angen sortio'r cyllid'wedi ei gyhoeddi 09:22 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    Cyngor Ynys Môn

    Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, yr aelod o Gyngor Sir Ynys Môn sydd â chyfrifoldeb am Ddatblygu Economaidd, bod y cynllun wedi cyrraedd "adeg tyngedfennol... lle mae'r cyllido yn cael ei sortio allan".

    "Beth mae Hitachi wedi bod isio o'r dechrau, 'swn i'n ddeud, ydy darparu'r adweithyddion.

    "Cwmni technoleg ydyn nhw, a dwi'n meddwl bod nhw'n gweld eu hunain yn mynd yn bellach ac yn bellach tuag at fod yn rhedeg pwerdy niwclear.... project rhy fawr i gwmni preifat."

    carwyn jones
  3. Aelod Seneddol am godi'r materwedi ei gyhoeddi 09:19 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae AS Llafur Ynys Môn, Albert Owen wedi ymateb drwy ddweud bod yn "rhaid i bawb ddod at ei gilydd rŵan a cadw'r project i fynd", ond mai Llywodraeth y DU yn unig sydd mewn sefyllfa i roi'r sicrwydd y mae datblygwyr ei angen cyn buddsoddi.

    Mae'r sefyllfa, meddai, fel yn achos cwymp cynllun morlyn Bae Abertawe, yn arwydd nad ydi'r ffyrdd arferol o ariannu prosiectau uchelgeisiol o'r fath yn gweithio bellach, sy'n egluro pam ei bod hi'n anodd sicrhau buddsoddiad gan ddatblygwyr.

    "Dydy'r model ariannol ddim yn iawn ac mae'n rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ni yn cael o'n iawn," meddai.

    Mae'n bwriadu codi'r mater yn San Steffan yn ystod y dydd.

    albert owen
  4. 'Safle gorau ar gyfer gorsaf niwclear'wedi ei gyhoeddi 09:16 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae datganiad Horizon yn parhau wrth ddweud y bydd y penderfyniad "yn cael effaith fawr ar bawb sy'n ymwneud â'n prosiect".

    Dywedodd Mr Hawthorne y byddai cyfnod o ymgynghori nawr yn digwydd gyda staff y cwmni.

    "Byddwn hefyd yn ymgysylltu'n agos â nifer o randdeiliaid rhyngwladol ac yn y DU sydd wedi cefnogi datblygiad y prosiect yn gryf, yn enwedig cymuned Ynys Môn yng Nghymru a gynrychiolir gan Gyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru a'r cynrychiolwyr allweddol o amgylch Oldbury."

    Ychwanegodd Horizon eu bod yn dal i gredu fod ynni niwclear yn "hollbwysig er mwyn darparu'r ynni fforddiadwy a charbon isel sicr sydd ei angen ar y DU".

    "Wylfa Newydd ar Ynys Môn ydy'r safle gorau o hyd ar gyfer datblygu gorsaf niwclear yn y DU ac rydyn ni'n dal wedi ymrwymo i barhau i gyfathrebu â'r Llywodraeth a'n rhanddeiliaid allweddol eraill ynghylch y dewisiadau ar gyfer y dyfodol yn y naill safle a'r llall," ychwanegodd Mr Hawthorne.

  5. 'Cadw'r opsiwn i ailgydio'wedi ei gyhoeddi 09:12 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mewn datganiad mae Horizon, is-gwmni Hitachi oedd yn datblygu prosiect Wylfa Newydd, wedi cadarnhau eu bod yn atal eu gwaith yn Wylfa ac yn safle Oldbury on Severn yn Sir Gaerloyw.

    Dywedodd Duncan Hawthorne, Prif Weithredwr Pŵer Niwclear Horizon: "Rydyn ni wedi bod mewn trafodaethau agos gyda Llywodraeth y DU, ar y cyd â Llywodraeth Japan, ar yr ochr ariannu a'r trefniadau masnachol cysylltiedig ar gyfer ein prosiect ers blynyddoedd.

    "Mae'n ddrwg iawn gennyf ddweud er gwaethaf ymdrechion gorau pawb a fu'n ymwneud â'r gwaith, nid ydym wedi gallu dod i gytundeb sy'n bodloni pawb dan sylw.

    "O ganlyniad byddwn yn atal y gwaith o ddatblygu prosiect Wylfa Newydd, yn ogystal â'r gwaith sy'n ymwneud ag Oldbury, nes bydd modd dod o hyd i ateb.

    "Yn y cyfamser, byddwn yn cymryd camau i leihau ein presenoldeb ond byddwn yn cadw'r opsiwn i ailgydio yn y datblygiad yn y dyfodol."

    horizon
  6. Hitachi yn atal gwaith ar Wylfa Newyddwedi ei gyhoeddi 09:07 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    NEWYDDION YN TORRI: Mae Hitachi wedi cyhoeddi eu bod yn atal eu gwaith ar gynllun Wylfa Newydd.

    Mwy i ddilyn.

  7. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich 17 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Bore da, a chroeso i'n llif byw ni ar ddiwrnod tyngedfennol i gynllun Wylfa Newydd.

    Rydyn ni'n disgwyl cyhoeddiad yn fuan gan Hitachi, y cwmni sydd y tu cefn i'r prosiect, ynghylch dyfodol y gwaith ar Ynys Môn.

    Fe fyddwn ni'n dod a rhagor o'r manylion a'r ymateb i chi yn ystod y bore.

    Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon